2096187/PLC/KXM

 

 

4 Hydref, 2016

 

 

 

 

 


Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynllun Pensiwn Aelodau

Trefniant y Rheolau

4 Hydref 2016

 

 

 


CYNNWYS

Cymal                          Pennawd                                                                                 Tudalen

RHAN UN                     DARPARIAETHAU, AELODAETH A GWEINYDDIAETH YR YMDDIRIEDOLAETH    1

Rhagarweiniad   1

1                                       Teitl                                                                                                           1

2                                       Dehongli a darpariaethau cyffredinol                                          1

ymddiriedolwyr a gweinyddiaeth                                                                                  19

3                                       Sefydlu'r gronfa                                                                                 19

4                                       Rheolwr y Cynllun                                                                              19

5                                       Penodi Ymddiriedolwyr                                                                      19

6                                       Darpariaethau gweinyddol                                                               21

7                                       Buddsoddi asedau'r gronfa                                                              22

8                                       Indemniad i'r Ymddiriedolwyr                                                           23

AELODAETH                                                                                                                                  23

9                                       Aelodaeth ar gyfer Aelodau'r Cynulliad                                     23

10                                    Aelodaeth ar gyfer Deiliaid Swyddi                                               23

11                                    Yr hawl i Aelodau'r Cynulliad optio allan                                   24

12                                    Yr hawl i ddeiliaid swyddi optio allan                                           25

13                                    Yr hawl i Aelodau'r Cynulliad optio i mewn                                 26

14                                    Yr hawl i ddeiliaid swyddi optio i mewn                                         26

15                                    gadael gwasanaeth cyfrifadwy                                                      26

16                                    ail-ymuno â gwasanaeth cyfrifadwy                                             28

17                                    Comisiwn y Cynulliad yn cyfrannu at y gronfa                          28

PRISIADAU ACTIWARAIDD                                                                                                         28

18                                    Penodi Actiwari                                                                                     29

19                                    Prisiadau actiwaraidd Y GRONFA BENSIYNAU                                  29

20                                        Cynnwys pob un o brisiadau actiwaraidd Y GRONFA BENSIYNAU       29

21                                    Prisiadau actiwaraidd Y GRONFA BENSIYNAU i'w gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                                                           30

22                                    Cap ar gostau'r cyflogwr                                                                30

23                                    Cymhwyso pensiynau                                                                          30

24                                    Talu ar ran cyfranogwyr y lwfans am oes                                 31

25                                    Lleihau gwerthoedd budd-daliadau a throsglwyddo pan fydd y tâl lwfans oes yn daladwy                                                                                     31

26                                    Didynnu o daliadau treth eraill sy’n ddyledus o dan y Ddeddf Cyllid       32

RHAN 2                         Y RHEOLAU YNGHYLCH BUDD-DALIADAU CYFFREDINOL                        34

27                                    Cyfnod Gwirioneddol o Wasanaeth Cyfrifadwy                         34

28                                    CYFANSWM GWASANAETH CYFRIFADWY                                                34

29                                    CYFRANIADAU GAN AELODAU CYNULLIAD CYFRANOGOL                      37

30                                    CYFRANIADAU GAN DDEILIAID SWYDDI CYFRANOGOL                           37

31                                    CAP ENILLION                                                                                            38

YR HAWL I BENSIWN                                                                                                                39

32                                    HAWL AELODAU CYNULLIAD SY'N BENSIYNWYR                                     39

33                                    HAWL DEILIAID SWYDD SY'N BENSIYNWYR                                             39

34                                    UCHAFSWM Y PENSIYNAU A GANIATEIR                                                  40

35                                    YR ISAFSWM PENSIWN GWARANTEDIG                                                   40

36                                    PARHAD PENSIYNAU A'R CYNNYDD MEWN PENSIYNAU                         41

rhan 3                         RHEOLAU SYSTEM BENSIYNAU CARE                                                      43

DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT                        43

37                                    DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT     43

CYFRIFO'R HAWL I BENSIWN                                                                                                   43

38                                    Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU CYNULLIAD SY'N BENSIYNWYR        43

39                                    Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU SY'N DDEILIAID SWYDDI                   44

RHAN 4                         RHEOLAU PENSIWN CYN SYSTEM BENSIYNAU CARE                             45

40                                    DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT     45

41                                    Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU CYNULLIAD SY'N BENSIYNWYR        45

42                                    Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU SY'N DDEILIAID SWYDDI                   45

RHAN 5                         BUDD-DALIADAU ATODOL                                                                         47

43                                    CYMUDO YN GYFANDALIAD                                                                      47

44                                    YMDDEOLIAD CYNNAR I AELODAU CYNULLIAD                                       48

45                                    YMDDEOLIAD I DDEILIAID SWYDDI                                                           49

46                                    PENSIYNAU HAEN 1 OHERWYDD SALWCH YN SEILIEDIG AR WASANAETH FEL AELOD CYNULLIAD CYFRANOGOL                                                                        49

47                                    PENSIYNAU HAEN 2 OHERWYDD SALWCH SY'N SEILIEDIG AR WASANAETH FEL AELOD CYNULLIAD CYFRANOGOL                                                                        51

48                                    PENSIYNAU oherwydd SALWCH YN SEILIEDIG AR WASANAETH FEL DEILIAD SWYDD CYFRANOGOL                                                                                           52

49                                    Pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-Aelodau Cynulliad

                                                                                                                                                 53

50                                    Pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-ddeiliaid swyddi  54

51                                    Gofyniad ar gyfer analluedd i weithio                                         54

52                                    Tystiolaeth feddygol                                                                         54

53                                    Pŵer ymddiriedolwr i adolygu pensiynau oherwydd salwch 55

54                                    Triniaeth gyfartal                                                                               56

55                                    Pensiynau ar gyfer dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi 57

56                                    Pensiynau ar gyfer Plant                                                                  58

57                                    Marwolaeth mewn swydd Aelod Cynulliad Cyfranogol          59

58                                    Gwella Pensiwn Cychwynnol Dibynnydd sy'n Oedolyn sydd wedi Goroesi                                                                                                                   59

59                                    Ystyr "pensiwn budd-dal marwolaeth"                                          61

60                                    Pensiynau dibynyddion                                                                       62

61                                    Pensiynau dibynyddion ar farwolaeth aelod sydd wedi'i oroesi gan briod a phartner                                                                                                63

62                                    Rhodd ar farwolaeth mewn swydd                                                63

63                                    Arian rhodd ar farwolaeth ar ôl ymddeol                                 65

64                                    Arian rhodd yswiriant marwolaeth                                               65

65                                    Hawl                                                                                                         66

66                                    Taliadau Gwarant a'r Ddeddf Cyllid                                               66

67                                    Gwarantau ar gyfer dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi           66

68                                    Gwarantau lle mae plant yn goroesi ond nad oes dibyNnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi                                                                               68

69                                    Gwarantau lle nad oes unrhyw un wedi goroesi                      68

70                                    Cyfnod addysg llawn amser plentyn yn dod i ben yn gynnar 69

71                                    Deiliaid swyddi sydd wedi marw a oedd yn bensiynwyr             69

72                                    Ad-daliadau                                                                                            70

73                                    Ad-daliad i gyfranogwr                                                                     70

74                                    Ad-daliad ar ôl marwolaeth                                                             72

75                                    Trosglwyddiadau                                                                                 72

76                                    Trosglwyddiadau i gynlluniau pensiwn eraill                            72

77                                    Effaith trosglwyddiadau allan ar wasanaeth cyfrifadwy    74

78                                    Ardystio gan yr actiwari                                                                   74

79                                    Trosglwyddiadau o gynlluniau pensiwn eraill                          74

80                           Prynu Blynyddoedd Ychwanegol gan Aelodau Cynulliad cyfranogol      75

atodlen 1                darpariaethau hanesyddol                                                               76

ATODLEN 2                CANRAN YR HAWL I BENSIWN A LEIHEIR                                                 81

ATODLEN 3                PersonAU SY'N GYMWYS I GAEL PENSIYNAU AR GYFER PLANT          84

ATODLEN 4            PRYNU BLYNYDDOEDD YCHWANEGOL                                                    86

ATODLEN 5                RHANNU PENSIWN YN DILYN YSGARIAD                                                  93

ATODLEN 6                DARPARIAETHAU TROSIANNOL                                                              101

ATODLEN 7                PRISIADAU O'R CAP AR GOSTAU'R CYFLOGWR                                     103


RHAN un

Text Box: Mae'r Rheolau hyn yn gyfystyr â chynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd at ddibenion adran 30 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013. Felly, mae rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf honno yn gymwys i'r Cynllun. Dangosir darpariaethau priodol Deddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 mewn llythrennau italig ar ddechrau'r Rheolau perthnasol.
Darpariaethau, aelodaeth a gweinyddiaeth yr ymddiriedolaeth

Rhagarweiniad

1              Teitl

1.1          Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru [2015].

2              Dehongli a darpariaethau cyffredinol

2.1          Bwriedir i’r Rheolau hyn gael eu gweinyddu yn unol â darpariaethau Deddf Cyllid 2004 ac unrhyw reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno ac i gydymffurfio ag unrhyw gyfryw ofynion statudol eraill a allai fod yn gymwys. Os oes unrhyw anghysondeb rhwng darpariaethau’r Rheolau hyn a Deddf Cyllid 2004 (neu unrhyw reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno), bydd y Ddeddf honno a/neu’r rheoliadau yn gymwys.

2.2          Yn y Rheolau hyn:

ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;

mae i "cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad" yr ystyr a roddir gan Reol 27 {cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy};

mae i "cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd" yr ystyr a roddir gan Reol 27 {cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy};

ystyr "actiwari" yw'r actiwari a benodir o dan Reol 18.1 {penodi actiwari};

ystyr “blwyddyn ychwanegol” yw cyfnod neu gyfnodau o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad a brynir o dan Reol 80 {Aelodau Cynulliad cyfranogol yn prynu blynyddoedd ychwanegol} ac Atodlen 4 {prynu blynyddoedd ychwanegol} gan gynnwys rhan o flwyddyn a fynegir mewn diwrnodau;

mae i "cyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad" yr ystyr a roddir gan Reol 28 {cyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy};

mae i "cyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd" yr ystyr a roddir gan Reol 28 {cyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy};

ystyr "y ffracsiwn priodol ar gyfer Aelod Cynulliad" yw:

(a)           mewn perthynas â blwyddyn neu ran o flwyddyn a gynhwysir yng nghyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy Aelod Cynulliad lle na ostyngir cyflog arferol yr aelod drwy orchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu o dan adran 21 (terfyn cyflogau aelodau o gyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf, y ffracsiwn a nodir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 {darpariaethau hanesyddol}; a

(b)           mewn perthynas â blwyddyn neu ran o flwyddyn a gynhwysir yng nghyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy Aelod Cynulliad lle y gostyngir neu y gostyngwyd cyflog arferol yr aelod drwy orchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu o dan adran 21 o’r Ddeddf, ar gyfer y cyfnodau pan oedd cyflog yr Aelod Cynulliad wedi’i ostwng, y ffracsiwn a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 1 {darpariaethau hanesyddol};

ystyr "cyflog CARE Aelod Cynulliad" yw swm y cyflog gwirioneddol a dalwyd i Aelod Cynulliad yn ystod y flwyddyn CARE (enillion gyrfa cyfartalog wedi eu hailbrisio) o dan sylw yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad, ac eithrio unrhyw gyflog deiliad swydd, ar yr amod na fydd cyflog CARE yr Aelod Cynulliad yn fwy na'r uchafswm a ganiateir;

ystyr "cyflog cyfraniad Aelod Cynulliad" yw cyflog arferol Aelod Cynulliad ar yr amod, lle y gostyngir cyflog arferol Aelod Cynulliad drwy orchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu o dan adran 21 (terfyn cyflogau aelodau o gyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf, mai ystyr "cyflog cyfraniad Aelod Cynulliad" yw lefel ostyngol y cyflog a delir i’r aelod;

ystyr “cyflog arferol Aelod Cynulliad” yw swm y cyflog sy’n daladwy o dro i dro i Aelod Cynulliad o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu adran 20 o’r Ddeddf ac eithrio unrhyw gyflog deiliad swydd a allai fod yn daladwy i’r Aelod Cynulliad yn rhinwedd ei swydd fel deiliad swydd;

mae i "cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad" yr ystyr a roddir gan Reol 27 {cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy};

ystyr "cyflog terfynol Aelod Cynulliad":

(a)           mewn perthynas ag aelod a fu’n Aelod Cynulliad cyfranogol am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu am ddau neu fwy o gyfnodau sy’n gwneud cyfanswm o fwy na 12 mis, yw swm cyflog arferol yr Aelod Cynulliad am y 12 mis diwethaf (yn barhaus neu’n ysbeidiol) pan oedd y person hwnnw yn Aelod Cynulliad cyfranogol; a

(b)           mewn perthynas â pherson a fu’n Aelod Cynulliad cyfranogol, ond yr oedd ei gyfnod gwirioneddol o wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol yn llai na 12 mis, yw swm a gyfrifir drwy nodi cyfanswm cyflog arferol yr Aelod Cynulliad ar gyfer y cyfnod (yn barhaus neu’n ysbeidiol) pan oedd yn Aelod Cynulliad cyfranogol a’i luosi â’r ffigur priodol (pa un a yw'n gyfanrif ai peidio), y mae’n rhaid lluosi nifer y dyddiau a gynhwysir yn ei gyfnod o wasanaeth fel Aelod Cynulliad ag ef, er mwyn bod yn gyfartal â blwyddyn;

ar yr amod:

(i)         os bydd Aelod Cynulliad cyfranogol yn gadael gwasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyn y dyddiad cychwyn ac yna'n ailymuno â'r Cynllun ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny ac yn cronni cyfnod pellach o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad, y caiff ei gyflog terfynol fel Aelod Cynulliad ei gyfrifo ar ddyddiad y tro diwethaf y gadawodd wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyn y dyddiad cychwyn; ac

(ii)        os bydd Aelod Cynulliad cyfranogol yn gadael gwasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny ac yna'n ailymuno â'r Cynllun ac yn cronni cyfnod pellach o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad, y caiff ei gyflog terfynol fel Aelod Cynulliad ei gyfrifo ar ddyddiad y tro cyntaf y gadawodd wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyn y dyddiad cychwyn;

ystyr “Comisiwn y Cynulliad” yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd o dan adran 27 o’r Ddeddf;

ystyr "Aelod Cynulliad" yw Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "cyflog Aelod Cynulliad" yw swm y cyflog gwirioneddol a delir i Aelod Cynulliad o dro i dro ac eithrio unrhyw gyflog deiliad swydd;

ystyr "budd-daliadau CARE", yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a nodir yn Atodlen 6, yw budd-daliadau a gronnir drwy gyfeirio at y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy ar y dyddiad cychwyn ac ar ôl hynny ac wedi'u cyfrifo yn unol â Rhan 3 o'r Rheolau;

ystyr "credyd budd-daliadau CARE", mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn CARE, yw swm o bensiwn a gyfrifir fel y nodir yn Rheol 38.2{cyfrifo credyd pensiwn CARE};

ystyr "blwyddyn CARE" yw cyfnod o un flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill bob blwyddyn ac yn dod i ben ar 31 Mawrth y flwyddyn olynol;

ystyr "swm arian parod cyfatebol" yw gwerth trosglwyddo arian parod cyfatebol a gyfrifir yn unol â Phennod 1 o Ran 4ZA o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993;

ystyr "plentyn" mewn perthynas ag aelod sydd wedi marw yw person sydd:

(a)           yn blentyn naturiol i'r aelod (gan gynnwys plentyn siawns); neu

(b)           yn llysblentyn i'r aelod; neu

(c)           yn blentyn y mae’r aelod wedi ei fabwysiadu yn gyfreithiol; neu

(d)           yn blentyn i'r aelod sydd wedi'i genhedlu ond heb ei eni eto;

a dehonglir "plant" yn unol â hynny;

ystyr "pensiwn ar gyfer plentyn" yw pensiwn sy'n daladwy yn unol â Rheol 56{pensiynau ar gyfer plant};

ystyr "partner sifil" yw person a gofrestrwyd yn bartner sifil yn unol â'r gweithdrefnau a bennir yn Neddf Partneriaeth Sifil 2004, ac unrhyw ddiwygiad, ailddeddfiad neu addasiad statudol a wneir iddi;

ystyr "dyddiad cychwyn" yw 6 Mai 2016.  Ond, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn arfer ei bŵer o dan adran 4 o'r Ddeddf i newid dyddiad etholiad cyffredinol arferol nesaf y Cynulliad, bydd yn golygu'r diwrnod ar ôl y bleidlais yn yr etholiad hwnnw;

ystyr "gwrthdaro buddiannau" yw buddiant ariannol neu fuddiant arall sy'n debygol o effeithio ar y ffordd y mae Ymddiriedolwr yn arfer ei swyddogaethau (ond nid yw'n cynnwys buddiant ariannol neu fuddiant arall o ganlyniad i fod yn aelod o'r Cynllun);

ystyr "cynllun a gontractiwyd allan" yw cynllun pensiwn galwedigaethol a bennir am y tro mewn tystysgrif contractio allan a gyhoeddwyd o dan adran 7 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993;

ystyr "gofynion contractio allan" yw'r gofynion y mae angen eu bodloni er mwyn cael gafael ar dystysgrif contractio allan a chynnal tystysgrif o'r fath o dan Bennod I Rhan III o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1992 drwy gyfeirio at y Cynllun;

mae i "premiwm cyfatebol i gyfraniadau" yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 55(2) a 58(4) o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993;

ystyr "ffactor cyfraniad", ar gyfer pob blwyddyn ariannol o'r Cynllun yr oedd y flwyddyn gyfan neu unrhyw ran ohoni wedi’i chynnwys yng nghyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy y cyfranogwr fel deiliad swydd cyn y dyddiad cychwyn, yw'r swm a gyfrifir o dan is-baragraff (a) wedi’i rannu gan y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (b) o’r paragraff hwn:

(a)           swm sy’n hafal i gyfraniadau'r aelod cyfranogol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol honno o'r Cynllun ac eithrio, at y diben hwn, caiff y rhan honno o gyfraniadau'r cyfranogwr o dan Reol 30.3 sy’n cynrychioli cyfraniad parhaus Comisiwn y Cynulliad ei diystyru; a

(b)           swm sy’n hafal i’r cyfanswm a ddidynnwyd o dan Reol 29 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} o gyflog arferol Aelod Cynulliad mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol honno o'r Cynllun;

mae i "cost y cap ar gostau" yr ystyr a roddir yn Atodlen 7, paragraff 6;

ystyr "prisiad y cap ar gostau" yw prisiad o gost cronni budd-daliadau CARE a wneir yn unol ag Atodlen 7;

mae i "dyddiad prisiad y cap ar gostau" yr ystyr a roddir yn Atodlen 7, paragraffau 3 a 4;

ystyr "dyddiad marwolaeth" yw'r dyddiad y bu farw'r aelod;

mae i "pensiwn budd-dal marwolaeth" yr ystyr a roddir iddo gan Reol 59 {ystyr pensiwn budd-dal marwolaeth};

ystyr “pensiynwr gohiriedig” yw person:

(a)           sydd wed bod, ond wedi peidio â bod, yn gyfranogwr; a

(b)           sydd wedi cronni hawliau i bensiwn o dan y Cynllun, ac nad oes ganddo hawl eto i gael pensiwn o’r Cynllun neu nad oedd ganddo hawl i hynny ar adeg ei farwolaeth;

ystyr “dibynnydd” yw person a fu’n ddibynnol yn ariannol ar yr aelod ac a ddylai yn briodol gael budd-dal o dan y Cynllun ym marn yr Ymddiriedolwyr yn achos marwolaeth yr aelod pa un a yw’r aelod wedi hysbysu’r Ymddiriedolwyr ei fod yn dymuno i’r person hwnnw gael ei ystyried fel person sy’n cael y cyfryw fudd-daliadau ai peidio;

ystyr "dyddiad ymuno gweithredol" yw:

(a)           yn achos Aelod Cynulliad sydd wedi optio allan, dyddiad unrhyw etholiad cyffredinol canlynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw ddigwyddiad canlynol lle caiff yr aelod a oedd wedi optio allan ei ethol yn Aelod Cynulliad; a 

(b)           yn achos deiliad swydd sydd wedi optio allan, dyddiad cychwyn cyfnod newydd o fod yn ddeiliad swydd gymwys;

mae i "cap ar gostau'r cyflogwr" yr ystyr a bennir yn Atodlen 7, paragraffau 8 a 9;

ystyr "cyflog terfynol" yw:

(a)           mewn perthynas ag aelod a fu’n gyfranogwr am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu am ddau neu fwy o gyfnodau sy’n gwneud cyfanswm o fwy na 12 mis, swm y cyflog gwirioneddol a dalwyd am y 12 mis diwethaf (yn barhaus neu’n ysbeidiol) pan oedd y person hwnnw yn gyfranogwr; a

(b)           mewn perthynas â pherson a fu’n gyfranogwr, ond yr oedd ei gyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy yn llai na 12 mis, swm a gyfrifir drwy nodi cyfanswm y cyflog gwirioneddol a dalwyd am y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy (yn barhaus neu’n ysbeidiol) a’i luosi â’r ffigur priodol (pa un a yw'n gyfanrif ai peidio) y mae’n rhaid ei luosi â nifer y dyddiau a gynhwysir yn ei gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy er mwyn bod yn gyfartal â blwyddyn;

ystyr "Deddf Cyllid" yw Deddf Cyllid 2004 ac unrhyw ddiwygiad, ailddeddfiad neu addasiad statudol a wneir iddi;

ystyr "ffracsiwn o flwyddyn" yw rhan o flwyddyn o wasanaeth cyfrifadwy a fynegir fel cyfran nifer y diwrnodau yn y rhan honno i dri chant a chwe deg a phump; a dylid dehongli "ffracsiwn o flwyddyn ychwanegol" yn unol â hynny;

ystyr "Cronfa" yw’r gronfa a gynhelir o dan Reol 3{sefydlu'r gronfa};

ystyr "gwaith cyflogedig" yw gwaith o dan gontract cyflogaeth, gwasanaeth neu brentisiaeth neu fel deiliad swydd (gan gynnwys dal swydd gyhoeddus neu wasanaethu fel Cynghorydd) neu fel person hunangyflogedig sy’n ymgymryd â busnes neu broffesiwn, sef pa bynnag waith y mae’r person dan sylw yn ennill ei incwm cyfan neu gyfran sylweddol ohono oddi wrtho;

ystyr "cyflog rhodd" yw'r cyflog gwirioneddol yr oedd cyfranogwr yn ei gael yn union cyn ei farwolaeth, ac, er mwyn osgoi amheuaeth yn achos deiliad swydd cyfranogol, y cyflog rhodd fydd cyfanswm y swm blynyddol sy'n daladwy i'r deiliad swydd mewn perthynas â'r swydd honno a ddelir ganddo a’r cyflog blynyddol sydd neu a oedd yn daladwy iddo fel Aelod Cynulliad sy’n dal y swydd honno;

mae i "isafswm pensiwn gwarantedig" yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 8 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993;

mae i "oedran isafswm pensiwn gwarantedig" yr un ystyr ag "oedran pensiwn" yn adran 181 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 at ddibenion darpariaethau sy'n ymwneud â'r isafswm pensiynau gwarantedig;

ystyr "Cyllid a Thollau EM" yw Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr "Ymddiriedolwr annibynnol" yw person nad yw'n aelod nac yn un o gyflogeion Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "llog" (lle y cyfeirir at dalu unrhyw swm â llog) yw adlog ar gyfradd o [dri] y cant y flwyddyn uwchben cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o dro i dro, cyfrifir y llog gyda seibiannau blynyddol;

ystyr "yr adeg berthnasol" yw'r adeg pan fo cyfranogwr yn peidio â bod yn gyfranogwr;

mae i "yr uchafswm y gellir ei gymudo" yr un ystyr â'r "uchafswm a ganiateir" sy’n ymwneud â "cyfandaliadau cychwyn pensiwn" fel y’u diffinnir ac y’u nodir yn Atodlen 29 i’r Ddeddf Cyllid, neu’r cyfryw swm uwch ag a ganiateir gan Atodlen 36 i’r Ddeddf Cyllid, lle mae gan y person fuddiant ar ffurf diogelwch cyfandaliadau cychwyn pensiwn;

ystyr "aelod" yw cyfranogwr, pensiynwr gohiriedig neu un o bensiynwyr y Cynllun a dehonglir "aelodaeth" yn unol â hynny;

ystyr "Cynulliad Cenedlaethol Cymru" yw, yn ôl y cyd-destun, naill ai'r Cynulliad a sefydlwyd gyntaf gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu'r Cynulliad a sefydlwyd gan adran 1 o'r Ddeddf;

ystyr "oedran ymddeol arferol" yw:

(a)           mewn perthynas â budd-daliadau cyn system bensiynau CARE, 65 oed; neu

(b)           mewn perthynas â budd-daliadau CARE, naill ai 65 oed neu oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod, pa un bynnag sydd hwyraf;

{Gweler hefyd adran 10 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

ystyr "oedran pensiwn gofynnol arferol" yw:

(a)           yn achos unigolyn a oedd yn gyfranogwr neu'n bensiynwr gohiriedig yn y Cynllun cyn 6 Ebrill 2006, 50 oed; neu

(b)           yn achos unigolyn a ddaeth yn gyfranogwr yn y Cynllun am y tro cyntaf ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006, 55 oed, oni bai bod gan yr unigolyn hwnnw fudd oedran pensiwn wedi ei ddiogelu yn unol â darpariaethau paragraff 22 o Atodlen 36 i’r Ddeddf Cyllid, ac yn yr achos hwnnw yr ystyr fydd ei oedran pensiwn wedi ei ddiogelu;

ystyr "deiliad swydd" yw deiliad swydd gymwys;

mae i "ffracsiwn priodol ar gyfer deiliad swydd" yr ystyr a roddir ym mharagraff 11 o Atodlen 1 {darpariaethau hanesyddol};

ystyr"cyflog CARE deiliad swydd" yw swm y cyflog gwirioneddol a dalwyd i aelod yn ystod y flwyddyn CARE o dan sylw yn rhinwedd ei swydd fel deiliad swydd ac eithrio unrhyw gyflog Aelod Cynulliad ar yr amod na fydd cyflog CARE y deiliad swydd yn fwy na'r uchafswm a ganiateir;

ystyr "cyflog cyfraniad deiliad swydd" yw'r gwahaniaeth rhwng:

(a)           cyfanswm y swm blynyddol sy'n daladwy i'r deiliad swydd mewn perthynas â'r swydd honno a ddelir ganddo a’r cyflog blynyddol sydd neu a oedd yn daladwy iddo fel Aelod Cynulliad sy'n dal y swydd honno; a

(b)           cyflog cyfraniad Aelod Cynulliad;

mae i "cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd" yr ystyr a roddir gan Reol 27 {cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy};

ystyr "cyflog arferol deiliad swydd" yw swm y cyflog sy’n daladwy o dro i dro i ddeiliad swydd o dan adran 20 neu adran 53 o'r Ddeddf ac eithrio unrhyw gyflog Aelod Cynulliad;

ystyr "credyd pensiwn deiliad swydd", mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn CARE, yw swm o bensiwn a gyfrifir fel y nodir yn Rheol 39.2 {cyfrifo credyd pensiwn deiliad swydd};

ystyr "cyflog deiliad swydd" yw swm y cyflog gwirioneddol a delir i ddeiliad swydd o dro i dro ac eithrio unrhyw gyflog Aelod Cynulliad;

ystyr "cyflog terfynol deiliad swydd" (cyn system bensiynau CARE) yw:

(a)         mewn perthynas ag aelod a fu'n ddeiliad swydd cyfranogol am gyfnod o 12 mis neu fwy, swm cyflog arferol yr Aelod Cynulliad am y 12 mis diwethaf (boed yn barhaus neu'n ysbeidiol) a gynhwysir yn y cyfnod gwirioneddol hwnnw o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd; a

(b)        mewn perthynas ag aelod yr oedd ei gyfnod gwirioneddol o wasanaeth fel deiliad swydd yn llai na 12 mis, swm cyflog arferol yr Aelod Cynulliad ar gyfer y cyfnod gwirioneddol hwnnw o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd wedi ei luosi â’r ffigur priodol (pa un a yw'n gyfanrif ai peidio) y mae’n rhaid lluosi nifer y dyddiau a gynhwysir yn ei gyfnod o wasanaeth gwirioneddol fel deiliad swydd ag ef er mwyn bod yn gyfartal â blwyddyn; 

pan fydd Aelod Cynulliad cyfranogol wedi talu cyfraniadau ychwanegol o dan Reol 30.3{cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol}, caiff "cyflog terfynol y deiliad swydd" ei benderfynu ar ddiwedd y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd yn union wedi’r cyfnod interim pan oedd y cyfraniadau ychwanegol yn ddyledus;

ystyr "Aelod Cynulliad sydd wedi optio allan" yw Aelod Cynulliad sydd wedi arfer ei hawl o dan Reol 11.1 {yr hawl i Aelodau Cynulliad optio allan} i optio allan o'r Cynllun;

ystyr "deiliad swydd sydd wedi optio allan" yw deiliad swydd sydd wedi arfer ei hawl o dan Reol 12.1 {yr hawl i ddeiliaid swyddi optio allan} i beidio â bod yn ddeiliad swydd cyfranogol neu sydd wedi arfer yr opsiwn o dan Reol 11.1 {yr hawl i Aelodau Cynulliad optio allan} i optio allan o'r Cynllun;

ystyr "cynllun tramor" yw cronfa neu gynllun pensiwn a sefydlir y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a weinyddir yn llwyr neu'n bennaf y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

ystyr "cyfranogwr" yw person sy’n gwneud cyfraniadau i’r Cynllun a gall fod naill ai’n Aelod Cynulliad cyfranogol neu’n ddeiliad swydd cyfranogol neu’n Aelod Cynulliad cyfranogol ac yn ddeiliad swydd cyfranogol;

ystyr "cyfraniad cyfranogwr" yw unrhyw swm a ddidynnir o gyflog cyfranogwr neu unrhyw swm y bernir ei fod wedi ei dalu gan gyfranogwr o dan Reol 29{cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} neu Reol 30{cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol} a dehonglir unrhyw gyfeiriadau at dalu cyfraniad cyfranogwr yn unol â hynny;  

ystyr "Aelod Cynulliad cyfranogol" yw person sy’n gwneud cyfraniadau i’r Cynllun wedi’u didynnu o’i gyflog fel Aelod Cynulliad (neu sydd wedi’i esgusodi rhag gwneud y cyfryw gyfraniadau gan fod cyfanswm ei wasanaeth cyfrifadwy yn fwy na’r hyn a fyddai’n arwain at yr uchafswm pensiwn a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan y Cynllun);

ystyr "deiliad swydd cyfranogol" yw person sy’n gwneud cyfraniadau i’r Cynllun wedi’u didynnu o’i gyflog fel deiliad swydd;

ystyr "partner" yw person o'r naill ryw neu'r llall a oedd:

(a)           yn cyd-fyw â'r aelod ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ac a oedd wedi bod yn cyd-fyw â'r aelod am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn marwolaeth yr aelod; a

(b)           wedi’i enwebu’n ysgrifenedig gan yr aelod hwnnw o leiaf chwe mis cyn marwolaeth yr aelod fel y person y dymunodd yr aelod i bensiwn Partner gael ei dalu iddo neu iddi o dan y Rheol hon; ac

(c)           ym marn yr Ymddiriedolwyr naill ai’n ddibynnol yn ariannol ar yr aelod hwnnw neu’n gyd-ddibynnol yn ariannol â’r aelod hwnnw ac sydd wedi rhoi tystiolaeth o fodolaeth y ddibyniaeth ariannol honno neu’r gyd-ddibyniaeth ariannol honno a oedd yn bodoli am o leiaf cyfnod o 12 mis cyn marwolaeth yr aelod;

ystyr "pensiwn" yw unrhyw bensiwn a delir o dan y Cynllun ond nid yw'n cynnwys lwfans nac arian rhodd;

mae i "bwrdd pensiynau" yr ystyr a nodir yn adran 5 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013;

ystyr "pensiynwr" yw person sydd â hawl i gael pensiwn o’r Cynllun a gall fod naill ai’n Aelod Cynulliad sy’n bensiynwr neu’n ddeiliad swydd sy’n bensiynwyr neu’n Aelod Cynulliad sy’n bensiynwr ac yn ddeiliad swydd sy’n bensiynwr;

ystyr "Aelod Cynulliad sy’n bensiynwr" yw person sydd â hawl i gael pensiwn o’r Cynllun (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch) mewn perthynas â’i wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad;

ystyr "dyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr", mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn perthnasol i Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr, yw’r dyddiad cynharaf o’r canlynol:

(a)          

(i)            y diwrnod cyn y dyddiad y bydd y plentyn yn 17 oed; neu

(ii)           os yw’r plentyn o fewn ei gyfnod o addysg amser llawn fel y’i diffinnir yn Atodlen 3 {personau sy'n gymwys i gael pensiynau ar gyfer plant}, y cyfryw ddyddiad hwyrach ag a bennir gan yr Ymddiriedolwyr sydd heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyn y diwrnod y bydd plentyn yn cyrraedd 23 oed; a

(b)           diwedd cyfnod pum mlynedd yr Aelod Cynulliad sy’n bensiynwr;

ystyr "cyfnod pum mlynedd yr Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr” yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daeth yr Aelod Cynulliad sy’n bensiynwr yn gymwys i gael pensiwn neu bensiynau o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch sy’n daladwy o dan Reol 44{ymddeoliad cynnar i Aelodau Cynulliad}, 46{pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy’n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol}, 47 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch} neu 49{pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-Aelodau Cynulliad});

ystyr "deiliad swydd sy’n bensiynwr" yw person sydd â hawl i gael pensiwn o’r Cynllun (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch) mewn perthynas â’i wasanaeth fel deiliad swydd;

ystyr"dyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant deiliad swydd sy’n bensiynwr", mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn perthnasol i ddeiliad swydd sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr, yw’r dyddiad cynharaf o’r canlynol:

(a)            

(i)            y diwrnod cyn y dyddiad y bydd y plentyn yn 17 oed; neu

(ii)           os yw’r plentyn o fewn ei gyfnod o addysg amser llawn fel y’i diffinnir yn Atodlen 3 {personau sy'n gymwys i gael pensiynau ar gyfer plant}, y cyfryw ddyddiad hwyrach ag a bennir gan yr Ymddiriedolwyr sydd heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyn y diwrnod y bydd plentyn yn cyrraedd 23 oed;

a

(b)           diwedd cyfnod pum mlynedd y deiliad swydd sy’n bensiynwr;

ystyr "cyfnod pum mlynedd y deiliad swydd sy’n bensiynwr" yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daeth yn gymwys i gael pensiwn o dan Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch sy’n daladwy o dan Reol 45{ymddeoliad cynnar i ddeiliaid swyddi}, 48{pensiynau oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel deiliad swydd sy'n gyfranogwr} neu 50 {pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-ddeiliaid swyddi});

ystyr "cyfraniadau cyfnodol" yw’r symiau sy’n daladwy gan Aelod Cynulliad cyfranogol y mae’r Ymddiriedolwyr wedi derbyn ei gais i brynu blynyddoedd ychwanegol, ac eithrio drwy un taliad;

ystyr "parhaol" mewn perthynas â sefyllfa neu gyflwr iechyd yw y bydd y sefyllfa neu’r cyflwr yn parhau nes bod yr ymgeisydd yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol a dehonglir "yn barhaol" yn unol â hynny;

ystyr"yr uchafswm a ganiateir" (ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn nodi fel arall):

(a)           mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth 2007-2008, yw’r ffigur a bennwyd ar gyfer y flwyddyn dreth honno mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 590C o Ddeddf Trethi 1988; a

(b)           mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn dreth ddiweddarach yn dechrau â 2007-2008, yw’r cyfryw swm a bennir gan Ymddiriedolwyr y Cynllun o dro i dro ac a gaiff ei basio drwy benderfyniad mwyafrif yr Ymddiriedolwyr sy’n bresennol mewn cyfarfod â chworwm. Wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â hyn, tybir bod yr Ymddiriedolwyr wedi pennu swm arian parod sefydlog nad yw’n cynyddu, oni nodir yn wahanol.  Bydd y swm a ddewisir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr yn parhau hyd nes y bydd yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu ei adolygu a’i ddiwygio. Gall yr Ymddiriedolwyr ar unrhyw adeg ar ôl hynny, ddewis datgymhwyso’r uchafswm a ganiateir drwy gyfeirio at enillion pensiynadwy aelodau yn y dyfodol ar yr amod eu bod wedi ystyried cyngor actiwaraidd priodol;

ystyr "budd-daliadau cyn system bensiynau CARE", yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a nodir yn atodlen 6, yw budd-daliadau a gronnir drwy gyfeirio at y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy cyn y dyddiad cychwyn ac wedi'u cyfrifo yn unol â Rhan 4 o'r Rheolau;

ystyr "gofynion cadw" yw gofynion Rhan IV o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 sy'n ymwneud â hawliau pensiynwr gohiriedig;

ystyr "swydd gymwys" yw unrhyw rai o'r swyddi a ganlyn:

(a)           Llywydd y Cynulliad;

(b)           Dirprwy Lywydd y Cynulliad;

(c)           Prif Weinidog Cymru;

(d)           Gweinidogion Cymru;

(e)           Dirprwy Weinidogion Cymru;

(f)            y Cwnsler Cyffredinol;

(g)           aelodau Comisiwn y Cynulliad (ac eithrio Llywydd y Cynulliad); a

(h)           unrhyw swydd arall y mae cyflog sy’n ychwanegol at gyflog Aelod Cynulliad yn daladwy am y tro mewn perthynas â hi o dan unrhyw benderfyniad a wnaed o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu o dan adran 20 neu 53 o’r Ddeddf;

ystyr "cyfnod deiliadaeth swydd gymwys" yw unrhyw gyfnod parhaus sy’n dechrau ar 6 Mai 1999 neu ar ôl hynny lle y mae person:

(a)           yn dal yr un swydd gymwys; neu

(b)           yn dal dwy neu fwy o swyddi cymwys yn olynol a bod yr un cyflog yn daladwy mewn perthynas â hwy;

mae i "cynllun tramor cydnabyddedig cymwys" yr ystyr a roddir yn adran 169 o'r Ddeddf Cyllid;

ystyr "cynllun derbyn" yw:

(a)           cynllun pensiwn cofrestredig;

(b)           "cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys" fel y'i diffinnir yn adran 169(2) o Ddeddf Cyllid 2004; neu

(c)           "yswiriwr" fel y'i diffinnir yn adran 180A o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993;

sy'n barod i dderbyn trosglwyddiad ac yn gallu gwneud hynny.

ystyr "gwasanaeth cyfrifadwy" yw cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad a/neu gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd fel y bo'n briodol;

mae i "cynllun pensiwn cofrestredig" yr un ystyr ag a nodir yn adran 150 o’r Ddeddf Cyllid;

ystyr"plentyn perthnasol", yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a nodir yn Atodlen 3 {personau sy’n gymwys i gael pensiynau ar gyfer plant}, yw unrhyw blentyn i'r aelod sydd wedi marw, neu unrhyw blentyn i wraig neu ŵr, priod o'r rhyw neu bartner sifil yr aelod sydd wedi marw:

(a)           sydd o dan 17 oed; neu

(b)           nad yw wedi cyrraedd 23 oed ac sydd o fewn cyfnod o addysg amser llawn fel y’i diffinnir yn Atodlen 3 {personau sy'n gymwys i gael pensiynau ar gyfer plant}; neu

(c)           a oedd ar adeg marwolaeth yr aelod sydd wedi marw yn llwyr ddibynnol neu’n bennaf ddibynnol ar yr aelod sydd wedi marw ac a oedd bryd hynny ac a fu byth oddi ar hynny naill ai’n berson sy’n dod o dan is-baragraff (a) neu (b) y paragraff hwn neu’n analluog, ac yn debygol o fod yn analluog yn barhaol, oherwydd nam corfforol neu feddyliol yn unol â pharagraff 15(3) o Atodlen 28 o’r Ddeddf Cyllid, o ennill ei fywoliaeth, ac nad yw am y tro yn cael ei gynnal felly gan arian a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y Deyrnas Unedig mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu

(d)           a oedd eisoes wedi’i genhedlu ond nad oedd wedi’i eni ar adeg marwolaeth yr aelod sydd wedi marw;

ystyr "dyddiad perthnasol" yw’r dyddiad perthnasol ar gyfer penderfynu ar bensiwn person o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Rheolau hyn;

ystyr "y Bwrdd Taliadau" yw Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010;

ystyr "dyddiad terfyn ar gyfer ailbrisio" yw'r dyddiad ailbrisio yn union cyn y dyddiad y caiff pensiwn ei gyfrifo o dan Reol 38 {y swm sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} neu 39 {y swm sy'n daladwy i ddeiliaid swyddi sy'n bensiynwyr};

ystyr "dyddiad ailbrisio" yw 1 Ebrill bob blwyddyn;

ystyr "Rheolau" yw Trefniant y Rheolau fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;

ystyr "priod o'r un rhyw" yw person sy'n briod yn gyfreithiol â rhywun o'r un rhyw. Er mwyn osgoi amheuaeth, dylai gynnwys aelod o gwpl o'r un rhyw sydd wedi troi eu partneriaeth sifil yn briodas;

ystyr "Cynllun" yw Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Gweinyddwr y Cynllun" yw’r sawl sydd wedi cwblhau datganiad adran 270 o dan y Ddeddf Cyllid ac sy’n atebol i Cyllid a Thollau EM am unrhyw atebolrwydd treth sy’n codi mewn cysylltiad â’r Cynllun yn unol â gofynion y Ddeddf honno;

ystyr "blwyddyn ariannol y Cynllun" yw blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac yn dod i ben ar y 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol;

mae i "rheolwr y Cynllun" yr ystyr a nodir yn adran 4 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013;

ystyr "oedran pensiwn y wladwriaeth", mewn perthynas â pherson, yw oedran pensiwn y person a nodir o bryd i'w gilydd yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau 1995;

ystyr "dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi" yw priod neu bartner yr aelod sy'n goroesi ar ddyddiad marwolaeth yr aelod;

ystyr "priod sy'n goroesi" yw person, o'r un rhyw neu'r rhyw arall, a oedd yn briod yn gyfreithiol â'r aelod neu'n bartner sifil i'r aelod ar ddyddiad marwolaeth yr aelod;

ystyr "Deddf Trethi 1988" yw Deddf Treth Incwm a Threth Corfforaeth 1988;

ystyr "blwyddyn dreth" yw blwyddyn sy’n dechrau ar 6 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol;

ystyr "cyfnod tri mis", mewn perthynas â pherson a fu farw, yw’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth;

ystyr "pensiwn haen 1 oherwydd salwch" yw pensiwn sy'n daladwy yn unol â Rheol 46{pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy’n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol};

ystyr "pensiwn haen 2 oherwydd salwch" yw pensiwn sy'n daladwy yn unol â Rheol 47{pensiynau haen 2 oherwydd salwch sy'n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol};

ystyr "Ymddiriedolwyr" yw ymddiriedolwyr y Cynllun a benodir o bryd i'w gilydd yn unol â Rheol 5 {Penodi Ymddiriedolwyr}.

2.3          Yn y Rheolau hyn, oni bai bod y bwriad i'r gwrthwyneb i'w weld:

(a)           mae cyfeiriad at Reol neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y Rheol o blith y Rheolau sydd wedi'u rhifo fel hyn, neu'r Atodlen iddynt; ac

(b)           mae cyfeiriad mewn Rheol neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y Rheol neu'r Atodlen sydd wedi'u rhifo fel hyn.

2.4          Yn y Rheolau hyn:

(a)            mae cyfeiriadau at:

(i)            "ymgeisydd ar gyfer etholiad" yn cynnwys person ar restr ymgeiswyr plaid wleidyddol gofrestredig; ac

(ii)           mae "etholedig" yn cynnwys person a etholwyd ar gyfer un o ranbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

a dylid dehongli ymadroddion cysylltiedig (gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag ail-ethol) yn unol â hynny; ac

(b)           oni bai bod y bwriad i'r gwrthwyneb i'w weld, bydd gan ymadroddion yr ystyr sydd iddynt yn y Ddeddf.

2.5          At ddibenion pennu hawl unrhyw berson i fod yn Aelod Cynulliad cyfranogol neu ddeiliad swydd cyfranogol yn y Cynllun, ac at ddibenion cyfrifo gwerth unrhyw fudd-daliadau sy'n daladwy i gyfranogwr o'r fath, dylid diystyru unrhyw doriad o ran parhad ei gyfnod ef neu hi yn y swydd fel Aelod Cynulliad y gellir ei briodoli i adran 2 (5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 neu adran 14 o'r Ddeddf.

2.6          Yn unol â Rheol 2.7:

(a)           mae cyfeiriadau yn y Rheolau at briod yn cynnwys partner sifil a phriod o'r un rhyw ac mae cyfeiriadau yn y Rheolau at gyn-briod i'w dehongli'n unol â hynny;

(b)           mae cyfeiriadau yn y Rheolau at weddw neu ŵr gweddw yn cynnwys priod o'r un rhyw neu bartner sifil sy'n fyw o hyd; ac

(c)           mae cyfeiriadau yn y Rheolau at briodas yn cynnwys priodas rhwng pâr o'r un rhyw a phartneriaeth sifil ac mae'r term "priod" (ac ymadroddion cysylltiedig) i'w dehongli'n unol â hynny.

2.7          Mae'r darpariaethau dehongli a nodir yn Rheol  2.6  yn berthnasol mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau ynghylch cyfrifo neu dalu isafswm pensiynau gwarantedig dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i'r Cynllun ddarparu ar gyfer isafswm pensiynau i briod o'r un rhyw neu bartner sifil ar y sail fel y mae wedi'i nodi yn adran 17 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993.

2.8          Mae'r tabl cynnwys, penawdau darpariaethau'r weithred hon, geiriau rhwng y symbolau { } a'r geiriau mewn llythrennau italig ar ddechrau unrhyw Reol at ddibenion cyfeirio yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar ystyr na ffurf y weithred hon.

ymddiriedolwyr a gweinyddiaeth

3              Sefydlu'r gronfa

3.1          Bydd cronfa yn cael ei chynnal at ddibenion y Cynllun hwn ac yn cael ei mireinio a'i gweinyddu gan yr Ymddiriedolwyr o bryd i'w gilydd.

3.2          Bydd pensiwn a symiau eraill sy'n daladwy o dan y Rheolau hyn gan yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys premiwm cyfatebol i gyfraniadau sy'n daladwy i gyn-gyfranogwyr, yn cael eu talu o'r gronfa, a bydd yr holl symiau y mae'r Ymddiriedolwyr yn eu derbyn o dan y Rheolau hyn yn cael eu talu i'r gronfa.

3.3          Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cadw'r asedau a'r arian o bryd i'w gilydd sydd yn y gronfa ar ymddiriedaeth yn unol â darpariaethau eraill y Cynllun.

4              Rheolwr y Cynllun

{Gweler hefyd adrannau 4 ac 14 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

4.1          Comisiwn y Cynulliad fydd Rheolwr y Cynllun at ddibenion Adran 4 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yn gyfrifol am reoli neu weinyddu'r Cynllun.

4.2          Bydd Comisiwn y Cynulliad yn rhoi datganiadau budd-daliadau i bob cyfranogwr yn unol ag adran 14 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus.

5              Penodi Ymddiriedolwyr   

{Gweler adran 5 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 hefyd}

5.1          Yr Ymddiriedolwyr fydd y Bwrdd Pensiynau at ddibenion Adran 5 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd y bwrdd yn gyfrifol am gynorthwyo Comisiwn y Cynulliad yn ei rôl fel Rheolwr y Cynllun mewn perthynas â:

(a)           sicrhau cydymffurfiad â'r Rheolau a deddfwriaeth yn ymwneud â llywodraethu a gweinyddu'r cynllun;

(b)           sicrhau cydymffurfiad â gofynion y Rheolydd Pensiynau sy'n berthnasol o bryd i'w gilydd i'r Cynllun; a

(c)           unrhyw gyfryw faterion eraill y gall y Rheolau eu pennu.

5.2          Pump fydd nifer yr Ymddiriedolwyr.

5.3          Ar unrhyw adeg:

(a)           bydd dau o'r pum Ymddiriedolwr yn cael eu henwebu gan yr aelodau;

(b)           bydd dau yn cael eu henwebu gan Gomisiwn y Cynulliad; a

(c)           bydd un yn Ymddiriedolwr Annibynnol a enwebir gan y Bwrdd Taliadau.

5.4          Mae'n rhaid i'r Bwrdd Taliadau benodi unrhyw ymddiriedolwr a enwebir yn unol â Rheol 5.3.  Gall y Bwrdd Taliadau ddiswyddo unrhyw Ymddiriedolwr.   

5.5          Gall Ymddiriedolwr ymddiswyddo drwy ysgrifennu at Glerc y Bwrdd Taliadau.

5.6          Gall yr Ymddiriedolwyr weithredu’n ôl penderfyniad y mwyafrif sy’n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Ymddiriedolwyr lle ceir cworwm.

5.7          Bydd gweithdrefn yr Ymddiriedolwyr, yn unol â darpariaethau'r Rheolau hyn, yn rhywbeth i'r Ymddiriedolwyr benderfynu arni.  Yr Ymddiriedolwr Annibynnol fydd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, tri fydd y cworwm ar gyfer unrhyw gyfarfod o'r Ymddiriedolwyr, a rhaid bod y cworwm yn cynnwys yr Ymddiriedolwr Annibynnol.

5.8          Gall yr Ymddiriedolwr Annibynnol (ac eithrio Ymddiriedolwr Annibynnol amgen) benodi neu enwebu person arall a gymeradwyir gan y Bwrdd Taliadau i fod yn Ymddiriedolwr Annibynnol amgen neu gynrychioli'r Ymddiriedolwr Annibynnol, a gall gael gwared ar Ymddiriedolwr Annibynnol amgen y mae wedi'i benodi fel hyn.

5.9          Bydd penderfyniad yr Ymddiriedolwyr yn parhau mewn grym nes iddo gael ei ddiwygio, ei amrywio neu ei ddirymu gan benderfyniad pellach gan yr Ymddiriedolwyr, er gwaethaf unrhyw newidiadau yn y personau sy'n Ymddiriedolwyr ac er gwaethaf nad oes unrhyw Ymddiriedolwyr am y tro.

5.10       Bydd Rheolwr y Cynllun yn fodlon nad oes gan unrhyw un a benodir yn Ymddiriedolwr o dan y Rheol 5 hon unrhyw fuddiannau sy'n gwrthdaro.  Bydd Rheolwr y Cynllun rhoi trefniadau ar waith i fonitro, adnabod a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau a all godi.

5.11       Bydd yr Ymddiriedolwyr yn rhoi i Reolwr y Cynllun unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar Reolwr y Cynllun o fewn rheswm at ddibenion Rheol 5.10. Os bydd y Rheolwr y Cynllun yn penderfynu bod gan Ymddiriedolwr fuddiannau sy'n gwrthdaro, rhaid i'r Bwrdd Taliadau derfynu penodiad yr Ymddiriedolwr. 

6              Darpariaethau gweinyddol

{Gweler hefyd adran 16 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

6.1          Gall yr Ymddiriedolwyr gyflogi swyddogion a gweision (os o gwbl) sy'n angenrheidiol yn eu barn hwy mewn perthynas â rheoli'r Cynllun.  Bydd y treuliau sydd ynghlwm wrth reoli'r Cynllun, gan gynnwys ffioedd ymgynghorwyr proffesiynol, ffioedd yr Ymddiriedolwr Annibynnol a'r tâl a phensiynau, neu gyfraniadau tuag at y pensiynau, sy'n daladwy i swyddogion a gweision a gyflogir gan yr Ymddiriedolwyr neu mewn cysylltiad â hwy, yn cael eu talu o'r Gronfa.

6.2          Gall yr Ymddiriedolwyr, drwy awdurdod ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan yr holl Ymddiriedolwyr, ddirprwyo, awdurdodi i is-ddirprwyo neu ddarparu ar gyfer arfer unrhyw un o'u dyletswyddau, pwerau a disgresiynau sy'n briodol yn eu barn, i unrhyw bersonau neu gorff (gan gynnwys un neu fwy ohonynt eu hunain) fel y gall yr Ymddiriedolwyr benderfynu o bryd i'w gilydd.

6.3          Gall yr Ymddiriedolwyr benodi person fel y gwelant yn dda i gaffael asedau ar gyfer y gronfa a gwaredu ei hasedau ar eu rhan ac yn unol â chyfarwyddiadau o'r fath yn ôl y polisi buddsoddi yn unig, fel y bydd yr Ymddiriedolwyr o bryd i'w gilydd yn penderfynu arno ac yn ei osod.

6.4          Bydd yr Ymddiriedolwyr yn mynd ati'n flynyddol i adolygu unrhyw rai o asedau'r gronfa sy'n cael eu caffael neu eu gwaredu gan berson a benodir o dan Reol 6.3.

6.5          Yn dilyn adolygiad yn unol â Rheol 6.4, gall yr Ymddiriedolwyr gadarnhau'r penderfyniad i gaffael neu waredu, neu gallant  gymryd camau eraill mewn perthynas â hyn fel y gwelant yn dda.

6.6           Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cadw cyfrifon priodol ac yn paratoi datganiadau cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn y Cynllun, gan archwilio cyfrifon a datganiadau ariannol y cynllun yn flynyddol. Rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau bod yr archwiliad yn cael ei gwblhau o fewn saith mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol.

6.7          Bydd yr archwilydd yn cael ei benodi'n flynyddol gan yr Ymddiriedolwyr, a'r person hwn fydd naill ai Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson neu gwmni sydd wedi'i awdurdodi i archwilio cwmni cyfyngedig cyhoeddus. Bydd modd i'r archwilydd weld llyfrau a chofnodion y Cynllun a gall ofyn am unrhyw wybodaeth ac esboniadau sy'n rhesymol er mwyn archwilio'r cyfrifon.

6.8          Bydd yr archwilydd yn archwilio ac yn ardystio pob datganiad o gyfrif a baratoir o dan Reol 6.6 ac yn rhoi barn ar hyn o safbwynt archwilio.  Dylid gosod copi o bob datganiad o'r fath, ynghyd ag adroddiad yr archwilydd a barn arno, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn tri mis i lofnodi'r farn.

7              Buddsoddi asedau'r gronfa

7.1          Gall yr Ymddiriedolwyr fuddsoddi asedau'r gronfa mewn unrhyw fuddsoddiad boed yn ddiriaethol neu anniriaethol, yn symudol neu'n ansymudol, ac a yw'n cynhyrchu incwm neu beidio neu wedi'i awdurdodi gan y gyfraith ar gyfer buddsoddi arian ymddiriedolaeth. Gall yr Ymddiriedolwyr amrywio buddsoddiadau'r gronfa o bryd i'w gilydd a gallant yswirio unrhyw ased sy'n eiddo i'r gronfa.

7.2          Gall yr Ymddiriedolwyr gymryd rhan mewn cynllun buddsoddi cyffredin gydag Ymddiriedolwyr cynlluniau budd-daliadau ymddeol eraill ar yr amod nad yw hyn yn amharu ar statws treth cofrestredig y Cynllun.

7.3          Gall yr Ymddiriedolwyr geisio cyngor gan reolwr buddsoddi neu berson proffesiynol arall â chymwysterau addas mewn perthynas â buddsoddi asedau'r gronfa. Gall yr Ymddiriedolwyr hefyd benodi rheolwr neu reolwyr buddsoddi a dirprwyo'r cyfrifoldeb dros fuddsoddi a rheoli'r gronfa o ddydd i ddydd i'r rheolwr neu'r rheolwyr. Gall yr Ymddiriedolwyr dalu'r rheolwr ar draul y gronfa.

7.4          Gall yr Ymddiriedolwyr benodi un neu fwy o asiantau i weithredu fel ceidwaid y gronfa a gall yr Ymddiriedolwyr dalu'r ceidwaid am y gwasanaethau hyn. Bydd unrhyw dâl i geidwad ar draul y gronfa.

8              Indemniad i'r Ymddiriedolwyr

8.1          Bydd gan yr Ymddiriedolwyr yr hawl i'r holl indemniadau a roddir i ymddiriedolwyr yn ôl y gyfraith. Ni fydd yr Ymddiriedolwyr yn atebol am unrhyw weithredoedd neu hepgoriadau na achoswyd gan eu hesgeulustod neu eu diffyg bwriadol eu hunain. Bydd Comisiwn y Cynulliad yn parhau i indemnio'r Ymddiriedolwyr rhag y canlyniadau o arfer holl bwerau a disgresiynau'r Ymddiriedolwyr, ar yr amod bod gan Gomisiwn y Cynulliad reolaeth dros yr amddiffyniad cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw achos yn erbyn yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys y setliad ar gyfer trafodion o'r fath.

8.2          Yn y Rheol hon, mae'r gair "Ymddiriedolwr" yn cynnwys holl Ymddiriedolwyr presennol y Cynllun a holl gyn-Ymddiriedolwyr y Cynllun.

AELODAETH

9              Aelodaeth ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

9.1          Bydd unrhyw berson sydd heb gyrraedd 75 oed ac yn gwasanaethu fel Aelod Cynulliad yn awtomatig yn Aelod Cynulliad cyfranogol, ac eithrio unrhyw Aelod Cynulliad sydd wedi arfer opsiwn o dan Reol 11.1 {Hawl i optio allan ar gyfer Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru} i beidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol.

10           Aelodaeth ar gyfer Deiliaid Swyddi

10.1       Yn unol â Rheol 10.2, bydd deiliad swydd nad yw wedi arfer opsiwn o dan Reol 12 {hawl i optio allan ar gyfer Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru} ac sydd (yn unol â'r amgylchiadau penodol a nodir yn Rheol 10.3 isod) yn Aelod Cynulliad cyfranogol yn ddeiliad swydd cyfranogol yn y Cynllun mewn perthynas ag unrhyw gyfnod deiliadaeth swydd gymwys.

10.2       Dylai'r amod yn Rheol 10.1 bod yn rhaid i ddeiliad swydd cyfranogol hefyd fod yn Aelod Cynulliad cyfranogol gael ei ddiystyru mewn perthynas ag unigolyn nad yw'n Aelod Cynulliad sy'n dal swydd fel Cwnsler Cyffredinol o dan adran 49 o'r Ddeddf.

10.3        

(a)           Bydd y Rheol hon yn gymwys dim ond lle diddymwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Mawrth 2011 neu wedi hynny, gan arwain at:

(i)            roi'r gorau ar unwaith i dalu cyflog cyffredin Aelod Cynulliad i unigolyn a oedd, yn union cyn y diddymiad, yn Aelod Cynulliad cyfranogol a fynegodd ei fwriad i beidio â sefyll mewn etholiad, ac a fydd yn parhau i dderbyn cyflog deiliad swydd (yn dilyn y diddymiad) nes i benodiad newydd gael ei wneud; neu

(ii)           barhau i dalu cyflog cyffredin Aelod Cynulliad i Aelod Cynulliad cyfranogol sydd wedi mynegi ei fwriad i sefyll i gael ei ail-ethol, ac a fydd yn parhau i dderbyn cyflog deiliad swydd (yn dilyn y diddymiad) nes i benodiad newydd gael ei wneud, ond sydd wedyn yn aflwyddiannus yn yr etholiad.

(b)           Yn yr amgylchiadau yn (a)(i) uchod, fel arfer ni fydd yr unigolyn, o ganlyniad i atal ei gyflog fel Aelod Cynulliad, bellach yn Aelod Cynulliad cyfranogol o'r Cynllun o ddyddiad y diddymiad, ac felly nid yw bellach yn ddeiliad swydd cyfranogol yn y cynllun. Fodd bynnag, drwy rinwedd y paragraff hwn, gall y Rheolau a fyddai fel arfer yn gymwys fel uchod, a Rheol 10.1 yn benodol, gael eu haddasu, a rhaid eu dehongli i gynnwys newidiadau o'r fath a all fod yn angenrheidiol i roi effaith i barhad cyflog deiliad swydd yr unigolyn (ar ôl y diddymiad) a fernir i fod yn bensiynadwy.

(c)           Yn yr amgylchiadau yn (a)(ii) uchod, bydd yr unigolyn fel arfer yn parhau i fod yn Aelod Cynulliad cyfranogol yn y Cynllun nes i gyflog cyffredin Aelod Cynulliad ddod i ben o ganlyniad i beidio â chael ei ail-ethol yn yr etholiad. Yn unol â hynny, fel arfer ni fydd yr unigolyn bellach yn ddeiliad swydd cyfranogol o'r dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, drwy rinwedd y paragraff hwn, gall y Rheolau a fyddai fel arfer yn gymwys fel uchod, a Rheol 10.1 yn benodol, gael eu haddasu, a rhaid eu dehongli i gynnwys newidiadau o'r fath a all fod yn angenrheidiol i roi effaith i barhad cyflog deiliad swydd yr unigolyn (ar ôl yr etholiad) a fernir i fod yn bensiynadwy.

11           Yr hawl i Aelodau'r Cynulliad optio allan

11.1       Gall Aelod Cynulliad cyfranogol arfer opsiwn yn ysgrifenedig o dan y Rheol hon i beidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol.

11.2       Yn unol â Rheol 11.3 isod, y dyddiad optio allan mewn perthynas ag aelod yw pa bynnag ddyddiad y bydd yr Ymddiriedolwyr yn ei bennu fel y dyddiad ymarferol cynharaf wedi iddynt dderbyn hysbysiad ysgrifenedig gan yr Aelod Cynulliad cyfranogol ei fod am arfer yr opsiwn.

11.3       Os yw'r Ymddiriedolwyr yn derbyn yr hysbysiad ysgrifenedig llai na thri mis ar ôl dyddiad:

(a)           etholiad cyffredin o dan adran 3 o'r Ddeddf neu etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o'r Ddeddf, lle cafodd y person ei ethol am y tro cyntaf i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru; neu

(b)           etholiad o dan adran 10 o'r Ddeddf lle cafodd y person ei ethol am y tro cyntaf i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru; neu

(c)           lle daeth y person yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf o dan adran 11 o’r Ddeddf

y dyddiad optio allan yw'r dyddiad y caiff yr Aelod Cynulliad cyfranogol ei ethol yn Aelod Cynulliad, a bydd unrhyw gyfraniadau cyfranogwyr a ddidynnwyd oddi wrth yr Aelod Cynulliad cyfranogol ers hynny, o dan Reol 29{cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} ac o dan Reol 30 os yw'n ddeiliad swydd {cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol}, eu had-dalu iddo.

12           Yr hawl i ddeiliaid swyddi optio allan

12.1       Gall deiliad swydd sy'n ddeiliad swydd cyfranogol arfer opsiwn yn ysgrifenedig o dan y Rheol hon i beidio â bod yn ddeiliad swydd cyfranogol yn y Cynllun.

12.2       Yn unol â Rheol 12.3 isod {hawl i ddeiliaid swyddi optio allan}, y dyddiad optio allan mewn perthynas â deiliad swydd yw pa bynnag ddyddiad y bydd yr Ymddiriedolwyr yn ei bennu fel y dyddiad ymarferol cynharaf wedi iddynt dderbyn hysbysiad ysgrifenedig gan y deiliad swydd ei fod am arfer yr opsiwn.

12.3       Os bydd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn yr hysbysiad ysgrifenedig llai na thri mis ar ôl y dyddiad cychwyn cyfnod deiliadaeth swydd gymwys, y dyddiad optio allan yw'r dyddiad y cychwynnodd y cyfnod yn y swydd, a bydd cyfraniadau cyfranogwyr a gymerwyd oddi wrth ddeiliad swydd o dan Reol 30 {cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol} mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw yn y swydd yn cael eu had-dalu iddo.

13           Yr hawl i Aelodau'r Cynulliad optio i mewn

13.1       Gall Aelod Cynulliad sydd wedi optio allan wneud cais i ail-ymuno â'r Cynllun fel Aelod Cynulliad cyfranogol o'r dyddiad optio i mewn drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at yr Ymddiriedolwyr o fewn tri mis i'r dyddiad optio i mewn, ar yr amod:

(a)           bod yr aelod, cyn pen wyth diwrnod ar hugain o dderbyn cais yr aelod, neu gyfnod hwy y bydd yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu arno yn ôl eu disgresiwn, yn talu i'r Ymddiriedolwyr y swm a ardystiwyd gan yr Ymddiriedolwyr fel y swm a fyddai wedi cael ei ddidynnu o'i gyflog o dan Reol 29.1 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} rhwng y dyddiad optio i mewn a'r dyddiad cyntaf ar ôl hynny pan fyddai didyniad yn cael ei gymryd o'i gyflog o dan Reol 29.1; ac

(b)           ar y dyddiad optio i mewn, bod o leiaf tri mis wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i'r aelod gael ei ethol i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

14           Yr hawl i ddeiliaid swyddi optio i mewn

14.1       Gall deiliad swydd sydd wedi optio allan wneud cais i ail-ymuno â'r Cynllun fel deiliad swydd cyfranogol o'r dyddiad optio i mewn drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Ymddiriedolwyr o fewn tri mis yn dechrau ar y dyddiad optio i mewn, ar yr amod bod y deiliad swydd, cyn pen wyth diwrnod ar hugain o dderbyn y cais, neu gyfnod hwy y bydd yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu arno yn ôl eu disgresiwn, yn talu i'r Ymddiriedolwyr y swm a ardystiwyd gan yr Ymddiriedolwyr fel y swm a fyddai wedi cael ei ddidynnu o gyflog y deiliad swydd o dan Reol 30 {cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol} rhwng y dyddiad optio i mewn a'r dyddiad cyntaf ar ôl hynny pan fyddai didyniad yn cael ei gymryd o'i gyflog o dan Reol 30.

15           gadael gwasanaeth cyfrifadwy

15.1       Mae cyfranogwr sydd:

(a)           yn peidio â bod yn gymwys i gyfranogi yn y Cynllun o dan Reol 9 {aelodaeth i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru} neu Reol 10 {aelodaeth gyfer deiliaid swydd} neu'r ddau; neu

(b)           yn optio allan o'r Cynllun o dan Reol 11 {yr hawl i Aelodau'r Cynulliad optio allan} neu Reol 12 {yr hawl i ddeiliaid swyddi optio allan} neu'r ddau,

mewn amgylchiadau lle nad yw'n dechrau bod â hawl i gael taliad uniongyrchol o bensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau'r Cynulliad sy'n bensiynwyr} neu Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr} neu'r ddau, yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol neu ddeiliad swydd cyfranogol neu'r ddau (fel sy'n briodol) ar unwaith, a bydd ei wasanaeth cyfrifadwy yn dod i ben.

15.2       Os yw cyfranogwr yn rhoi'r gorau i fod yn gyfranogwr o dan Reol 15.1 cyn yr oedran ymddeol arferol, a hynny mewn amgylchiadau lle nad yw ad-daliad o gyfraniadau'r cyfranogwr yn daladwy o dan Reol 73 {ad-daliad i gyfrannwr}, bydd yn dod yn bensiynwr gohiriedig a bydd darpariaethau Rheolau 15.3 i 15.5 yn gymwys.

15.3       Bydd pensiwn gohiriedig yn daladwy o oed ymddeol arferol pensiynwr gohiriedig. Bydd y swm yn cael ei gyfrifo o dan Reol 32  {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} neu Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr} neu'r ddau (fel sy'n berthnasol), ond drwy gyfeirio at y canlynol:

(a)           mewn perthynas ag unrhyw bensiwn a gyfrifir o dan Reol 38 {swm sy'n daladwy i Aelodau'r Cynulliad sy'n bensiynwyr – pensiwn CARE} neu Reol 39 {swm sy'n daladwy i ddeiliaid swyddi sy'n bensiynwyr – pensiwn CARE} drwy gyfeirio at gredydau budd-daliadau CARE neu gredydau pensiwn deiliaid swyddi sy'n ymwneud â gwasanaeth cyfrifadwy a gwblhawyd cyn i'r aelod roi'r gorau i fod yn gyfranogwr; a

(b)           mewn perthynas ag unrhyw bensiwn a gyfrifir o dan Reol 41 {swm sy'n daladwy i Aelodau'r Cynulliad sy'n bensiynwyr – pensiwn cyn system bensiynau CARE} drwy gyfeirio at gyflog terfynol Aelodau'r Cynulliad fel y dyddiad y rhoddodd yr aelod y gorau i fod yn gyfranogwr ac at wasanaeth cyfrifadwy a gwblhawyd cyn i'r aelod roi'r gorau i fod yn gyfranogwr; a

(c)           mewn perthynas ag unrhyw bensiwn a gyfrifir o dan Reol 42 {swm sy'n daladwy i ddeiliaid swyddi sy'n bensiynwyr – pensiwn cyn system bensiynau CARE} drwy gyfeirio at gyflog terfynol deiliaid swyddi fel y dyddiad y rhoddodd yr aelod y gorau i fod yn gyfranogwr ac at wasanaeth cyfrifadwy a gwblhawyd cyn i'r aelod roi'r gorau i fod yn gyfranogwr.

15.4       Mae pensiwn gohiriedig a gyfrifir o dan Reol 15.3 uchod yn amodol ar gynnydd yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r gwasanaeth cyfrifadwy i ben a'r dyddiad y mae'r pensiwn gohiriedig yn dechrau cael ei dalu ar yr isafswm sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r gofynion statudol perthnasol o bryd i'w gilydd.

15.5       Gall pensiwn gohiriedig fod yn daladwy cyn yr oedran ymddeol arferol yn ôl yr amgylchiadau a'r telerau a nodir yn Rheolau 44 {ymddeoliad cynnar i Aelodau'r Cynulliad}; 45{ymddeoliad cynnar i ddeiliaid swyddi}; 49 {pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-Aelodau'r Cynulliad} neu 50 {pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-ddeiliaid swyddi}.

16           ail-ymuno â gwasanaeth cyfrifadwy

16.1       Yn amodol ar ddarpariaethau Rheol 16, gall Aelod Cynulliad neu ddeiliad swydd sydd wedi rhoi'r gorau i fod yn gyfranogwr o dan Reol 15 {gadael gwasanaeth cyfrifadwy} uchod ail-ymuno fel cyfranogwr:

(a)           yn unol â Rheolau 13 neu 14 {yr hawl i optio i mewn} uchod; neu

(b)           os yw'n bodloni pob un o'r gofynion cymhwysedd yn Rheolau 9 neu 10 {aelodaeth}.

16.2       Pan fydd aelod yn ail-ymuno â'r Cynllun, yna, ac eithrio fel sy'n ofynnol gan y gofynion cadwraeth a'r gofynion contractio neu fel y nodir fel arall gan yr Ymddiriedolwyr:

(a)           bydd y manteision ar gyfer pob cyfnod di-dor o wasanaeth cyfrifadwy sy'n dod i ben cyn oed ymddeol arferol y cyfranogwr yn cael eu trin a'u cyfrifo ar wahân o dan Reol 15 {gadael gwasanaeth cyfrifadwy}; a

(b)           bydd y manteision ar gyfer pob cyfnod di-dor o wasanaeth cyfrifadwy, os o gwbl, sy'n dod i ben cyn oed ymddeol arferol y cyfranogwr yn cael eu trin a'u cyfrifo ar wahân o dan Reol 32 a/neu 33 {hawl i bensiwn}.

CYFRANIADAU GAN GOMISIWN Y CYNULLIAD

17           Comisiwn y Cynulliad yn cyfrannu at y gronfa

17.1       Mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol y Cynllun, bydd Comisiwn y Cynulliad yn cyfrannu at y gronfa ar gyfradd o gyfraniad a ddyfernir gan yr Actiwari o dan Reol 20.1(b).

17.2       Gall swm y cyfraniad gan Gomisiwn y Cynulliad fod yn ddim mewn unrhyw flwyddyn benodol os yw hynny'n cyd-fynd â phenderfyniad yr Actiwari.

PRISIADAU ACTIWARAIDD Y GRONFA BENSIYNAU

18           Penodi Actiwari

18.1       Bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi Actiwari'r i'r Cynllun; gall ei ddiswyddo ar unrhyw adeg a phenodi actiwari arall yn ei le. Os bydd yr Actiwari yn ymddiswyddo neu'n marw neu os bydd yr Ymddiriedolwyr yn diswyddo'r person hwnnw, dylent benodi actiwari arall cyn gynted ag sy'n ymarferol.

18.2       Rhaid mai'r Actiwari yw naill ai:

(a)           Actiwari'r Llywodraeth; neu

(b)           Cymrawd Sefydliad a Chyfadran yr Actiwariaid sy'n meddu ar dystysgrif actiwari o'r cynllun presennol a gyflwynwyd gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwariaid.

19           Prisiadau actiwaraidd Y GRONFA BENSIYNAU

19.1       Bydd yr Actiwari yn paratoi adroddiadau ar sefyllfa ariannol gyffredinol y Cynllun ar ddyddiadau y cytunir arnynt gyda'r Ymddiriedolwyr ac yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys Ei Mawrhydi. Rhaid i'r dyddiad y caiff y sefyllfa ariannol ei hasesu gan yr Actiwari fod llai na thair blynedd ar ôl dyddiad paratoi'r adroddiad actiwaraidd diweddaraf o dan y Rheol hon.

19.2       Rhaid i'r Actiwari gwblhau a llofnodi prisiad actiwaraidd a baratoir o dan y Rheol o fewn blwyddyn i ddyddiad y prisiad.

20           Cynnwys pob un o brisiadau actiwaraidd Y GRONFA BENSIYNAU

20.1       Bydd pob adroddiad gan yr Actiwari

(a)           yn cynghori ar werth rhwymedigaethau'r Cynllun o'i gymharu â'i asedau; ac

(b)           yn amodol ar Reol 22 ac Atodlen 7, yn pennu cyfradd y cyfraniad i'w dalu gan Gomisiwn y Cynulliad i'r Gronfa.

21           Prisiadau actiwaraidd Y GRONFA BENSIYNAU i'w gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21.1       Bydd copi o bob adroddiad a wnaed gan yr Actiwari yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan yr Ymddiriedolwyr o fewn tri mis wedi i'r Ymddiriedolwyr ei dderbyn.

22           Cap ar gostau'r cyflogwr

{Gweler hefyd adrannau 11 ac 12 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

22.1       Bydd Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r cap ar gostau'r cyflogwr.

AMRYWIOL AC ATODOL

23           Cymhwyso pensiynau

23.1       Os yw'r Ymddiriedolwyr yn fodlon, ar ôl ystyried tystiolaeth feddygol, bod person y mae unrhyw bensiwn neu fudd-dal arall yn daladwy iddo o dan ddarpariaethau eraill y Cynllun hwn (y cyfeirir ato yn Rheol hon fel 'y claf') yn methu rheoli a gweinyddu ei eiddo a'i faterion oherwydd anallu meddyliol, yn lle talu unrhyw bensiwn neu fudd-dal i'r claf, gallant ei gymhwyso'n unol â Rheol 23.2 isod.

23.2       Gall yr Ymddiriedolwyr dalu'r pensiwn neu'r budd-dal neu unrhyw ran ohono fel y gwelant yn dda i'r sefydliad neu'r person sydd â gofal dros y claf, i'w gymhwyso ar ei ran, a gall dalu'r gweddill (os o gwbl) neu unrhyw ran o'r gweddill fel y gwelant yn dda:

(a)           i bersonau neu er budd personau sy'n ymddangos i'r Ymddiriedolwyr i fod yn aelodau o deulu'r claf neu bersonau eraill y gallai fod disgwyl i'r claf ddarparu ar eu cyfer pe na bai'n analluog yn feddyliol; neu

(b)           yn ad-dalu, gyda llog neu heb log, arian a ddefnyddir gan unrhyw berson naill ai i dalu dyledion y claf (p'un a yw ei orfodadwy yn gyfreithiol neu beidio) neu ar gyfer cynnal y claf neu fudd arall iddo, neu unrhyw bersonau fel y'u nodir ym mharagraff (a) uchod.

NEWIDIADAU I'R DDEDDF CYLLID A DIDYNNU TRETH

24           Talu ar ran cyfranogwyr y lwfans am oes

24.1       Gall aelod ofyn i Weinyddwr y Cynllun i dalu ar ei ran unrhyw swm sy'n daladwy drwy'r lwfans am oes o dan adran 214 o'r Ddeddf Cyllid:

(a)           pan fydd digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd-daliadau a restrir yn adran 216(1) o’r Ddeddf Cyllid yn digwydd mewn perthynas ag ef; a

(b)           phan fydd yr aelod a Gweinyddwr y Cynllun yn agored i’r tâl mewn perthynas â’r digwyddiad ar y cyd ac yn unigol.

24.2       Dim ond drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir cyn y digwyddiad y gellir gwneud y cyfryw gais.

24.3       Dim ond os yw’r aelod yn talu’r swm dan sylw iddo ar ddyddiad y digwyddiad neu cyn y dyddiad y gall Gweinyddwr y Cynllun gydymffurfio â’r cyfryw gais.

25           Lleihau gwerthoedd budd-daliadau a throsglwyddo pan fydd y tâl lwfans oes yn daladwy

25.1       Mae'r Rheol hon yn gymwys:

(a)           os bydd digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd-daliadau a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o’r Ddeddf Cyllid yn digwydd mewn perthynas ag aelod;

(b)           os bydd yr aelod a Gweinyddwr y Cynllun at ddibenion adran 217 o’r Ddeddf Cyllid yn agored i’r tâl mewn perthynas â’r digwyddiad ar y cyd ac yn unigol; ac

(c)           os na wnaed cais o dan Reol 24 mewn perthynas â’r digwyddiad neu, os gwnaed cais, caiff Gweinyddwr y Cynllun ei atal rhag cydymffurfio ag ef drwy Reol 24.3.

25.2       Pan fydd y Rheol hon yn gymwys:

(a)           rhaid i Weinyddwr y Cynllun dalu o’r gronfa y dreth sy’n daladwy ar y digwyddiad;

(b)           os mai trosglwyddiad i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys yw’r digwyddiad crisialu budd-daliadau, rhaid i swm neu werth y symiau neu’r asedau a drosglwyddir gael ei leihau; ac

(c)           yn achos unrhyw ddigwyddiad arall o dan adran 216, rhaid i swm neu werth y budd-daliadau sy’n daladwy i’r cyfranogwr neu mewn perthynas â’r cyfranogwr gael ei leihau i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith i dalu’r tâl treth sy’n codi.

25.3       Rhaid i swm neu werth y gostyngiad olygu ei fod ym marn Actiwari’r Llywodraeth yn adlewyrchu’n llawn swm y dreth a delir o dan y Rheol hon.

26           Didynnu o daliadau treth eraill sy’n ddyledus o dan y Ddeddf Cyllid

26.1       Mae'r Rheol hon yn gymwys:

(a)           pan wneir taliad o dan Reolau 65 i 71{gwarant pum mlynedd} sy’n fudd-dal mewn cyfandaliad ar adeg marwolaeth sy’n diogelu pensiwn at ddibenion paragraff 14 o Atodlen 29 i’r Ddeddf Cyllid; neu

(b)           pan wneir ad-daliad o gyfraniadau (yn cynnwys llog ar gyfraniadau) o dan Reol 73 neu 74{ad-daliadau} sy’n gyfandaliad ad-dalu gwasanaeth byr at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 29 i’r Ddeddf honno.

26.2       Cyn gwneud y taliad gall Gweinyddwr y Cynllun ddidynnu ohono unrhyw dreth sy’n ddyledus mewn perthynas ag ef, o dan:

(a)           adran 205 o’r Ddeddf Cyllid (tâl cyfandaliad ad-dalu gwasanaeth byr); neu

(b)           adran 206 o’r Ddeddf Cyllid (tâl budd-dal mewn cyfandaliad arbennig ar adeg marwolaeth) neu unrhyw daliad treth arall y gall fod angen ei wneud o dan y Ddeddf Gyllid.

26.3       Os bydd aelod yn tynnu tâl lwfans blynyddol o dan adran 227 o'r Ddeddf Cyllid a bod Gweinyddwr y Cynllun yn dod yn atebol ar y cyd i dalu'r lwfans blynyddol (naill ai ôl cael hysbysiad o dan adran 237B(3) o'r Ddeddf Cyllid neu fel arall), rhaid i Weinyddwr y Cynllun:

(a)           dalu'r lwfans blynyddol erbyn y dyddiad y cynghorwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn unol â threfniadau'r corff hwn; a

(b)           gwneud addasiadau cyfatebol i fudd-daliadau'r aelod o dan y Cynllun.

26.4       Wrth addasu budd-dal aelod yn y Cynllun i adlewyrchu'r lwfans blynyddol a delir ar ei ran o dan Reol 26.3, gall Gweinyddwr y Cynllun gymryd y cyfryw gamau sy'n briodol yn ei farn ar ôl ymgynghori â Chomisiwn y Cynulliad a'r aelod, cyn belled â bod yr addasiad yn gyfiawn ac yn rhesymol gan ystyried y drefn actiwaraidd arferol fel y'i pennwyd gan yr Actiwari.

26.5       Wrth arfer y pwerau yn Rheol 26.3 a 26.4, gall yr Ymddiriedolwyr a Chomisiwn y Cynulliad ddibynnu ar wybodaeth a ddarperir gan yr aelod (neu ei gynrychiolwyr personol).  Os daw'r aelod yn atebol am dalu unrhyw dâl neu gosb mewn perthynas â lwfans blynyddol y mae'r Ymddiriedolwyr bellach yn atebol ar y cyd amdano o dan Reol 26.3 (gan gynnwys taliadau heb awdurdod), ni fydd yr Ymddiriedolwyr na Chomisiwn y Cynulliad yn atebol am dalu unrhyw dâl neu gosb o'r fath os ydynt wedi dibynnu'n ddiffuant ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr aelod.


RHAN 2

Y rheolau ynghylch budd-daliadau cyffredinol

GWASANAETH CYFRIFADWY

27           Cyfnod Gwirioneddol o Wasanaeth Cyfrifadwy

27.1       Yn amodol ar Reol 27.2 isod, Rheol 73 {ad-daliadau}, a  Rheolau 76a 77 {trosglwyddo}, at ddibenion y Rheolau hyn, mae unrhyw gyfnod pan fydd unrhyw aelod yn Aelod Cynulliad cyfranogol yn gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad; ac yn y Rheolau hyn, ystyr “cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol”, mewn perthynas ag aelod, yw’r cyfnod, neu (os oes mwy nag un) cyfanswm y cyfryw gyfnodau, sy’n dod o dan y diffiniad hwn.

27.2       Mewn perthynas ag aelod a fu’n ddeiliad swydd cyfranogol, ac yn amodol ar Reol 36.3{taliad i ddeiliad swydd ar ôl ymddeoliad arferol},  Rheol 73  {ad-daliadau}, a Rheolau 76 a 77 {trosglwyddo}, mae unrhyw gyfnod lle mae aelod yn ddeiliad swydd cyfranogol yn gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd cyfranogol; ac yn y Rheolau, hyn ystyr “cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd”, mewn perthynas ag aelod, yw ei gyfnod ef (neu, os oes mwy nag un, cyfanswm y cyfnodau hynny) o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd cyfranogol.

28           CYFANSWM GWASANAETH CYFRIFADWY

28.1       Mewn perthynas ag aelod, cyfanswm ei gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol yw ei gyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol ynghyd ag unrhyw gynnydd mewn gwasanaeth cyfrifadwy y gellir ei briodoli i symiau a dderbynnir yn sgil trosglwyddiad, yn unol â Rheol 79{trosglwyddiadau o gynlluniau eraill}, neu brynu blynyddoedd ychwanegol, yn unol â Rheol 80 {prynu blynyddoedd ychwanegol}.

28.2       Mewn perthynas ag aelod a fu’n ddeiliad swydd cyfranogol, cyfanswm ei gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd cyfranogol yw ei gyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd cyfranogol ynghyd ag unrhyw gynnydd mewn gwasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd y gellir ei briodoli i symiau a dderbynnir oherwydd trosglwyddiad, yn unol â Rheol 79 {trosglwyddiadau o gynlluniau eraill}.

28.3        

(a)           O 1 Ebrill 2010, at ddibenion cyfrifo budd-daliadau a gronnwyd cyn cyflwyno'r system CARE, caiff cyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw Aelod Cynulliad neu gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw ddeiliad swydd ei ostwng ar sail pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod pan ddewisodd y cyfranogwr gael cyflog is na’r hyn yr oedd ganddo ef yr hawl iddo yn ystod yr un cyfnod o dan reolau’r Cynllun.

(b)           Yn yr amgylchiadau a nodir yn (a) uchod, ystyrir bod cyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw Aelod Cynulliad neu gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw ddeiliad swydd wedi'i ostwng o dan Reol 28.3(c), gan fod y cyflog isaf a dderbyniwyd mewn gwirionedd gan y cyfranogwr (ac y cafodd cyfraniadau perthnasol gan y cyfranogwr eu didynnu ohono o dan Reolau 29 neu 30) yn cyfateb i gyflog cyffredinol llawn yr Aelod Cynulliad neu gyflog cyffredinol llawn deiliad y swydd (fel y bo'n briodol) y byddai, fel arall, wedi bod yn daladwy i’r cyfranogwr ar gyfer y cyfnod dan sylw.

(c)           At ddibenion Rheol 28.3, caiff cyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw Aelod Cynulliad neu gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw ddeiliad swydd ei bennu drwy addasu cyfanswm ei gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy gan ddefnyddio addasiad ffactor gwasanaeth ‘C’ isod:

A/B = C

Lle mai:

A = yw'r cyflog gwirioneddol a ddefnyddiwyd gan y cyfranogwr i dalu cyfraniadau yn ystod y cyfnod perthnasol dan sylw;

B = yw'r cyflog arferol llawn yr Aelod Cynulliad neu gyflog llawn deiliad y swydd yr oedd hawl gan y cyfranogwr ei dderbyn o dan y Cynllun yn ystod y cyfnod perthnasol dan sylw; a

C = yw'r ‘addasiad ffactor gwasanaeth’ a ddefnyddiwyd i addasu cyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw Aelod Cynulliad neu gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw ddeiliad swydd i adlewyrchu’r cyfnod pan oedd cyfraniadau’n seiliedig ar gyflog gostyngedig.

28.4       Er mwyn osgoi amheuaeth yn y dyfodol, ni chaiff ‘addasiad ffactor gwasanaeth’ ‘C’ (fel y’i diffinnir yn Rheol 28.3) ei gymhwyso i ostwng cyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw Aelod Cynulliad neu gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw ddeiliad swydd wrth gyfrifo’r canlynol:

(a)           hyd cyfnod gwasanaeth cymwys y cyfranogwr at ddibenion canfod y ganran ostyngol i’w defnyddio o dan Atodlen 2. Fodd bynnag, caiff addasiad ffactor gwasanaeth ‘C’ ei ddefnyddio i gyfrifo lefel wirioneddol y budd pensiwn y mae gan y cyfranogwr hawl iddo o dan ddarpariaeth ymddeoliad cynnar Rheolau 44 a 45;

(b)           y tâl ychwanegol at y pensiwn oherwydd salwch sy’n daladwy o dan Reol 50 {pensiynau oherwydd salwch i gyn-ddeiliaid swyddi};

(c)           y tâl ychwanegol at y pensiwn marwolaeth mewn swydd sy’n daladwy o dan Reol 57.2;

(d)           cyfrifo’r cyfnod gwasanaeth cymwys o dan Reol 73.2(b) ar gyfer yr hawl i gael cyfandaliad gwasanaeth byr; a

(e)           hyd cyfnod gwasanaeth cymwys y cyfranogwr o dan Reol 22.1 i allu cymryd taliad trosglwyddo o'r Cynllun. Fodd bynnag, caiff addasiad ffactor gwasanaeth ‘C’ ei ddefnyddio i gyfrifo lefel wirioneddol gwerth y taliad trosglwyddo a gaiff ei wneud mewn perthynas â'r cyfranogwr hwnnw;

28.5       Er mwyn osgoi amheuaeth bellach, amodir y bydd yn rhaid cymhwyso addasiad ffactor gwasanaeth ‘C’ i leihau cyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw Aelod Cynulliad neu gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy unrhyw ddeiliad swydd at ddibenion cyfrifo pob buddiant arall o dan y Cynllun (ac eithrio’r rhai a enwir yn Rheolau 28.4(a) i 28.4(e)uchod). Yn benodol, ystyrir ‘addasiad ffactor gwasanaeth’ ‘C’ lle prynir blynyddoedd ychwanegol o dan Atodlen 4, paragraff 4, drwy gyfraniadau cyfnodol sy’n daladwy drwy ddidynnu o gyflog arferol Aelod Cynulliad. Yn unol â hynny, bydd y pensiwn â blynyddoedd ychwanegol o ganlyniad i hynny yn seiliedig ar gyfanswm cyfnod gwasanaeth cyfrifadwy yr Aelod Cynulliad cyfranogol ar ôl cymhwyso addasiad ffactor gwasanaeth ‘C’.

CYFRANIADAU'R AELODAU

29           CYFRANIADAU GAN AELODAU CYNULLIAD CYFRANOGOL

29.1       Yn amodol ar Reol 29.3isod, Rheol 31 {cap enillion} a Rheol 22, yn ogystal ag Atodlen 7 (cap costau'r cyflogwr), didynnir o bob taliad mewn perthynas â chyflog a wneir i Aelod Cynulliad cyfranogol y ganran a nodir yn Rheol 29.2 o gyflog cyfranogol yr Aelod Cynulliad, a thelir yr holl symiau a ddidynnir felly i mewn i’r Gronfa.

29.2       At ddibenion Rheol 29.1 uchod, y ganran briodol:

(a)           mewn perthynas â thaliadau cyflog cyfranogol yr Aelod Cynulliad a wnaed mewn perthynas â chyfnod a ddaeth i ben cyn y dyddiad cychwyn yw'r ganran sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1 o Atodlen 1 {darpariaethau hanesyddol}; ac

(b)           yn amodol ar Reol 22.1 ac Atodlen 7 {cap costau'r cyflogwr}, mewn perthynas â thaliadau cyflog cyfranogol yr Aelod Cynulliad a wnaed mewn perthynas â chyfnod a ddechreuodd ar neu cyn y dyddiad cychwyn yw 10.5%.  

29.3       Lle mae cyfanswm gwasanaeth cyfrifadwy yr Aelod Cynulliad yn fwy na'r swm a fyddai’n arwain at yr uchafswm pensiwn a ganiateir mewn perthynas â’r person hwnnw fel Aelod Cynulliad cyfranogol o dan Reol 34 {uchafswm y pensiwn a ganiateir}, bydd cyfraniadau'r Aelod Cynulliad cyfranogol yn dod i ben.

30           CYFRANIADAU GAN DDEILIAID SWYDDI CYFRANOGOL

30.1       Yn amodol ar Reol 31{cap enillion}, didynnir o bob taliad mewn perthynas â chyflog a wneir i ddeiliad swydd cyfranogol y ganran a nodir yn Rheol 30.2 o gyflog cyfranogol y deiliad swydd, a thelir yr holl symiau a ddidynnir felly i mewn i’r Gronfa.

30.2       At ddibenion Rheol 30.1 uchod y ganran briodol:

(a)           mewn perthynas â thaliadau cyflog a wnaed mewn perthynas â chyfnod a ddaeth i ben cyn y dyddiad cychwyn yw'r ganran sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5 o Atodlen 1 {darpariaethau hanesyddol}; ac

(b)           yn amodol ar Reol 22.1 ac Atodlen 7 {cap costau'r cyflogwr}, mewn perthynas â thaliadau cyflog a wnaed mewn perthynas â chyfnod a ddechreuodd ar neu cyn y dyddiad cychwyn yw 10.5%; a

30.3      Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd Rheolau 30.3 a 30.4 yn gymwys i unrhyw Ddeiliad Swydd cyfranogol sy’n cronni buddiannau yn y Rheolau Pensiwn CARE o dan Rhan 3 y Rheolau. Ni fydd yn ofynnol i Aelodau o’r fath gyfrannu yn ystod y cyfnod interim (y cyfeirir ato isod), ac yn unol â hynny, ni fydd ganddo barhad gwasanaeth am gronni buddiannau pensiwn o dan Rhan 3 ar gyfer y cyfnod interim hwnnw.

Bydd yn ofynnol i Aelod Cynulliad cyfranogol sy’n cronni buddiannau cyflog terfynol yn y Rheolau Pensiwn cyn cyflwyno’r system CARE ac yn union cyn yr etholiad, hefyd yn ddeiliad swydd cyfranogol ac sy’n cael ei ailbenodi i’r un swydd gymwys neu swydd gymwys arall, mewn perthynas â’r cyfnod interim rhwng dyddiad yr etholiad sy’n ei ethol ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dyddiad dilynol yr ailbenodiad i swydd gymwys, gyfrannu swm sy’n hafal i gyfanswm ei gyfradd cyfraniadau ef a chyfradd cyfraniadau barhaus Comisiwn y Cynulliad, fel y nodir gan yr Actiwari o dro i dro, a hynny wedi'i gyfrifo yn ôl swm ei gyflog ef fel deiliad swydd. Bydd y cyfraniad ychwanegol hwn yn cael ei ddidynnu o gyflog yr Aelod Cynulliad cyfranogol, yn ogystal â’r cyfraniad sy’n daladwy ganddo ef o dan Reol 29 (cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol) uchod. Yn weithredol o 1 Ebrill 2007, ni fydd y Rheol hon, sef 30.3 yn gymwys i’r Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru na’r Cwnsler Cyffredinol, lle bydd parhad eu gwasanaeth yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod interim drwy ddarpariaethau adran 22(4) o’r Ddeddf.

Caiff unrhyw gyfraniadau ychwanegol a delir gan Aelod Cynulliad cyfranogol o dan Reol 30.3 uchod eu had-dalu gan yr Ymddiriedolwyr iddo ef o fewn y cyfryw gyfnod ag sy’n rhesymol yn ôl yr Ymddiriedolwyr os bydd yr Aelod Cynulliad cyfranogol yn methu â chael ei ailbenodi i’r un swydd gymwys (neu swydd gymwys arall) yn dilyn yr etholiad, ar yr amod y bydd cyfran briodol o'r cyfraniadau ychwanegol yn cael eu had-dalu os yw Aelod Cynulliad cyfranogol yn cael ei benodi i swydd gymwys am gyflog sy'n cael ei dalu ar gyfradd is na'r cyflog a dalwyd iddo parthed ei swydd gymwys flaenorol.

31           CAP ENILLION

31.1       Lle y bydd cyflog blynyddol unrhyw berson:

(a)           fel Aelod Cynulliad; neu

(b)           fel deiliad swydd; neu

(c)           fel (a) a (b) gyda'i gilydd,

yn fwy na’r uchafswm a ganiateir, cyfyngir ar y cyfraniadau a ddidynnir o’r cyflog blynyddol hwnnw i’r ganran briodol (fel y’i diffinnir yn Rheolau 29 a 30) o’r uchafswm hwnnw a ganiateir a lle mae is-baragraff (c) yn gymwys, gostyngir cyfraniadau’r person fel cyfranogwr o dan Reol 30{cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol} cyn ei gyfraniadau ef o dan Reol 29 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol}.

YR HAWL I BENSIWN

32           HAWL AELODAU CYNULLIAD SY'N BENSIYNWYR

32.1       Yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheolau hyn, bydd hawl gan berson sydd wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol ac y mae ganddo wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad o dan Reolau 27 a 28{gwasanaeth cyfrifadwy} yr hawl i gael pensiwn o dan y Rheol hon pan fydd yn cyflawni’r ddau amod a ganlyn:

(a)           mae'n peidio â bod yn Aelod Cynulliad; ac

(b)           yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol

32.2       Yn amodol ar y darpariaethau trosiannol a nodir yn Atodlen 6 {darpariaethau trosiannol}, bydd y pensiwn sy'n daladwy o dan Reol 32.1 yn cael ei gyfrifo:

(a)           fel y nodir yn Rhan 3 o'r Rheolau mewn perthynas â budd-daliadau CARE.

(b)           fel y nodir yn Rhan 4 o'r Rheolau mewn perthynas â budd-daliadau a gronnwyd cyn cyflwyno'r system CARE.

32.3       Pan fo aelod wedi cronni budd-daliadau CARE ac wedi cronni budd-daliadau cyn cyflwyno'r system CARE, byddant yn cael eu trin fel hawliau pensiwn ar wahân o dan y Rheolau hyn. O ganlyniad, caiff yr aelod ddewis bod y broses o dalu'r bud-daliadau CARE a'r budd-daliadau a gronnwyd cyn cyflwyno'r system CARE yn dechrau ar ddyddiadau gwahanol.

33           HAWL DEILIAID SWYDD SY'N BENSIYNWYR

33.1       Yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheolau hyn, bydd gan aelod sydd wedi peidio â bod yn ddeiliad swydd cyfranogol ac y mae ganddo ef wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd cyfranogol o dan Reolau 27 a 28 yr hawl i gael pensiwn o dan y Rheol hon pan fydd yn cyflawni’r ddau amod a nodir ym mharagraffau (a) a (b) Rheol 32.1 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}, ar yr amod y bydd Rheol 32.1(a) yn cael ei darllen fel pe bai'n cyfeirio at y person sy'n peidio â bod yn ddeiliad swydd mewn perthynas â sefyllfaoedd lle'r oedd aelod yn ddeliad swydd ond nid yn Aelod Cynulliad.

33.2       Gall fod hawl gan yr un aelod i bensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} ac i bensiwn o dan y Rheol hon; bydd symiau’r ddau bensiwn yn gronnol.

33.3       Yn amodol ar y darpariaethau trosiannol a nodir yn Atodlen 6 {darpariaethau trosiannol},bydd y pensiwn sy'n daladwy o dan Reol 33.1 yn cael ei gyfrifo:

(a)           fel y nodir yn Rhan 3 o'r Rheolau mewn perthynas â budd-daliadau CARE.

(b)           fel y nodir yn Rhan 4 o'r Rheolau mewn perthynas â budd-daliadau a gronnwyd cyn cyflwyno'r system CARE.

33.4       Bydd Rheol 32.3 yn gymwys mewn perthynas â phensiwn sy'n daladwy o dan Reol 33.

34           UCHAFSWM Y PENSIYNAU A GANIATEIR

34.1       Ni fydd swm blynyddol y pensiwn sy’n daladwy o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} neu Reol 33 {hawl deiliaid swydd sy'n bensiynwyr} i berson yn fwy na pha swm bynnag o’r isod sydd leiaf:

(a)           y swm sy’n hafal i ddwy ran o dair o’r cyflog terfynol; neu

(b)           y swm sy’n hafal i ddwy ran o dair o’r uchafswm a ganiateir.

34.2       Mewn achos aelod y mae ganddo ef hawl i bensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} a Rheol 33 {hawl deiliaid swydd sy'n bensiynwyr}, ni fydd swm y ddau bensiwn gyda’i gilydd yn fwy na dwy ran o dair o’r uchafswm a ganiateir ac, os byddant, gostyngir y pensiwn sy’n daladwy o dan Reol 33 {hawl deiliaid swydd sy'n bensiynwyr} cyn y pensiwn sy’n daladwy o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}.

35           YR ISAFSWM PENSIWN GWARANTEDIG

35.1       Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y Rheolau hyn, bydd gan aelod y mae ganddo ef hawl i gael pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} neu Reol 33 {hawl deiliaid swydd sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch drwy Reolau 44 a 45 neu Reolau 46 i 53):

(a)           yr hawl i gael pensiwn sy’n daladwy am weddill ei oes, o'r oedran pan geir yr isafswm pensiwn gwarantedig, yn amodol ar ddarpariaethau Rheol 36.3, ar gyfradd sy’n gyfartal â chyfradd wythnosol heb fod yn llai na’r isafswm pensiwn gwarantedig, oni bai fod hawl y person hwnnw iddo wedi’i dileu yn sgil talu premiwm cyfatebol i gyfraniadau o dan adran 55 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993; ac

(b)           os gohirir talu isafswm pensiwn gwarantedig y person hwnnw o dan yr amgylchiadau y mae adran 13(4) o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 yn gymwys iddynt, cynyddir isafswm pensiwn gwarantedig y person hwnnw i’r graddau, os o gwbl, a bennir yn adran 15(1) o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993.

36           PARHAD PENSIYNAU A'R CYNNYDD MEWN PENSIYNAU

{Gweler hefyd adran 9 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

36.1       Yn amodol ar y darpariaethau a ganlyn yn y Rheol hon, bydd pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} neu Reol 33 {hawl deiliaid swydd sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch drwy Reolau 44 a 45{ymddeol yn gynnar} neu Reolau 46 i 53 {pensiynau oherwydd salwch}) yn parhau am fywyd y person y mae’n daladwy iddo:

36.2       Caiff unrhyw bensiwn sy’n daladwy i berson o dan Reol 36.1 ei ostwng i ddim, mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fydd y person hwnnw yn Aelod Cynulliad; ar yr amod na fydd y cyfryw ostyngiad yn gymwys mewn perthynas ag aelod sydd â’r hawl i gael, neu sy’n cael, pensiwn priod sy’n goroesi, pensiwn partner neu bensiwn ar gyfer plentyn o dan Reolau 54 i 61 {budd-daliadau adeg marwolaeth}.

36.3       Ni fydd darpariaethau Rheol 36 yn gymwys at ddibenion cyfrifo’r symiau sy’n daladwy o dan Reolau 67.3, 67.4(b), 68.2(b), 69.2 neu 71{gwarant pum mlynedd}.

36.4       Bydd unrhyw bensiwn sy'n cael ei dalu o dan y Rheolau hyn yn cael ei gynyddu wrth iddo gael ei dalu yn y modd a ganlyn:

(a)           bydd pob pensiwn ar yr isafswm gwarantedig yn cael ei gynyddu wrth iddo gael ei dalu yn unol â gofynion contractio allan; a

(b)        bydd yr holl bensiynau sy'n fwy na'r isafswm pensiwn gwarantedig yn cynyddu wrth iddynt gael eu talu, yn unol â'r cyfraddau isaf sydd eu hangen o ran cydymffurfio â'r gofynion statudol perthnasol o bryd i'w gilydd.

RHAN 3

Rheolau system bensiynau CARE

 

DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

37           DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

37.1       Yn amodol ar y darpariaethau trosiannol a nodir yn Atodlen 6 {darpariaethau trosiannol}, bydd y darpariaethau yn Rhan 3 yn gymwys i'r broses o gyfrifo budd-daliadau o dan y system CARE:

CYFRIFO'R HAWL I BENSIWN

38           Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU CYNULLIAD SY'N BENSIYNWYR

{Gweler hefyd adran 9 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

38.1       Yn amodol ar Reolau 34 {yr uchafswm pensiynau a ganiateir},  35 {yr isafswm pensiwn gwarantedig}, 43 {cymudo yn gyfandaliad}, 44{ymddeol yn gynnar}, a 46 a 47 {pensiynau oherwydd salwch}, bydd swm blynyddol y pensiwn sy'n daladwy o dan Reol 32.2(a) {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} yn swm sy'n hafal i gyfanswm credydau budd-daliadau'r system CARE ar gyfer bob blwyddyn yn y system CARE a gynhwysir yng nghyfanswm gwasanaeth cyfrifadwy y person fel Aelod Cynulliad ar y dyddiad cychwyn, ac ers hynny (ynghyd â swm cymesur ar gyfer pob mis calendr a gwblhawyd yn ystod unrhyw flwyddyn a dreuliwyd yn rhannol yn y system CARE), ac wedi'u hailbrisio fel y nodir yn Rheol 38.3

Cyfrifo Credydau Budd-daliadau'r System CARE

38.2       Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn yn y system CARE, bydd credydau budd-daliadau'r system CARE yn cyfeirio at swm o bensiwn sy'n cael ei gyfrifo fel un rhan o bum deg o gyflog CARE yr Aelod Cynulliad cyfranogol.

Ailbrisio Budd-daliadau'r System CARE

38.3       Bydd pob Credyd Budd-dal yn y system CARE yn cael ei addasu'n flynyddol ar bob dyddiad ailbrisio yn ystod y cyfnod rhwng y flwyddyn CARE pan gafodd credydau budd-daliadau'r system CARE eu cronni a'r dyddiad terfyn ar gyfer ailbrisio, a hynny'n unol â'r newid canrannol yn lefel y prisiau a bennir yng ngorchymyn [perthnasol] y Trysorlys a wnaed o dan adran 9(2) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus mewn perthynas â'r flwyddyn CARE pan gafodd credydau budd-daliadau'r system CARE eu cronni.

39           Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU SY'N DDEILIAID SWYDDI

{Gweler hefyd adran 9 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013}

39.1       Yn amodol ar Reolau 34 {yr uchafswm pensiynau a ganiateir},  35 {yr isafswm pensiwn gwarantedig}, 43 {cymudo yn gyfandaliad}, 44{ymddeol yn gynnar}, a 48 {pensiynau oherwydd salwch}, bydd swm blynyddol y pensiwn sy'n daladwy o dan Reol 33.3(a){hawl deiliaid swydd} yn swm sy'n hafal i gyfanswm credydau budd-daliadau'r deiliaid swydd ar gyfer bob blwyddyn yn y system CARE a gynhwysir yng nghyfanswm gwasanaeth cyfrifadwy y person fel deiliad swydd ar y dyddiad cychwyn, ac ers hynny (ynghyd â swm cymesur ar gyfer pob mis calendr a gwblhawyd yn ystod unrhyw flwyddyn a dreuliwyd yn rhannol yn y system CARE), ac wedi'u hailbrisio fel y nodir yn Rheol 39.3. 

Cyfrifo Credyd Pensiwn y Deiliad Swydd

39.2       Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn yn y system CARE, bydd credyd pensiwn y deiliad swydd yn cyfeirio at swm o bensiwn sy'n cael ei gyfrifo fel un rhan o bum deg o gyflog CARE y deiliad swydd cyfranogol.

Ailbrisio Budd-daliadau'r System CARE

39.3       Bydd pob credyd pensiwn y deiliad swydd yn cael ei addasu'n flynyddol ar bob dyddiad ailbrisio yn ystod y cyfnod rhwng y flwyddyn CARE pan gafodd credyd pensiwn y deiliad swydd ei gronni a'r dyddiad terfyn ar gyfer ailbrisio, a hynny'n unol â'r newid canrannol yn lefel y prisiau a bennir yng ngorchymyn [perthnasol] y Trysorlys a wnaed o dan adran 9(2) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus mewn perthynas â'r flwyddyn CARE pan gafodd credyd pensiwn y deiliad swydd ei gronni.


 

RHAN 4

Rheolau'r system bensiwn cyn cyflwyno'r system CARE

 

DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

40           DYDDIAD Y BYDD YN WEITHREDOL A'R PERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

40.1       Yn amodol ar y darpariaethau trosiannol a nodir yn Atodlen 6 {darpariaethau trosiannol},bydd y darpariaethau yn Rhan 4 yn gymwys i'r broses o gyfrifo budd-daliadau cyn cyflwyno'r system CARE:

CYFRIFO'R HAWL I BENSIWN

41           Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU CYNULLIAD SY'N BENSIYNWYR

41.1       Yn amodol ar Reolau 34, 35 a 43(cymudo), 44 (ymddeol yn gynnar), a 46 a 49(pensiynau oherwydd salwch), bydd swm blynyddol y pensiwn sy'n daladwy i berson o dan Reol 32.2(b) {hawl pensiynwyr sy'n Aelodau Cynulliad} yn swm sy'n hafal i gyfanswm y symiau a gynhyrchir, mewn perthynas â phob blwyddyn neu ffracsiwn o flwyddyn a gynhwysir yng nghyfanswm gwasanaeth cyfrifadwy y person fel Aelod Cynulliad ac sydd wedi'i chwblhau cyn y dyddiad cychwyn, drwy luosi cyflog terfynol yr Aelod Cynulliad â ffracsiwn priodol yr Aelod Cynulliad.

42           Y SWM SY'N DALADWY I AELODAU SY'N DDEILIAID SWYDDI

42.1       Yn amodol ar Reolau 34 {yr uchafswm pensiynau a ganiateir}  35 {yr isafswm pensiwn gwarantedig}, 43 {cymudo}, 44{ymddeol yn gynnar}, a 48 {pensiynau oherwydd salwch}, bydd darpariaethau'r Rheol hon yn weithredol at ddibenion cyfrifo swm blynyddol y pensiwn sy'n daladwy i berson o dan Reol 33.3(b)

42.2       Ar gyfer pob blwyddyn ariannol o dan y Cynllun a gynhwysir yng ngwasanaeth cyfrifadwy person fel deiliad swydd cyn y dyddiad cychwyn, naill ai yn ei chyfanrwydd neu'n rhannol, cyfrifir credyd cyfraniad drwy luosi ffracsiwn priodol o gyflog terfynol y deiliad swydd â swm y ffactor cyfraniad ar gyfer y flwyddyn ariannol honno o dan y Cynllun; ac, yn amodol ar Reol 43, bydd swm blynyddol y pensiwn sy’n daladwy i’r person o dan Reol 33 {hawl pensiynwyr sy'n ddeiliaid swyddi} yn swm sy’n hafal i gyfanswm y credydau cyfraniad a gyfrifir o dan Reol 42.2.


RHAN 5

Budd-daliadau Atodol

 

CYMUDO

43           CYMUDO YN GYFANDALIAD

43.1       Gall unrhyw aelod y mae ganddo ef yr hawl i gael pensiwn o dan Reolau 32 neu 33 (gan gynnwys pensiwn oherwydd salwch sy’n daladwy drwy Reolau  46 i 53) neu sy’n gwneud cais i gael pensiwn o dan Reolau 44 a 45, cyn talu rhandaliad cyntaf y pensiwn, hysbysu’r Ymddiriedolwyr ei fod yn dymuno cymudo’r cyfryw ran o’r pensiwn yn gyfandaliad fel y nodir yn yr hysbysiad.

43.2       Yn weithredol ar 1 Tachwedd 2006 ac wedi hynny; fodd bynnag, dim ond o leiaf chwe mis cyn iddo gyrraedd 75 oed, neu’r cyfryw amser yn ddiweddarach cyn iddo gyrraedd 75 oed ag a ganiateir gan yr Ymddiriedolwyr y gall yr aelod roi hysbysiad o dan Reol 43.1, a rhaid i’r cyfandaliad sy’n daladwy o ganlyniad i’r hysbysiad gael ei dalu iddo cyn i’r unigolyn hwnnw gyrraedd 75 oed.

43.3       Pan fydd y cyfryw gyfandaliad yn dod yn daladwy yn dilyn hysbysiad a ddarperir gan aelod yn union cyn ei ben-blwydd yn 75 oed, yn unol â Rheol 43.2 uchod, bydd darpariaethau Rheol 36.2 yn gymwys, i alluogi pensiwn yr aelod i gael ei dalu ond i gael ei ostwng i ddim, hyd nes y bydd yr unigolyn yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad.

43.4       Lle mae aelod wedi rhoi hysbysiad o dan y Rheol hon, bydd yr Ymddiriedolwyr yn pennu:

(a)           pa gyfandaliad a fyddai’n gyfartal yn actiwaraidd â’r rhan o’r pensiwn a nodir yn yr hysbysiad; a

(b)           pha ostyngiad yn swm blynyddol ei bensiwn y byddai’n briodol yn gydnabyddiaeth am dalu’r cyfandaliad hwnnw; ac

yn amodol ar ddarpariaethau canlynol y Rheol hon, telir cyfandaliad o’r swm a bennir yn y modd hwn i’r person hwnnw, a gostyngir swm blynyddol ei bensiwn yn unol â hynny.

43.5       Bydd unrhyw gyfandaliad neu ostyngiad a bennir o dan Reol 43.4 uchod yn swm neu’n ostyngiad naill ai a ardystir gan yr Actiwari, neu a gyfrifir yn unol â thablau a baratoir o dro i dro gan yr Actiwari, fel swm sy’n cyflawni’r amodau a nodir yn Rheol 43.4(a) a Rheol 43.4(b).

43.6       Os, yn achos unrhyw berson sydd wedi rhoi hysbysiad o dan y Rheol hon, bydd swm y cyfandaliad a bennir yn unol â Rheolau 43.4 a 43.5 uchod yn fwy na’r uchafswm y gellir ei gymudo:

(a)           caiff swm y cyfandaliad a bennir yn unol â hynny ei leihau gan y cyfryw gyfran ag sy’n angenrheidiol i’w wneud yn hafal i’r uchafswm y gellir ei gymudo; a

(b)           chaiff gostyngiad y swm blynyddol o’i bensiwn o dan y Rheol honno ei leihau gan yr un gyfran.

43.7       Wrth benderfynu ar swm y cyfandaliad o dan y Rheol hon, lleiheir yr uchafswm y gellir ei gymudo lle y bo angen fel na chaiff swm blynyddol y pensiwn ei ostwng, o dan Reol 43.6, yn is na chyfradd yr isafswm pensiwn gwarantedig.

43.8       Gall unrhyw aelod (nad yw’n 75 oed eto) sydd â’r hawl i fudd-daliadau pensiwn yn daladwy o dan Reolau 32 a/neu 33 sy’n mynd y tu hwnt i’r “lwfans oes safonol” (fel y’i diffinnir yn y Ddeddf Cyllid), gael cyfandaliad lwfans oes ychwanegol o’r Cynllun, ar yr amod bod y cyfandaliad yn bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff 11 o Atodlen 29 i’r Ddeddf Cyllid.

PENSIYNAU YMDDEOL YN GYNNAR A PHENSIYNAU CYNNAR A LEIHEIR

44           YMDDEOLIAD CYNNAR I AELODAU CYNULLIAD

44.1       Os yw aelod yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Ymddiriedolwyr am bensiwn ar unwaith o dan Reol 44 yna, bydd hawl ganddo i gael pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} fel pe bai wedi cyrraedd yr oed ymddeol arferol ar ddyddiad ei gais, neu, os yw’n hwyrach, y cyfryw ddyddiad arall ag a nodir, o bosibl, yn ei ffurflen gais, ar yr amod bod yr amodau a ganlyn yn cael eu bodloni:

(a)           mae'r aelod wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad; ac

(b)           mae'r aelod wedi cyrraedd yr oedran sylfaenol arferol ar gyfer pensiwn; ac

(c)           mae'r Ymddiriedolwyr yn fodlon nad yw’n bwriadu sefyll i gael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

44.2       Bydd swm blynyddol y pensiwn sy'n daladwy yn unol â Rheol  44.1 , (yn amodol ar Reol 43 {cymudo}) a Rheol 44.3 yn swm a gyfrifir yn unol â Rheolau 38 a 41 (fel y bo'n briodol) ac wedi’i leihau yn unol â'r ffactorau sy'n niwtral o ran costau sydd wedi'u nodi mewn canllawiau a ddarperir gan yr Actiwari, y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu mabwysiadu ac yn hysbysu'r aelodau yn eu cylch o leiaf bob tair blynedd mewn perthynas â'r holl wasanaeth cyfrifadwy a gaiff ei gronni gan yr aelodau yn y Cynllun ar 6 Mai 2016, neu ar ôl hynny, neu ar gyfer aelodau mewn perthynas â budd-daliadau a gronnwyd cyn cyflwyno'r system CARE yn unol ag Atodlen 2, er mwyn adlewyrchu taliad cynnar cyn yr oed ymddeol arferol.

44.3       Ni chaiff y pensiwn y mae gan aelod hawl iddo yn rhinwedd Rheol 44{ymddeoliad cynnar i Aelodau Cynulliad} ei ostwng yn is na chyfradd yr isafswm pensiwn gwarantedig, fel y darperir ar ei gyfer gan Reol 35.

45           YMDDEOLIAD I DDEILIAID SWYDDI

45.1       Bydd aelod y mae ganddo hawl i gael pensiwn o dan reol 44 {ymddeoliad cynnar i Aelodau Cynulliad} sy'n ddeiliad swydd cyfranogol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad swydd cyfranogol (yn amodol ar Reol 43 {cymudo} a Rheol 35 {yr isafswm pensiwn gwarantedig}) yn gymwys hefyd i gael pensiwn o dan Reol 33 {hawl deiliaid swydd sy'n bensiynwyr} wedi'i gyfrifo yn unol â Rheol 42 ac wedi'i leihau yn unol ag Atodlen 2 ac yn daladwy o'r un dyddiad â'r pensiwn sy'n daladwy o dan Reol 44{ymddeoliad cynnar i Aelodau Cynulliad} ar yr amod bod un o'r amodau yn Rheol 44.1, sef bod yr aelod wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad, yn cael ei ddiystyru mewn perthynas ag unigolyn nad yw'n Aelod Cynulliad sy'n dal swydd fel Cwnsler Cyffredinol o dan adran 49 o'r Ddeddf.

PENSIYNAU OHERWYDD SALWCH

46           PENSIYNAU HAEN 1 OHERWYDD SALWCH YN SEILIEDIG AR WASANAETH FEL AELOD CYNULLIAD CYFRANOGOL

46.1       Caiff Aelod Cynulliad cyfranogol sy’n peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol oherwydd salwch, ac sy'n bodloni'r amodau a bennir yn Rheol 46.2, wneud cais i’r Ymddiriedolwyr am bensiwn cynnar o dan Reol 46 os byddai, ar yr adeg berthnasol, wedi bod yn gymwys i gael pensiwn o dan Reol 32 oni bai am y ffaith nad yw wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol.

46.2       Os yw’r Ymddiriedolwyr yn fodlon, ar ôl i gais gael ei wneud o dan y Rheol hon, fod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

(a)           nad yw’r ymgeisydd yn bwriadu ceisio cael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)           bod yr ymgeisydd yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad, fel y cyfeirir ato yn Rheol 46.1 uchod o ganlyniad uniongyrchol i’w salwch;

(c)           bod salwch yr ymgeisydd o’r fath ag y byddai’n ei atal rhag cyflawni dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol;

(d)           nad yw’r salwch yn atal yr unigolyn rhag gwneud unrhyw waith cyflogedig arall;

(e)           y disgwylir i’r salwch fod yn barhaol a pharhau i atal yr unigolyn rhag cyflawni dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol; ac

(f)            y cyflwynir tystiolaeth gan feddyg sy’n fodlon bod yr amodau yn is-baragraffau (c) a (e) wedi’u bodloni ar y cyd â’r cais.

bydd gan yr ymgeisydd yr hawl i gael pensiwn haen 1 oherwydd salwch sy’n cael ei gyfrifo yn unol â Rheol 46.4.

46.3       Gall person y byddai hawl ganddo, fel y soniwyd amdano yn Rheol 46.1 uchod, i wneud cais o dan y paragraff hwnnw pe bai’n peidio â bod yn Aelod Cynulliad oherwydd salwch ar adeg benodol yn y dyfodol, wneud y cyfryw gais cyn yr adeg honno, gan nodi ynddo pryd y mae’n bwriadu peidio â bod yn Aelod Cynulliad; lle mae’r Ymddiriedolwyr yn fodlon ar ôl cael y cyfryw gais y bydd gan yr ymgeisydd hawl, o dan Reol 46.2, i gael pensiwn o’r adeg honno os bydd yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad ar yr adeg a bennir yn y cais, byddant yn hysbysu’r person yn ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

46.4       Bydd swm blynyddol pensiwn haen 1 oherwydd salwch sy’n daladwy i aelod o dan Reol 46 yn cael ei gyfrifo (yn amodol ar Reol 43 (cymudo)) yn unol â Rheol 32, gan dybio bod yr ymgeisydd eisoes wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol ar y dyddiad y peidiodd â bod yn Aelod Cynulliad, ac os felly na fydd unrhyw ostyngiad na lleihad ar gyfer ymddeoliad cynnar yn gymwys.

46.5       Mewn amgylchiadau lle mae Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr ac sydd wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol ac sy’n cael pensiwn oherwydd salwch o dan y Cynllun yn ceisio cael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd yr elfen honno o wasanaeth cyfrifadwy tybiannol sydd wedi'i chynnwys yn y broses o gyfrifo ei bensiwn a gynyddwyd gynt oherwydd analluogrwydd o dan Reol 46.4 yn cael ei hanwybyddu wrth benderfynu ar gyfanswm ei gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol (fel y’i hamlinellir yn Rheolau 27 and 28) at ddibenion cyfrifo ei hawl i gael pensiwn yn unol â Rheol 32.

46.6       At ddibenion Rheol 46, caiff person sydd wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol o ganlyniad i etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei drin fel person sydd wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad oherwydd salwch mewn modd sy'n ei wneud yn gymwys i hawlio pensiwn haen 1 oherwydd salwch os, ond dim ond os, bydd y person yn bodloni’r Ymddiriedolwyr na cheisiodd gael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr etholiad hwnnw o ganlyniad uniongyrchol i’w salwch.

47           PENSIYNAU HAEN 2 OHERWYDD SALWCH SY'N SEILIEDIG AR WASANAETH FEL AELOD CYNULLIAD CYFRANOGOL

47.1       Gall Aelod Cynulliad cyfranogol sy’n peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol oherwydd salwch, ac sy'n bodloni'r amodau a bennir yn Rheol 47.2, wneud cais i’r Ymddiriedolwyr am bensiwn cynnar o dan Reol 47 os, ar yr adeg berthnasol, y byddai ef wedi bod yn gymwys i gael pensiwn o dan Reol 32 oni bai am y ffaith nad yw wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol.

47.2       Os yw’r Ymddiriedolwyr yn fodlon, ar ôl i gais gael ei wneud o dan y Rheol hon, fod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

(a)           nad yw’r ymgeisydd yn bwriadu ceisio cael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)           bod yr ymgeisydd yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad, fel y cyfeirir ato yn Rheol 47.1 uchod o ganlyniad uniongyrchol i’w salwch;

(c)           bod y salwch yn atal yr ymgeisydd rhag perfformio dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol;

(d)           bod y salwch yn atal yr ymgeisydd rhag gwneud unrhyw waith cyflogedig arall;

(e)           y disgwylir i’r salwch fod yn barhaol a pharhau i atal yr unigolyn rhag cyflawni dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol a gwneud unrhyw waith cyflogedig arall; ac

(f)            y cyflwynir, ar y cyd â'r cais, dystiolaeth gan feddyg sy’n fodlon bod yr amodau yn is-baragraffau (c), (d) ac (e) wedi’u bodloni,

bydd gan yr ymgeisydd yr hawl i gael pensiwn haen 2 oherwydd salwch, wedi'i gyfrifo yn unol â Rheol 47.4 isod.

47.3       Gall person y byddai hawl ganddo, fel y cyfeirir ato yn Rheol 47.1 uchod, i wneud cais o dan y paragraff hwnnw pe bai’n peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol oherwydd salwch ar adeg benodol yn y dyfodol, wneud y cyfryw gais cyn yr adeg honno, gan nodi ynddo pryd y mae’n bwriadu peidio â bod yn Aelod Cynulliad; lle mae’r Ymddiriedolwyr yn fodlon ar ôl cael y cyfryw gais y bydd gan yr ymgeisydd hawl, o dan Reol 47.2, uchod i gael pensiwn o dan Reol 47.2 uchod o’r adeg honno, byddant yn hysbysu’r person yn ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

47.4       Bydd y swm blynyddol o bensiwn haen 2 oherwydd salwch sy'n daladwy i Aelod Cynulliad yn rhinwedd y Rheol hon (yn amodol ar Reol 43 (cymudo)) yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheol 32, ond at ddibenion y cyfrifo hwnnw caiff buddion CARE yr aelod o dan sylw eu cyfrif fel pe bai'r gwasanaeth cyfrifadwy a roddodd yn parhau tan oedran ymddeol arferol yn seiliedig ar gyflog CARE yr Aelod Cynulliad cyfranogol ar y dyddiad y mae'n gadael y cynllun. Os caiff ei gyflog fel Aelod Cynulliad ei leihau yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 21 {terfyn ar gyflogau Aelodau Cynulliad} o'r Ddeddf pan fydd yn ymddeol, yna rhagdybir at ddibenion y cyfrif hwn y byddai, yn ystod y cyfnod nes y bydd yn cyrraedd oedran ymddeol arferol, yn parhau i gael cyflog ar lefel is.

47.5       At ddibenion Rheol 47, trinnir person sydd wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol o ganlyniad i etholiad cyffredinol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel person sydd wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad oherwydd salwch mewn modd sy'n ei wneud yn gymwys i hawlio pensiwn haen 2 oherwydd salwch os, ond dim ond os, bydd y person yn bodloni’r Ymddiriedolwyr na cheisiodd gael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr etholiad hwnnw o ganlyniad uniongyrchol i’w salwch.

48           PENSIYNAU oherwydd SALWCH YN SEILIEDIG AR WASANAETH FEL DEILIAD SWYDD CYFRANOGOL

48.1       Caiff deiliad swydd cyfranogol sy’n peidio â bod yn ddeiliad swydd cyn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol oherwydd salwch wneud cais i’r Ymddiriedolwyr am bensiwn cynnar o dan Reol 48, os, ar yr adeg berthnasol, y byddai wedi bod yn gymwys i gael pensiwn o dan Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwr} oni bai am y ffaith nad yw wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol.

48.2       Os yw'r Ymddiriedolwyr, wrth gymhwyso Rheol 48.1 uchod, yn fodlon bod y meini prawf perthnasol wedi'u bodloni o dan reolau 46.2 neu 47.2, fel y bo'n briodol, bydd gan yr ymgeisydd hawl i gael pensiwn a gyfrifir yn unol â Rheol 48.4 ar yr adeg berthnasol.

48.3       Bydd Rheol 46.3{pensiynau haen 1 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} a Rheol 47.3 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol}, fel y bo'n briodol yn gymwys mewn perthynas â Rheolau 48.1 a 48.2 uchod fel y mae'n gymwys i Reolau 46.1 a 46.2 a Rheolau 47.1 a 47.2, y cyfeiriad at bensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} a gaiff ei ddarllen at y diben hwn fel cyfeiriad at bensiwn o dan Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}.

48.4       Caiff y swm blynyddol o bensiwn sy'n daladwy yn rhinwedd y Rheol hon (yn amodol ar Reol 43{cymudiad} ei gyfrif yn unol â Rheol 46.4 neu 47.4 (fel y bo'n briodol gan ddibynnu ar p'un a yw'r deiliad swydd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer pensiwn haen 1 oherwydd salwch neu bensiwn haen 2 oherwydd salwch) ar wahân bod y cyfeiriad at bensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} at y diben hwn yn cael ei ddarllen fel cyfeiriad at bensiwn o dan Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}.

48.5       Bydd Rheol 46.6{pensiynau haen 1 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth Aelod Cynulliad cyfranogol} a Rheol 47.5 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} yn gymwys, fel y bo'n briodol, at ddibenion y Rheol hon.

49           Pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-Aelodau Cynulliad

49.1       Caiff pensiynwr gohiriedig sydd, oherwydd salwch, wedi rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cynulliad ac yn ymgeisydd ar gyfer ei ethol iddo, sydd wedi rhoi'r gorau'n barhaol i ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol wneud cais i'r Ymddiriedolwyr am daliad pensiwn cynnar o dan y Rheol 49 hon os byddai, pan beidiodd y person berfformio gwaith cyflogedig y byddai wedi ennill yr hawl i gael pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} ond am y ffaith nad oedd wedi cyrraedd oedran ymddeol arferol.

49.2       Os yw’r Ymddiriedolwyr yn fodlon, ar ôl i gais gael ei wneud o dan y Rheol hon, fod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

(a)           nad yw’r ymgeisydd yn bwriadu ceisio cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)           bod yr ymgeisydd yn rhoi'r gorau i berfformio gwaith cyflogedig yn barhaol yn deillio'n uniongyrchol o'i salwch; a

(c)           bod salwch yr ymgeisydd o’r fath fyddai’n ei atal rhag cyflawni dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol; ac

(d)           mae tystiolaeth gyda'r cais bod meddyg yn fodlon bod amodau (b) ac (c) yn cael eu bodloni, bydd gan yr ymgeisydd, o'r dyddiad y mae'r Ymddiriedolwyr yn fodlon felly, hawl i gael pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} wedi'i ostwng i adlewyrchu taliad cynnar cyn oed ymddeol arferol.

49.3       Lle y gwneir cais o dan y Rheol hon, bydd yr Ymddiriedolwyr drwy hysbysiad ysgrifenedig yn hysbysu'r ymgeisydd a ydynt yn fodlon fel y nodir yn Rheol 49.2 uchod ac, os ydynt yn fodlon felly, yn nodi'r dyddiad y bydd y pensiwn yn daladwy.

50           Pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-ddeiliaid swyddi

50.1       Bydd Rheol 49{pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-Aelodau'r Cynulliad} yn gymwys mewn perthynas â pherson sydd, oherwydd salwch, wedi rhoi'r gorau i ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol tra nad oedd yn Aelod Cynulliad nac yn ymgeisydd i'w ethol iddo ac sy'n gwneud cais i'r Ymddiriedolwyr am daliad pensiwn cynnar o dan Reol 33 {hawl swydd ddeiliad sy'n bensiynwr}; a phan fo Rheol 49{pensiynau oherwydd salwch ar gyfer cyn-Aelodau'r Cynulliad} yn gymwys i berson o'r fath, caiff unrhyw gyfeiriad at Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} ei dehongli fel cyfeiriad at reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}.

51           Gofyniad ar gyfer analluedd i weithio

51.1       Nid oes gan unrhyw aelod hawl i gael pensiwn oherwydd salwch yn rhinwedd darpariaethau'r Rheolau 46 i 53, oni bai bod yr aelod, mewn gwirionedd, wedi rhoi'r gorau i barhau â'i waith.

52           Tystiolaeth feddygol

52.1       Mae'n rhaid cyflwyno pob cais o dan reolau 46 i 53, gyda thystiolaeth gan ymarferydd meddygol cofrestredig bod yr ymgeisydd (a bydd yn parhau i fod) yn analluog i gyflawni gwaith yr ymgeisydd oherwydd nam corfforol neu feddyliol.

52.2       Yn achos unrhyw gais o'r fath, caiff yr Ymddiriedolwyr ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gael archwiliad meddygol gan ymarferydd neu ymarferwyr meddygol a enwebir ganddynt at y diben a chaiff yr Ymddiriedolwyr alw am adroddiadau meddygol neu dystiolaeth feddygol bellach a bydd ffioedd ar gyfer unrhyw archwiliad neu adroddiadau o'r fath yn daladwy gan yr Ymddiriedolwyr neu'r ymgeisydd, yn unol â phenderfyniad yr Ymddiriedolwyr.

52.3       Wrth ystyried a yw ymgeisydd o dan y Rheolau 46 i 53 hyn, (neu bensiynwyr oherwydd salwch presennol os yw hynny'n unol â phŵer yr Ymddiriedolwyr i adolygu o dan Reol 53) yn methu â chyflawni ei ddyletswyddau neu wneud gwaith cyflogedig, caiff yr Ymddiriedolwyr ystyried barn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig a enwebir ganddynt ynghylch effaith bosibl unrhyw driniaeth feddygol y gallai'r unigolyn ei chael.

53           Pŵer ymddiriedolwr i adolygu pensiynau oherwydd salwch

53.1       Caiff yr Ymddiriedolwyr adolygu hawl aelod i bensiwn oherwydd salwch, sy'n daladwy o dan reolau 46 i 53 ar unrhyw adeg cyn i'r unigolyn gyrraedd oedran ymddeol arferol (a gellir cynnal adolygiad o'r fath yn rheolaidd ar adegau a benderfynir ganddynt hwy).

53.2       Gallai'r Ymddiriedolwyr ei gwneud yn ofynnol i aelod y mae ei hawl yn cael ei adolygu i ddarparu tystiolaeth gan feddyg ar gyflwr ei iechyd.

53.3       Caiff yr Ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn absoliwt leihau swm y pensiwn oherwydd salwch a delir i'r aelod i'r graddau y maent yn ystyried yn briodol. Caiff yr Ymddiriedolwyr hefyd amrywio neu derfynu'r pensiwn os yw'n fodlon, yn dilyn adolygiad, ar gyflwr iechyd yr Aelod Cynulliad:

(a)           yn achos pensiwn haen 2 oherwydd salwch sy'n daladwy o dan reol 47 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol}, nad yw bellach yn atal yr unigolyn yn barhaol rhag perfformio dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol neu rhag cyflawni unrhyw waith cyflogedig neu;

(b)           yn achos pensiwn haen 1 oherwydd salwch sy'n daladwy o dan Reol 46 {pensiynau haen 1 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol}, nad yw bellach yn atal yr unigolyn yn barhaol rhag perfformio dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol;

benderfynu:

(i)            nad yw'r aelod bellach yn gymwys i unrhyw bensiwn oherwydd salwch o dan y Rheol hon; neu

(ii)           bod gan yr aelod hawl i bensiwn haen 1 oherwydd salwch yn lle pensiwn haen 2 oherwydd salwch, ond dim ond os yw'n parhau i fod yn fodlon bod cyflwr iechyd yr aelod yn parhau i'w atal rhag cyflawni dyletswyddau Aelod Cynulliad yn ddigonol.

53.4       Pan fydd yr Ymddiriedolwyr wedi lleihau neu derfynu pensiwn o dan y Rheol 53 hon, bydd yr Ymddiriedolwyr (yn amodol ar gydymffurfio â gofynion cadw), yn penderfynu ar lefel y pensiwn fydd yn daladwy i unigolyn o'r dyddiad y bydd yn cyflawni'r amodau ymddeol yn Rheol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}. Caiff yr Ymddiriedolwyr leihau swm y pensiwn sy'n daladwy o dan Reol 32, yn y modd mae'r Actiwari yn ei argymell, i gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfandaliad a dderbyniwyd gan yr unigolyn o dan Reol 43 pan ymddeolodd yn wreiddiol oherwydd salwch o dan Reolau 46 i 53.

53.5       Caiff yr Ymddiriedolwyr benderfynu nad oes gan unigolyn sy'n gwrthod yn afresymol i gael ei archwilio yn unol â Rheol 52, neu sydd fel arall yn methu â chydweithredu ag adolygiad, hawl i gael pensiwn oherwydd salwch gan y cynllun o dan Reolau 46 i 53.

53.6       Os bydd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniad o dan y Rheol hon, naill ai i atal taliadau pensiwn derbynnydd neu, fel y bo'n briodol, leihau lefel y pensiwn sy'n daladwy, caiff y derbynnydd un mis o rybudd o'u penderfyniad.

53.7       Ni wnaiff yr Ymddiriedolwyr atal pensiwn o dan y Rheol hon os bydd y derbynnydd wedi cyrraedd oedran ymddeol arferol ar ddyddiad yr adolygiad.

dibynyddion sy'n oedolion a phlant sydd wedi goroesi

54           Triniaeth gyfartal

54.1       Bydd Rheolau 55 i 61 {gwragedd a phlant sy'n goroesi} yn gyfartal gymwys mewn perthynas â dibynyddion gwrywaidd neu fenywaidd sy'n oedolion sydd wedi goroesi heblaw i'r graddau maent yn ymwneud â'r isafswm pensiwn gwarantedig a phensiynau sy'n daladwy i weddwon o dan adran 17 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (Rheolau 55.5, 55.6 a 55.7).

55           Pensiynau ar gyfer dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi

55.1       Yn amodol ar ddarpariaethau'r Rheol hon a Rheol 61 {pensiynau dibynnydd ar farwolaeth aelod sydd wedi'i oroesi gan briod a phartner}, bydd gan ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi hawl i gael pensiwn o dan y Rheol hon.

55.2       Bydd cyfanswm y swm blynyddol o bensiwn sy'n daladwy o dan y Rheol hon i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi yn gyfanswm cronedig o:

(a)           bum rhan o wyth o bensiwn budd-dal marwolaeth yr aelod sydd wedi marw, a oedd wedi'i gronni hyd at y diwrnod cyn y dyddiad cychwyn; ac

(b)           yn amodol ar y darpariaethau trosiannol yn Atodlen 6 {darpariaethau trosiannol}, hanner pensiwn budd-dal marwolaeth yr aelod sydd wedi marw, a oedd wedi'i gronni ar y dyddiad cychwyn ac wedi hynny.

55.3       Yn amodol ar Reolau 55.4 a 55.6, bydd pensiwn sy'n daladwy o dan y Rheol hon i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi yn parhau ar gyfer ei oes er gwaethaf ailbriodi.

55.4       Yn amodol ar Reolau 55.5 a 55.6, bydd pensiwn sy'n dod yn daladwy o dan y Rheol hon i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006, yn parhau am oes, er gwaethaf y ffaith bod yr unigolyn yn cyd-fyw â rhywun arall ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

55.5       Er gwaethaf unrhyw beth yn y Rheolau hyn, ac yn enwedig er gwaethaf darpariaethau Rheolau 55.3 a 55.4 uchod:

(a)           bydd gan weddw aelod oedd â gwarant isafswm pensiwn o dan y Rheolau hyn, hawl i gael pensiwn, ar ei farwolaeth, am weddill ei hoes ar gyfradd sy'n cyfateb i gyfradd wythnosol o ddim llai na hanner gwarant isafswm pensiwn yr aelod hwnnw; ac

(b)           bydd gan ŵr gweddw aelod oedd â gwarant isafswm pensiwn, hawl i gael pensiwn, ar ei marwolaeth, am weddill ei oes ar gyfradd sy'n cyfateb i ddim llai na hanner y rhan honno o warant isafswm pensiwn yr aelod y gellir ei briodoli i ffactorau enillion ar gyfer blwyddyn dreth 1988-89 a blynyddoedd treth dilynol.

55.6       Yn ystod unrhyw gyfnod a bennir yn adran 17 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 fel cyfnod y mae pensiwn ymddeol categori B, lwfans mam weddw neu bensiwn gwraig weddw yn daladwy o dan yr adran honno, bydd gan weddw person, er gwaethaf darpariaethau Rheolau 55.3 a 55.4uchod, hawl i gael pensiwn o dan Reolau 55.1 a 55.2uchod.

55.7       Os bydd aelod yn marw mewn amgylchiadau y byddai pensiwn dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cael ei gyfrif yn unol â Rheol 55.2 yn daladwy i'r priod sy'n goroesi a oedd yn briod â'r Aelod hwnnw o fewn cyfnod o chwe mis yn diweddu gyda'i farwolaeth ac mae'n ymddangos i'r Ymddiriedolwyr bod yr aelod yn rhagweld y farwolaeth o fewn chwe mis i ddyddiad y briodas, yna, os:

(a)           nad oes unrhyw blant o'r briodas; ac

(b)           roedd yr aelod yn briod i'r priod sy'n goroesi ar ôl terfynu ei wasanaeth mewn cyflogaeth wedi ei gontractio allan y mae pensiwn y priod sy'n goroesi yn daladwy; a

(c)           byddai'r gyfradd sy'n daladwy i'r priod sy'n goroesi yn uwch na'r warant isafswm pensiwn i weddw a gyfrifir yn unol â Rheol 55.5(a) neu 55.5(b) fel y bo'n briodol,

caiff yr Ymddiriedolwyr benderfynu na fydd unrhyw ran o bensiwn y priod sydd wedi goroesi sy'n uwch na gwarant isafswm pensiwn gweddw yn daladwy.

56           Pensiynau ar gyfer Plant

56.1       Yn amodol ar ddarpariaethau'r Rheol 56 hon, ac Atodlen 3, bydd pensiwn ar gyfer plentyn yn daladwy er budd unrhyw blentyn perthnasol neu blant perthnasol aelod sydd wedi marw.

56.2       Y swm blynyddol o bensiwn ar gyfer plentyn sy'n daladwy o dan y Rheol 56 hon, er budd unrhyw blentyn perthnasol neu blant perthnasol aelod sydd wedi marw fydd:

(a)           os oes dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi:

(i)            os oes un plentyn perthnasol, swm sy'n gyfartal i chwarter pensiwn budd-dal marwolaeth yr aelod sydd wedi marw, neu

(ii)           os oes mwy nag un plentyn perthnasol, swm sy'n gyfartal i dair rhan o wyth o bensiwn budd-dal marwolaeth yr aelod sydd wedi marw, neu

(b)           os nad oes unrhyw ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, swm sy'n gyfartal i bum rhan mewn un ar bymtheg o bensiwn budd-dal marwolaeth yr aelod sydd wedi marw ar gyfer pob plentyn perthnasol nad yw'n fwy na dau.

56.3       Caiff y pensiwn ar gyfer plentyn sy'n daladwy o dan Reol 56 hon, ei dalu neu ei ddosbarthu rhwng person neu bersonau o'r fath y gall yr Ymddiriedolwyr o bryd i'w gilydd eu penderfynu, a chaiff ei gymhwyso gan y person neu'r personau hynny, heb wahaniaeth, er budd plentyn perthnasol neu blant perthnasol yr aelod sydd wedi marw neu gyfeirio iddynt fel y gall yr Ymddiriedolwyr o bryd i'w gilydd eu cyfarwyddo.

57           Marwolaeth mewn swydd Aelod Cynulliad Cyfranogol

57.1       Pan fydd aelod wedi marw a'i fod, ar adeg ei farwolaeth, yn Aelod Cynulliad cyfranogol, bydd Rheol 57.2 isod a Rheol 58 (cyn belled ag y bo'n gymwys) yn gymwys os oes gan y dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi hawl i gael pensiwn o dan Reol 55 neu os yw pensiwn ar gyfer plentyn yn daladwy o dan Reol 56{pensiynau ar gyfer plant} er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol.

57.2       Os bu'r aelod farw cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol, caiff y swm blynyddol o unrhyw bensiwn sy'n daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi o dan Reol 55, neu er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol yr aelod sydd wedi marw o dan Reol 56{pensiynau ar gyfer plant}, ei gyfrif fel pe bai wedi rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cynulliad yn syth cyn ei farwolaeth oherwydd salwch a'i fod, yn rhinwedd Rheol 47 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch yn seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} wedi bod â hawl i gael pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} o ddyddiad y darfyddiad hwnnw.

58           Gwella Pensiwn Cychwynnol Dibynnydd sy'n Oedolyn sydd wedi Goroesi

58.1       Pan fydd dibynnydd aelod sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, a'r aelod yn Aelod Cynulliad a oedd yn bensiynwr pan fu farw, â hawl ganddo i gael pensiwn o dan Reol 55, bydd Rheolau 58.2 a 58.3 yn gymwys.

58.2       Os, am unrhyw ran o'r cyfnod o dri mis, yw swm cyfanredol y canlynol, sef:

(a)           y swm sy'n daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ar ffurf pensiwn o dan Reol 55 neu Reol ar wahân i'r paragraff hwn); ac 

(b)           unrhyw swm (o dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 56.3 {pensiynau ar gyfer plant}) sy'n daladwy i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ar ffurf pensiwn o dan Reol 56{pensiynau ar gyfer plant} er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol yr aelod sydd wedi marw; 

yn llai na'r swm yn Rheol 58.3 isod, yna ar gyfer y rhan hwnnw o'r cyfnod hwnnw caiff y swm sy'n daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi fel pensiwn o dan Reol 55 ei gynyddu gan y gwahaniaeth.

58.3       Y swm hwnnw yw'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy, pe bai'r aelod sydd wedi marw wedi byw, i'r aelod hwnnw am y rhan o dan sylw o'r cyfnod o dri mis drwy gyfrwng pensiwn o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} a/neu Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}.

58.4       Pan fydd person wedi marw a'i fod, ar adeg ei farwolaeth, yn Aelod Cynulliad cyfranogol, bydd Rheolau 58.5 a 58.6 (cyn belled ag y bo'n gymwys) yn gymwys os oes gan y dibynnydd sy'n oedolyn ac sydd wedi goroesi hawl i gael pensiwn o dan Reol 55 neu os yw pensiwn ar gyfer plentyn yn daladwy o dan Reol 56{pensiynau ar gyfer plant} er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol.

58.5       Os, am unrhyw ran o'r cyfnod o dri mis, yw swm cyfanredol y canlynol, sef:

(a)           y swm sy'n daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ar ffurf pensiwn o dan Reol 55 neu Reol ar wahân i'r paragraff hwn); ac 

(b)           unrhyw swm (o dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 56.3 {pensiynau ar gyfer plant}) sy'n daladwy i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi'r aelod sydd wedi marw ar ffurf pensiwn o dan Reol 56 {pensiynau ar gyfer plant} er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol yr aelod sydd wedi marw; 

yn llai na'r swm yn Rheol 58.6 isod, yna ar gyfer y rhan hwnnw o'r cyfnod hwnnw caiff y swm sy'n daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi fel pensiwn o dan Reol 55 ei gynyddu gan y gwahaniaeth.

58.6       Y swm hwnnw yw'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy i'r aelod sydd wedi marw am y rhan o'r tri mis o dan sylw os:

(a)           oedd yr aelod sydd wedi marw wedi byw ac wedi gallu hawlio pensiwn ar ddyddiad y farwolaeth o dan Reol 32 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}; ac

(b)           yn weithredol o 1 Ebrill 2007, bod swm blynyddol y pensiwn hwnnw wedi bod yn swm cyfartal i gyflog cyffredin Aelod Cynulliad ar y gyfradd mewn grym ar ddyddiad y farwolaeth; ond lle roedd cyflog yr aelod wedi gostwng yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 21 {terfyn ar gyflogau Aelodau'r Cynulliad} o'r Ddeddf, bydd "cyflog" yn golygu lefel is o gyflog arferol a fyddai'n daladwy i'r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth.

58.7       Nid oes rhagfarn yn narpariaethau blaenorol y Rheol hon yn erbyn Rheolau 55.3, 55.4 a 55.7 (hyd dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, a chyfyngiadau ar daliad).

59           Ystyr "pensiwn budd-dal marwolaeth"

59.1       Yn y Rheolau hyn, ystyr "pensiwn budd-dal marwolaeth" yw:

(a)           y swm blynyddol o bensiwn neu bensiynau a bennir yn unrhyw un o'r paragraffau canlynol sy'n gymwys mewn perthynas ag aelod sydd wedi marw ac sydd ar adeg ei farwolaeth yn Aelod Cynulliad cyfranogol:

(i)            pan oedd yr aelod sydd wedi marw yn Aelod Cynulliad cyfranogol neu wedi bod, swm blynyddol y pensiwn a gyfrifir yn unol â Rheol 32 neu, os bu farw tra roedd yn Aelod Cynulliad cyfranogol cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol, swm blynyddol y pensiwn wedi'i gyfrif yn rhinwedd Rheol 57; a

(ii)           pan oedd yr aelod sydd wedi marw yn ddeiliad swydd cyfranogol neu wedi bod, swm blynyddol y pensiwn y byddai'r deiliad swydd sydd wedi marw wedi bod â'r hawl i'w gael o dan Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}, os oedd, yn union cyn ei farwolaeth wedi cyflawni'r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o Reol 32.1 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}; ac

(b)           o ran aelod sydd wedi marw ac a oedd yn bensiynwr pan fu farw, y swm o bensiwn neu bensiynau blynyddol roedd yn eu derbyn neu yr oedd â hawl i'w cael, wedi'u cyfrifo yn unol â Rheolau 32 i 36, gan gynnwys pensiwn oherwydd salwch, wedi'i gyfrifo yn unol â Rheolau 46 i 53; ar yr amod na wneir unrhyw ostyngiad neu ataliad wrth gyfrifo'r pensiwn hwnnw neu'r pensiynau hynny at ddibenion y Rheol hon pan oedd y swm blynyddol roedd yn ei dderbyn yn deillio o un neu fwy o ostyngiadau neu ataliadau a wnaed o dan Reolau 43 (cymudo) neu 44 neu 45(ymddeol yn gynnar);

(c)           y swm blynyddol o bensiwn neu bensiynau a bennir yn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol sy'n gymwys mewn perthynas ag aelod sydd wedi marw ac a oedd yn bensiynwr gohiriedig pan fu farw

(i)            pan oedd yr aelod sydd wedi marw yn gyn-Aelod Cynulliad cyfranogol, y swm blynyddol o bensiwn y byddai wedi gallu ei hawlio o dan Reol 32 pe bai wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad yn union cyn iddo farw pe bai wedyn wedi cyflawni'r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o Reol 32.1 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr};

(ii)           pan oedd yr aelod sydd wedi marw yn ddeiliad swydd cyfranogol, swm blynyddol y pensiwn y byddai wedi bod â'r hawl i'w gael o dan Reol 33 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}, os oedd, yn union cyn ei farwolaeth wedi cyflawni'r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o Reol 32.1 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}.

60           Pensiynau dibynyddion

60.1       Mewn amgylchiadau pan nad oes pensiwn dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi yn daladwy ar farwolaeth aelod, caiff yr Ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn absoliwt, dalu'r cyfan neu ran o'r pensiwn sydd fel arall yn daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi i ddibynnydd arall ar delerau o'r math ac am gyfnod y bydd yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu arnynt.

60.2       Gyda newidiadau dyledus i fanylion, bydd darpariaethau Rheolau 55.3 a 55.4, yr un mor berthnasol i bensiwn dibynnydd a gaiff eu talu o dan y Rheol 60 hon.

60.3       Bydd darpariaethau Rheol 67 yn gymwys os telir pensiwn o dan y Rheol 60 hon oni bai bod yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu fel arall.

60.4       Ni fydd darpariaethau Rheolau 68 70 yn gymwys i bensiwn a delir o dan y Rheol 60 hon oni bai bod yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu fel arall.

60.5       Ni fydd darpariaethau Rheolau 57 58 yn gymwys i bensiwn a delir o dan y Rheol 60 hon oni bai bod yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu fel arall.

61           Pensiynau dibynyddion ar farwolaeth aelod sydd wedi'i oroesi gan briod a phartner

61.1       Os bydd aelod yn marw mewn amgylchiadau lle, ar wahân i'r paragraff hwn, y byddai pensiwn yr oedolyn sy'n goroesi yn cael ei gyfrif yn unol â Rheol 55 yn daladwy ond bod partner yn goroesi hefyd, oni bai bod yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu fel arall, caiff y pensiwn sy'n daladwy i'r priod sy'n goroesi ei gyfyngu i'r symiau sy'n daladwy o dan Reolau 55.5 a 55.6 a chaiff y gweddill ei dalu i bartner y person hwnnw.

61.2       Bydd darpariaethau Rheol 67 yn gymwys os telir pensiwn o dan y Rheol hon oni bai bod yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu fel arall.

61.3       Gyda newidiadau dyledus i fanylion, bydd darpariaethau Rheolau 55.3 a 55.4 a Rheolau 55.5 a 55.6, yr un mor berthnasol i bensiwn sy'n daladwy i briod sy'n goroesi, neu bartner o dan y Rheol 61 hon.

61.4       Ni fydd darpariaethau Rheolau 57 58 yn gymwys i bensiwn a delir o dan y Rheol 61 hon oni bai bod yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu fel arall.

RHODD AR FARWOLAETH

62           Rhodd ar farwolaeth mewn swydd

62.1       Os bydd aelod yn marw pan oedd yn gyfranogwr, caiff yr Ymddiriedolwyr, os dymunant yn ôl eu disgresiwn, roi rhodd o dan y Rheol hon mewn perthynas â'r aelod hwnnw.

62.2       Caniateir rhoi rhodd o dan y Rheol hon mewn perthynas â chyfranogwr:

(a)           i'r person neu'r personau a enwebwyd mewn unrhyw enwebiad a wnaed gan y cyfranogwr at ddibenion y Rheol hon a oedd mewn grym ar adeg ei farwolaeth; neu

(b)           os nad oedd unrhyw enwebiad o'r fath mewn grym ar yr adeg honno neu, yn unol â Rheol 62.4 isod, i'r graddau y caiff enwebiad ei drin fel un nad yw mewn grym, i gynrychiolwyr personol y cyfranogwr.

62.3       Ni ellir rhoi unrhyw rodd marwolaeth mewn swydd i gyfranogwr o dan Reol 62.2uchod, os oedd y person sydd wedi marw wedi cyrraedd 75 oed ar ddyddiad y farwolaeth.

62.4       Pan fydd cyfranogwr yn enwebu mwy nag un person at ddibenion y Rheol hon, gall hefyd nodi pa gyfran o'r rhodd y dylid ei rhoi i bob person o'r fath.

62.5       Bydd yr Ymddiriedolwyr yn trin enwebiad a wneir at ddibenion yr adran hon gan y cyfranogwr fel rhai nad ydynt mewn grym ar adeg marwolaeth y cyfranogwr i'r graddau:

(a)           mai unrhyw berson a enwebwyd oedd priod y cyfranogwr pan gafodd yr enwebiad ei wneud ond sydd wedyn wedi peidio â bod yn briod i'r cyfranogwr; neu

(b)           maent o'r farn nad yw talu'r rhodd i unrhyw berson a enwebwyd yn rhesymol ymarferol yn yr holl amgylchiadau.

62.6       Rhaid i enwebiad at ddibenion y Rheol hon gael ei wneud, a gellir ei ddirymu, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r Ymddiriedolwyr; a rhaid i hysbysiad o'r fath fod ar ffurf sy'n ofynnol gan yr Ymddiriedolwyr.

62.7       Yn amodol ar Reol 62.8 isod, swm y rhodd a roddir o dan y rheol hon mewn perthynas â chyfranogwr fydd pa un bynnag o'r symiau canlynol sydd yn fwyaf:

(a)           y swm sy'n hafal i:

(i)            dair gwaith cyflog rhodd y cyfranogwr pan fu farw os digwyddodd hynny cyn 1 Tachwedd 2002;

(ii)           neu swm sy'n gyfartal â phedair gwaith cyflog rhodd y cyfranogwr pan fu farw os digwyddodd hynny ar neu cyn 1 Tachwedd 2002 ond heb fod cyn y dyddiad cychwyn;

(iii)          neu swm sy'n gyfartal â dwywaith cyflog rhodd y cyfranogwr pan fu farw os digwyddodd hynny ar neu cyn y dyddiad cychwyn; a

(b)           cyfanswm y cyfraniadau cyfranogwr a dalwyd gan y cyfranogwr hwnnw, a heb eu had-dalu, ynghyd â llog ar bob cyfraniad cyfranogwr o'r dyddiad y'i talwyd.

62.8       Bydd swm y rhodd yn Rheol 62.7 uchod yn amodol ar uchafswm cyffredinol o bedair gwaith yr uchafswm a ganiateir.

63           Arian rhodd ar farwolaeth ar ôl ymddeol

63.1       Pan fydd pensiynwr yn marw ac nad oes pensiwn yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan Reol 55 {pensiynau ar gyfer dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi}, 56 {pensiynau ar gyfer plant} neu 60 {pensiwn dibynyddion}, gall yr Ymddiriedolwyr, os gwelant yn dda o fewn eu disgresiwn i wneud hynny, ond yn amodol ar Reol 63.2 isod, roi arian rhodd i'w gynrychiolwyr personol o dan y Rheol hon.

63.2       Ni fydd yr Ymddiriedolwyr yn rhoi arian rhodd mewn cysylltiad ag unigolyn o dan y Rheol hon pe byddai swm unrhyw arian rhodd yn llai na swm unrhyw gyfandaliad neu gyfanswm unrhyw gyfandaliadau sy'n daladwy yn rhinwedd Rheol 69.2 neu Reol 71.

63.3       At ddiben penderfynu swm yr arian rhodd y gellir ei roi mewn cysylltiad â phensiynwr o dan y Rheol hon, bydd y canlynol yn cael eu cyfrifo:

(a)           swm yr arian rhodd y gallai'r Ymddiriedolwyr fod wedi'i roi i gynrychiolwyr personol y pensiynwr o dan Reol 62 uchod pe bai'r pensiynwr wedi marw ar yr adeg pan yr oedd yn gyfranogwr; a

(b)           chyfanswm symiau'r taliadau a wnaed i'r pensiynwr ar ffurf pensiwn o dan Reolau 32 i 36, 44 i 45 neu 46 i 53 ynghyd ag unrhyw gyfandaliad a dalwyd i'r pensiynwr o dan Reol 43;

a swm yr arian rhodd (os oes un) fydd faint y mae'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) yn fwy na swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwn.

64           Arian rhodd yswiriant marwolaeth

64.1       Fe all yr Ymddiriedolwyr, o bryd i'w gilydd ac yn ôl eu disgresiwn llwyr, roi unrhyw bolisi yswiriant ar waith ac ymdrin â’r polisi hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth arian rhodd ar farwolaeth o dan Reolau 62 a 63.

GWARANT PUM MLYNEDD

65           Hawl

65.1       Bydd Rheolau 66 i 70 yn gymwys mewn cysylltiad ag Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr.

66           Taliadau Gwarant a'r Ddeddf Cyllid

66.1       Bydd pob taliad cyfandaliad gwarant a roddir mewn cysylltiad ag Aelodau Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwyr neu ddeiliaid swyddi sydd wedi marw a oedd yn bensiynwyr, o dan Reolau 67 i 71, yn daladwy fel budd-dal diffiniedig cyfandaliad budd-dal marwolaeth, lle nad oedd yr aelod sydd wedi marw eto wedi cyrraedd 75 oed ar ddyddiad ei farwolaeth a bod pob un o amodau paragraff 13 o Atodlen 29 y Ddeddf Cyllid wedi'u bodloni; oni bai bod y sawl a fu farw eisoes yn cael pensiwn (gyda gwarant 5 mlynedd) ar 6 Ebrill 2006.  

66.2       Ni fydd y taliad cyfandaliad gwarant yn daladwy pan fo'r aelod sydd wedi marw wedi cyrraedd 75 oed ar adeg ei farwolaeth, ar 6 Ebrill 2006 neu wedi hynny. Yn yr amgylchiadau hynny, bydd darpariaethau Rheolau 65 i 71 yn galluogi goroeswr yr aelod sydd wedi marw i gael pensiwn wedi'i dalu yn lle unrhyw gyfandaliad.

66.3       Bydd Rheol 71 yn gymwys mewn cysylltiad â deiliad swydd sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr. 

67           Gwarantau ar gyfer dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi

67.1       Yn amodol ar Reol 61{marwolaeth aelod sydd â phriod a phartner sydd wedi goroesi}, lle mae Aelod Cynulliad a oedd yn bensiynwr yn marw yn ystod cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr, ac y caiff ei oroesi gan ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, bydd Rheolau 67.2 i 67.4 yn gymwys.

67.2       Os, am unrhyw ran o gyfnod pum mlynedd yr Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr, y bydd cyfanswm y symiau a ganlyn, sef:

(a)           y swm sy'n daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ar ffurf pensiwn o dan Reol 55 ar wahân i'r paragraff hwn (gan gynnwys unrhyw ychwanegiad sy'n daladwy o dan Reol 58); ac 

(b)           unrhyw swm (o dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 56.3 {pensiynau ar gyfer plant}) sy'n daladwy ar ffurf pensiwn o dan Reol 56 {pensiynau ar gyfer plant} er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol yr Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr; 

yn llai na'r swm a nodir yn Rheol 67.3, yna, ar gyfer y rhan hwnnw o'r cyfnod hwnnw, bydd y gwahaniaeth yn daladwy i'r dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi.

67.3       Y swm hwnnw yw'r swm, pe bai'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr wedi byw, a fyddai wedi bod yn daladwy iddo ar gyfer y rhan o'r cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr o dan sylw ar ffurf pensiwn o dan Reol 32{hawliau Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch sy'n daladwy yn rhinwedd Rheol 44{ymddeol yn gynnar i Aelodau Cynulliad}, 46 neu 49{pensiynau oherwydd salwch i gyn-Aelodau Cynulliad}).

67.4       Os bydd dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr yn marw yn ystod cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr, caiff cyfandaliad ei dalu i gynrychiolwyr personol y dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, a gaiff ei gyfrifo drwy ddidynnu'r swm a nodir yn is-baragraff (a) isod o'r swm a nodir yn is-baragraff (b) isod:

(a)           cyfanswm unrhyw bensiynau (o dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 56.3 {pensiynau ar gyfer plant}) a fyddai wedi bod yn daladwy o dan Reol 56 {pensiynau ar gyfer plant} er budd unrhyw blentyn perthnasol neu blant i'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr pe bai'r swm blynyddol sy'n daladwy o dan Reol 56.2 {pensiynau ar gyfer plant} (ar ôl marwolaeth dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr) mewn perthynas â phob plentyn perthnasol wedi parhau yn ystod y cyfnod sy'n diweddu ar ddyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr ar gyfer y plentyn hwnnw; a'r

(b)           swm hwnnw a fyddai wedi bod yn daladwy i'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr pe bai swm blynyddol y pensiwn yr oedd gan yr Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr yr hawl iddo o dan Reol 32 {hawliau Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch sy'n daladwy yn rhinwedd Rheol 44 {ymddeol yn gynnar i Aelodau Cynulliad}, 46 neu 49) wedi cael ei dalu iddo yn ystod gweddill cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr.

68           Gwarantau lle mae plant yn goroesi ond nad oes dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi

68.1       Pan fydd Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr yn marw yn ystod cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr a bod plentyn neu blant perthnasol yn goroesi, ond nad oes dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi, bydd Rheol 68.2 yn gymwys.

68.2       Caiff cyfandaliad ei dalu i gynrychiolwyr personol yr Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr, a gaiff ei gyfrifo drwy ddidynnu'r swm a nodir yn is-baragraff (a) isod o'r swm a nodir yn is-baragraff (b) isod:

(a)           cyfanswm unrhyw bensiynau sy'n daladwy o dan Reol 56 {pensiynau ar gyfer plant} (yn ôl cyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 56.3 {pensiynau ar gyfer plant}) er budd unrhyw blentyn neu blant perthnasol i'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr pe bai'r swm blynyddol sy'n daladwy o dan Reol 56.2{pensiynau ar gyfer plant} (ar ôl marwolaeth yr Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr) mewn perthynas â phob plentyn perthnasol wedi parhau yn ystod y cyfnod sy'n dod i ben ar ddyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr ar gyfer y plentyn hwnnw; a'r 

(b)           swm hwnnw a fyddai wedi bod yn daladwy i'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr pe bai swm blynyddol y pensiwn yr oedd ganddo'r hawl iddo o dan Reol 32{hawliau Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch sy'n daladwy yn rhinwedd Rheol 44  {ymddeol yn gynnar i Aelodau Cynulliad}, 46 neu 49) wedi cael ei dalu iddo yn ystod gweddill cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr.

69           Gwarantau lle nad oes unrhyw un wedi goroesi

69.1       Pan fydd Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr yn marw o fewn cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr ac nad oes dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi nac unrhyw blentyn neu blant perthnasol yn goroesi, bydd Rheol 69.2 yn gymwys.

69.2       Caiff cyfandaliad ei dalu i gynrychiolwyr personol yr Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr pe bai swm blynyddol y pensiwn yr oedd ganddo'r hawl iddo o dan Reol 32{hawliau Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} (gan gynnwys pensiwn ymddeol yn gynnar neu bensiwn oherwydd salwch sy'n daladwy yn rhinwedd Rheol 44{ymddeol yn gynnar i Aelodau Cynulliad}, 46 neu 49{pensiynau oherwydd salwch i gyn-Aelodau Cynulliad}) wedi cael ei dalu iddo yn ystod gweddill cyfnod pum mlynedd yr Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr.

69.3       Ni fydd y Rheol hon yn gymwys os caiff arian rhodd ei roi o dan Reol 63.

70           Cyfnod addysg llawn amser plentyn yn dod i ben yn gynnar

70.1       Os:

(a)           bydd swm yn cael ei dalu i gynrychiolwyr personol dibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr o dan Reol 67.4 neu i gynrychiolwyr personol Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr o dan Reol 68.2; a

(b)           bydd cyfnod addysg llawn amser, fel y'i diffinnir yn Atodlen 3, unrhyw blentyn perthnasol i'r Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr yn dod i ben ar ddyddiad cynharach na dyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo'r swm hwnnw;

gall yr Ymddiriedolwyr dalu swm pellach i'r cynrychiolwyr personol o dan sylw, a gyfrifir drwy ddidynnu'r swm a nodir yn is-baragraff (ii) isod o'r swm a nodir yn is-baragraff (i) isod:

(i)            cyfanswm unrhyw bensiynau a fyddai wedi bod yn daladwy er budd y plentyn pe bai'r taliadau wedi parhau hyd nes dyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr; a

(ii)           chyfanswm y pensiynau sydd wedi cael eu talu fel budd-dal iddynt.

71           Deiliaid swyddi sydd wedi marw a oedd yn bensiynwyr

71.1       Bydd Rheolau 67, 68, 69 a 70 yn gymwys mewn perthynas â deiliad swydd sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr a'i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ac unrhyw blentyn neu blant perthnasol yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas ag Aelod Cynulliad sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr a'i ddibynnydd sy'n oedolyn sydd wedi goroesi ac unrhyw blentyn neu blant perthnasol. Ond, lle bo'r Rheolau hynny'n berthnasol i ddeiliad swydd sydd wedi marw a oedd yn bensiynwr:

(a)           bydd unrhyw gyfeiriad at "Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr" i'w ddehongli fel cyfeiriad at "ddeiliad swydd sy'n bensiynwr"; a

(b)           bydd unrhyw gyfeiriad at "ddyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr" i'w ddehongli fel cyfeiriad at "ddyddiad diwedd y pensiwn arfaethedig ar gyfer plant deiliad swydd sy'n bensiynwr"; a

(c)           bydd unrhyw gyfeiriad at "gyfnod pum mlynedd yr Aelod Cynulliad sy'n bensiynwr" i'w ddehongli fel cyfeiriad at "gyfnod pum mlynedd y deiliad swydd sy'n bensiynwr"; a

(d)           bydd unrhyw gyfeiriad at Reol 32{hawliau Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr} i'w ddehongli fel cyfeiriad at Reol 33 {hawliau deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr}; a

(e)           bydd unrhyw gyfeiriad at Reol 44{ymddeol yn gynnar i Aelodau Cynulliad} i'w ddehongli fel cyfeiriad at Reol 45 {ymddeol yn gynnar i ddeiliaid swyddi}; a

(f)            bydd unrhyw gyfeiriad at Reol 46{pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy'n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} neu Reol 47 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Reol 48 {pensiynau oherwydd salwch sy'n seiliedig ar wasanaeth fel deiliad swydd cyfranogol}; a

(g)           bydd unrhyw gyfeiriad at Reol 49{pensiynau oherwydd salwch i gyn-Aelodau Cynulliad} i'w ddehongli fel cyfeiriad at Reol 50 {pensiynau oherwydd salwch i gyn-ddeiliaid swyddi}.

AD-DALIADAU

72           Ad-daliadau

72.1       Mae Rheolau 73 a 74 i'w gweinyddu yn unol â gofynion y Ddeddf Cyllid ar gyfer cyfranogwyr sydd â hawl i gael cyfandaliadau ad-daliad gwasanaeth byr (fel y diffinnir yn y Ddeddf Cyllid) ar 6 Ebrill 2006 neu wedi hynny.   Caiff treth ei didynnu o gyfandaliadau ad-daliad gwasanaeth byr yn unol â Rheol 26.

73           Ad-daliad i gyfranogwr

73.1       Yn ddarostyngedig i Reolau 73.3 a 73.5 isod, caiff cyfraniadau cyfranogwr a dalwyd gan aelod ac na chafodd eu had-dalu'n flaenorol iddo eu had-dalu iddo gan yr Ymddiriedolwyr, gyda llog wedi'i dalu o'r dyddiadau y talwyd y cyfraniadau cyfranogwr, os caiff yr amodau a bennir yn y paragraff canlynol eu bodloni.

73.2       Yr amodau y cyfeirir atynt yn Rheol 73.1 yw:

(a)           bod yr aelod wedi peidio â bod yn gyfranogwr;

(b)           bod cyfanswm y gwasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn llai na dwy flynedd; ac

(c)           nad yw ef wedi dod yn gymwys i gael Pensiwn o dan y Rheolau hyn.

73.3       Os bydd yr aelod, ar ôl cael ad-daliad o gyfraniadau cyfranogwr o dan y Rheol hon, yn dod yn gymwys i dalu cyfraniadau cyfranogwr o dan Reol 29 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} neu Reol 30 {cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol}, ac yn eu talu, fe all:

(a)           os yw'n dymuno, dalu'r ad-daliad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad y daeth yn gymwys; neu

(b)           ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os yw'r Ymddiriedolwyr yn caniatáu; neu

(c)           ad-dalu i'r Ymddiriedolwyr y swm a ad-dalwyd, gyda llog o'r dyddiad y cafodd ei ad-dalu; ac fe all unrhyw swm sydd i'w dalu i'r Ymddiriedolwyr o dan y paragraff hwn, os yw'r Ymddiriedolwyr yn caniatáu, gael ei dalu mewn rhandaliadau dros gyfnod, nad yw'n hwy na tair blynedd, i'w bennu gan yr Ymddiriedolwyr.

73.4       Caiff unrhyw swm (y prif swm neu swm y llog) a gaiff ei ad-dalu gan y cyfranogwr i'r Ymddiriedolwyr o dan Reol 73.3 ei drin, at ddibenion y Rheol hon, fel pe bai'n gyfraniad cyfranogwr a dalwyd ganddo ar ddyddiad yr ad-daliad.

73.5       Bydd yr Ymddiriedolwyr yn didynnu o swm unrhyw gyfraniadau cyfranogwr y gellir eu had-dalu i berson yn unol â darpariaethau'r Rheol hon y swm a ardystiwyd yn unol ag Adran 55(2) a 58(4) o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 mewn perthynas â'r person hwnnw.

73.6       At ddibenion cyfrifo cyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad a chyfnod gwirioneddol o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd, ni fydd unrhyw gyfnod yn cael ei ystyried pan gafodd y cyfraniadau cyfranogwr a dalwyd gan y person hwnnw:

(a)           eu had-dalu o dan y Rheol hon; ac

(b)           na wnaeth eu had-dalu i'r Ymddiriedolwyr.

74           Ad-daliad ar ôl marwolaeth

74.1       Pan fydd aelod yn marw:

(a)           heb adael priod sy'n goroesi neu blentyn perthnasol sydd, neu a allai ddod, mewn perthynas â'r person hwnnw, yn gymwys i gael pensiwn o dan Reol 55 neu 56; ac

(b)           mewn amgylchiadau lle mae'r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (c) Rheol 73.2 wedi cael eu bodloni, ond nad oes arian rhodd, cyfandaliad na budd-dal pensiwn yn daladwy mewn perthynas ag ef neu hi;

bydd yr Ymddiriedolwyr yn ad-dalu i gynrychiolwyr personol yr aelod y cyfraniadau cyfranogwr a dalwyd gan y cyfranogwr ac na chawsant eu had-dalu iddo yn flaenorol, gyda llog o'r dyddiadau y talwyd y cyfraniadau cyfranogwr.

TROSGLWYDDIADAU

75           Trosglwyddiadau

75.1       Caiff Rheolau 76 i 79 eu gweinyddu yn unol â gofynion y Ddeddf Cyllid, a byddant yn weithredol o 6 Ebrill 2006; mae yn fel bod modd i'r Ymddiriedolwyr wneud trosglwyddiadau i gynlluniau pensiwn cofrestredig eraill a chynlluniau pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys a derbyn trosglwyddiadau oddi wrthynt, yn unol â darpariaethau adran 169 y Ddeddf Cyllid.

76           Trosglwyddiadau i gynlluniau pensiwn eraill

76.1       Gall aelod sydd wedi ennill yr hawl i gael swm arian parod cyfatebol ei fudd-daliadau sydd wedi'u cronni yn y Cynllun arfer yr hawl honno yn unol â Phennod 1 o Ran 4ZA Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Ymddiriedolwyr drosglwyddo'r swm arian parod cyfatebol i gynllun derbyn yn unol â darpariaethau Pennod 1.

76.2       Os bydd hynny'n ofynnol o dan Reol 76.1, ac yn amodol ar Reol 76.7, rhaid i'r Ymddiriedolwyr dalu'r swm arian parod cyfatebol sy'n berthnasol i'r aelod i ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun derbyn a chymryd pa bynnag gamau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau'r trosglwyddiad hwnnw.

76.3       Yn amodol ar Reol 76.4, os nad oes gan aelod unrhyw hawl statudol i swm arian parod cyfatebol, gall yr Ymddiriedolwyr, yn ôl eu disgresiwn llwyr, wneud trosglwyddiad o'r budd-daliadau sydd wedi cronni yn y Cynllun i gynllun derbyn dewisol yr aelod. Os yw'r Ymddiriedolwyr yn cytuno i wneud y trosglwyddiad, rhaid i'r Ymddiriedolwyr benderfynu ar y swm sydd i'w drosglwyddo ar ôl cael cyngor gan yr actiwari, ar yr amod bod yn rhaid i'r swm hwnnw fod o leiaf gyfwerth â'r budd-daliadau a fyddai fel arall wedi cael eu darparu o dan y Cynllun i'r aelod.  

76.4       Rhaid i drosglwyddiad o dan Reol 76.1 neu Reol 76.3  fod yn "drosglwyddiad cydnabyddedig" at ddibenion adran 169 Deddf Cyllid 2004.

76.5       Ar ôl i'r Ymddiriedolwyr dalu trosglwyddiad mewn perthynas ag aelod o dan Reol 76.1 neu Reol 76.3, nid yw'r aelod mwyach â'r hawl i dderbyn unrhyw fudd-daliadau o dan y Cynllun mewn perthynas â'r budd-daliadau y gellir eu priodoli i'r trosglwyddiad. Mae derbynneb gan ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun derbyn yn rhyddhau'r Ymddiriedolwyr yn llwyr o ran yr aelod mewn perthynas â'r budd-daliadau y gellir eu priodoli i'r trosglwyddiad.

76.6       Os yw ymddiriedolwyr neu reolwyr y cynllun derbyn, mewn perthynas â throsglwyddiad o dan Reol 76.1 neu Reol 76.3,  yn methu â derbyn taliad trosglwyddiad mewn perthynas ag isafswm pensiwn gwarantedig aelod, neu'n amharod i wneud hynny, gall yr Ymddiriedolwyr dalu swm arian parod cyfatebol ar gyfer y swm sy'n ychwanegol i isafswm pensiwn gwarantedig yr aelod. Ar ôl y trosglwyddiad, mae'r Ymddiriedolwyr yn atebol am dalu isafswm pensiwn gwarantedig yr aelod o hyd.

76.7       Os bydd aelod yn dod yn gymwys i gael y swm arian parod cyfatebol ar gyfer y budd-daliadau sydd wedi cronni yn y Cynllun, yn unol â Rheol 76.1, a bod gofyn i'r Ymddiriedolwyr drosglwyddo'r swm arian parod cyfatebol i gynllun derbyn er mwyn ceisio'r hawl i "fudd-daliadau hyblyg", fel y'i diffinnir yn adran 74 Deddf Cynlluniau Pensiwn 2015, o dan y cynllun derbyn, rhaid i'r Ymddiriedolwyr wirio bod yr aelod wedi cael cyngor annibynnol priodol yn unol ag adran 48 Deddf Cynlluniau Pensiwn 2015.  Os nad yw'r Ymddiriedolwyr yn gallu gwneud gwiriad o'r fath oherwydd ffactorau y tu allan i'w rheolaeth, neu'n gwneud y gwiriad ond yn methu â chadarnhau bod yr aelod wedi cael cyngor annibynnol priodol, ni fydd yn ofynnol i'r Ymddiriedolwyr wneud y trosglwyddiad arfaethedig.

77           Effaith trosglwyddiadau allan ar wasanaeth cyfrifadwy

77.1       Pan gaiff unrhyw symiau eu talu gan yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 76 mewn perthynas ag unrhyw aelod, yna:

(a)           at y diben o gyfrifo cyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yr aelod, neu gyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd, ni fydd unrhyw gyfnod cyn dyddiad y taliad hwnnw yn cael ei ystyried; ac

(b)           at ddibenion Rheolau 73 a 74, bydd unrhyw gyfraniadau cyfranogwr a dalwyd cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu trin fel cyfraniadau sydd heb gael eu talu.

78           Ardystio gan yr actiwari

78.1       At ddibenion Rheol 76, rhaid i werth trosglwyddiad hawliau pensiwn cronedig aelod, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, o dan y Rheolau hyn fod yn swm y bydd yr Ymddiriedolwyr yn ei bennu ar ôl cael cyngor yr actiwari. Bydd y symiau hyn yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym Mhennod IV Rhan IV Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993 ac yn cael eu hardystio gan yr actiwari, neu eu cyfrifo yn unol â thablau sydd wedi'u paratoi ganddo.

79           Trosglwyddiadau o gynlluniau pensiwn eraill

79.1       Ar gais unrhyw aelod sydd:

(a)           yn Aelod Cynulliad cyfranogol; neu

(b)           yn Aelod Cynulliad sydd wedi optio allan, sy'n gwneud cais i ail-ymuno â'r Cynllun o dan Reol 13;

bydd yr Ymddiriedolwyr yn cael unrhyw symiau sy'n daladwy, ar gyfer gwerth y trosglwyddiad mewn perthynas â'r aelod, cyn y dyddiad cychwyn, o unrhyw gynllun neu flwydd-dal y mae Rheol 76 yn gymwys iddynt, neu o unrhyw arian sy'n cael ei ddal at ddibenion cynllun neu flwydd-dal o'r fath, neu o dan unrhyw ddeddfiad sydd mewn grym am y tro sy'n awdurdodi trosglwyddiad hawliau pensiwn.

79.2       Pan fydd unrhyw symiau yn dod i law'r Ymddiriedolwyr o dan Reol 79.1 uchod ar gais yr Aelod Cynulliad cyfranogol:

(a)           caiff cyfanswm ei wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad, a gronnwyd cyn y dyddiad cychwyn, ei gynyddu gan gyfnod a benderfynir gan yr Ymddiriedolwyr; ac

(b)           at ddibenion Rheolau 73 a 74, caiff y symiau a ddaw i law'r Ymddiriedolwyr, cyn belled ag, ym marn yr Ymddiriedolwyr, eu bod yn cynrychioli taliadau cyfrannol y person ei hun, eu trin fel pe baent yn gyfraniadau cyfranogwr a dalwyd, ar yr un adeg ag y cafodd y taliadau cyfrannol hynny eu gwneud, drwy ddidynnu o gyflog yr aelod o dan Reol 29 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol}.

79.3       Bydd unrhyw gyfnod a bennir gan yr Ymddiriedolwyr o dan Reol 79.2(a) uchod yn gyfnod neu'n nifer o flynyddoedd sydd naill ai wedi'i ardystio gan yr actiwari fel cyfnod sy'n briodol mewn perthynas â'r symiau a ddaeth i law'r Ymddiriedolwyr ar gais y person o dan sylw, neu'n gyfnod neu'n nifer o flynyddoedd wedi'i gyfrifo fel cyfnod sy'n briodol mewn perthynas â'r symiau hynny, yn unol â thablau sydd wedi'u paratoi gan yr actiwari.

BLYNYDDOEDD YCHWANEGOL

80           Prynu Blynyddoedd Ychwanegol gan Aelodau Cynulliad cyfranogol

80.1       Bydd Atodlen 4 {prynu blynyddoedd ychwanegol} yn cael effaith mewn perthynas â thalu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol gan Aelod Cynulliad cyfranogol ac, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen honno, bydd cyfanswm cyfnod y gwasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol a gronnwyd cyn y dyddiad cychwyn yn cael ei gynyddu gan y cyfnod o flynyddoedd ychwanegol a brynwyd. 

80.2       Ni chaiff Aelod Cynulliad cyfranogol ganiatâd i ddod i drefniant newydd ar gyfer prynu blynyddoedd ychwanegol, o dan Reol 80, ar y dyddiad cychwyn nac ar ôl hynny.

80.3       Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer prynu blynyddoedd ychwanegol, y trefnodd yr Aelod Cynulliad cyfranogol cyn y dyddiad cychwyn, yn parhau i fod yn gymwys i'r graddau a bennwyd yn Atodlen 4.

ATODLEN 1

Darpariaethau hanesyddol

 

Cyfraniadau'r aelodau

1.             Y ganran y cyfeirir ati yn Rheol 29.2{cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol}:

a.             mewn perthynas â thalu cyflog ar gyfer cyfnod sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004 yw 6 y cant; ac

b.             mewn perthynas â thalu cyflog ar gyfer cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2004 neu wedi hynny ond cyn 1 Ebrill 2005 yw:-

                              i.                6 y cant lle nad yw'r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a isod i gyfrannu ar 10 y cant; neu

                             ii.                10 y cant lle mae'r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a isod i gyfrannu ar y raddfa uwch; ac

c.             mewn perthynas â thalu cyflog ar gyfer cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu wedi hynny yw:-

                              i.                10 y cant lle nad yw'r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b isod i barhau ar 6 y cant; neu

                             ii.                6 y cant lle mae'r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b isod i gyfrannu ar y raddfa is.

2.             Gall yr Aelod Cynulliad cyfranogol arfer yr opsiynau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1.b ac 1.c uchod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Ymddiriedolwyr:-

a.             yn achos person a oedd yn Aelod Cynulliad cyfranogol rhwng 1 Ebrill 2004 ac 1 Ebrill 2005, drwy ddarparu rhybudd priodol heb fod yn hwyrach na 14 Mawrth 2005 i arfer yr opsiwn i gyfrannu ar y gyfradd uwch, yn weithredol o 1 Ebrill 2004; ac

b.             yn achos person sy'n Aelod Cynulliad cyfranogol ar 1 Ebrill 2005 neu wedi hynny, ac nad yw eisoes wedi arfer opsiwn o ran paragraff a, heb fod yn fwy na thri mis o rybudd o'r dyddiad hwnnw i gyfrannu ar y gyfradd is, yn weithredol o 1 Ebrill 2005; neu, yn achos Aelod Cynulliad cyfranogol sydd newydd gael eu hethol ar ôl 1 Ebrill 2005, heb fod yn fwy na thri mis o rybudd ar ôl dyddiad yr etholiad cyntaf i gyfrannu ar y gyfradd is, yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw.

3.             Yn unol ag arfer yr opsiwn ym mharagraff 2.a, rhaid i aelod dalu i'r Ymddiriedolwyr y swm sy'n gyfwerth â'r swm ychwanegol a fyddai wedi'i ddidynnu o'i gyflog pe bai cyfraniadau cyfranogwr wedi'u didynnu ar gyfradd o 10 y cant o 1 Ebrill 2004.

4.             Yn unol ag arfer yr opsiwn ym mharagraff 2.b, rhaid i'r Ymddiriedolwyr dalu i'r aelod y swm sy'n cynrychioli'r swm ychwanegol a ddidynnwyd o'i gyflog yn ystod y cyfnod pan oedd cyfraniadau cyfranogwr yn cael eu didynnu ar y gyfradd o 10 y cant.

Cyfraniadau Deiliaid Swyddi

5.             Y ganran y cyfeirir ati yn Rheol 30.2{cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol}:

a.             mewn perthynas â thalu cyflog ar gyfer cyfnod sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004 yw 6 y cant; ac

b.             mewn perthynas â thalu cyflog ar gyfer cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2004 neu wedi hynny ond cyn 1 Ebrill 2005 yw:-

                                          i.    6 y cant lle nad yw'r deiliad swydd cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a i gyfrannu ar 10 y cant; neu

                                         ii.    10 y cant lle mae'r deiliad swydd cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a i gyfrannu ar y gyfradd uwch; a

c.             mewn perthynas â thalu cyflog ar gyfer cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu wedi hynny yw:-

                                          i.    10 y cant lle nad yw'r deiliad swydd cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b i gyfrannu ar 6 y cant; neu

                                         ii.    6 y cant mae'r deiliad swydd cyfranogol wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b i gyfrannu ar y raddfa is.

6.             Tybir bod Aelod Cynulliad cyfranogol sydd hefyd yn ddeiliad swydd cyfranogol (neu sydd yna'n dod yn ddeiliad swydd cyfranogol) sy'n arfer unrhyw un o'r opsiynau ym mharagraff 2 hefyd yn arfer yr opsiwn (gyda'r un dyddiad dod i rym) mewn perthynas â'i gyflog deiliad swydd.

7.             Yn unol ag arfer yr opsiwn ym mharagraff 2.a gan Aelod Cynulliad cyfranogol sydd hefyd yn ddeiliad swydd cyfranogol, neu sy'n dod yn un, rhaid i'r deiliad swydd cyfranogol dalu i'r Ymddiriedolwyr y swm sy'n gyfwerth â'r swm ychwanegol a fyddai wedi cael ei ddidynnu o'i gyflog deiliad swydd pe bai cyfraniadau cyfranogwr wedi cael eu didynnu ohono ar gyfradd o 10 y cant ers 1 Ebrill 2004.

8.             Yn unol ag arfer yr opsiwn ym mharagraff 2.b gan Aelod Cynulliad cyfranogol sydd hefyd yn ddeiliad swydd cyfranogol, neu sy'n dod yn un, rhaid i'r Ymddiriedolwyr dalu i'r deiliad swydd cyfranogol y swm sy'n gyfwerth â'r swm ychwanegol a ddidynnwyd o'i gyflog deiliad swydd pan oedd cyfraniadau cyfranogwr yn cael eu didynnu ohono ar gyfradd o 10 y cant.

Y ffracsiwn priodol ar gyfer Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr

9.             Y ffracsiwn priodol ar gyfer Aelodau Cynulliad at ddibenion paragraff (a) o'r diffiniad yw:

a.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant;

b.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2004 a 31 Mawrth 2005, ar gyfer Aelod Cynulliad cyfranogol nad yw wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant;

c.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2004 a 31 Mawrth 2005 Aelod Cynulliad cyfranogol sydd wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a, un rhan o ddeugain neu ffracsiwn cymesur o un rhan o ddeugain;

d.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a dyddiad cychwyn Aelod Cynulliad cyfranogol nad yw wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b, un rhan o ddeugain neu ffracsiwn cymesur o un rhan o ddeugain; ac

e.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a dyddiad cychwyn yr Aelod Cynulliad cyfranogol sydd wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant.

10.          Y ffracsiwn priodol ar gyfer Aelodau Cynulliad at ddibenion paragraff (b) o'r diffiniad yw:

a.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant; ac

b.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a'r dyddiad cychwyn, un rhan o hanner cant neu un rhan o ddeugain (fel y bo'n briodol) neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant neu un rhan o ddeugain, llai'r un gyfran ac y cafodd cyflog yr Aelod Cynulliad cyfranogol ei ostwng o'i gymharu â chyflog arferol Aelodau Cynulliad ar y pryd.

11.          Y ffracsiwn priodol ar gyfer deiliad swydd yw:

a.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant;

b.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2004 a 31 Mawrth 2005, ar gyfer deiliad swydd nad yw wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant;

c.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2004 a 31 Mawrth 2005, ar gyfer deiliad swydd cyfranogol sydd wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.a, un rhan o ddeugain neu ffracsiwn cymesur o un rhan o ddeugain;

d.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a dyddiad cychwyn deiliad swydd cyfranogol nad yw wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b, un rhan o ddeugain neu ffracsiwn cymesur o un rhan o ddeugain; ac

e.             yn achos cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel deiliad swydd yn ystod blwyddyn neu ran o flwyddyn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a dyddiad cychwyn y deiliad swydd cyfranogol sydd wedi arfer yr opsiwn o dan baragraff 2.b, un rhan o hanner cant neu ffracsiwn cymesur o un rhan o hanner cant.

 

 

 

 

 

 

 

 


 

ATODLEN 2

Canran yr hawl i bensiwn a leiheir yn achos budd-daliadau cyn mis Mai 2016

 

1              Caiff y pensiwn y mae gan aelod hawl iddo yn rhinwedd Rheol 44 {ymddeoliad cynnar i Aelodau'r Cynulliad} a Rheol 45{ymddeoliad cynnar i ddeiliaid swyddi} ei leihau, gan roi sylw i oedran yr aelod a hyd y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy cymwys ar ddechrau'r pumed Cynulliad a'i oed ar y dyddiad y caiff y budd-daliadau eu talu, yn ôl y ganran a bennir mewn tablau a/neu ganllawiau y caiff yr Actiwari eu paratoi o bryd i'w gilydd yn unol â'r gofynion ym mharagraffau 2 a 3 o'r Atodlen hon.  Rhag bod unrhyw amheuaeth, bydd y ffactorau ar gyfer lleihau, a bennir yn y tabl ym mharagraff 8 isod, ddim ond yn cael eu cymhwyso wrth gyfrifo'r budd-daliadau ar gyfer ymddeol yn gynnar sy'n daladwy o dan y 'rheol 80' yn achos budd-daliadau yr aelodau cyn 6 Mai 2016 yn unig.  I fanteisio ar y ffactorau mwyaf ffafriol ar gyfer ymddeol yn gynnar, fel y nodir ym mharagraff 8 isod, bydd angen i aelod sydd â budd-daliadau cyn 6 Mai 2016 fod wedi bod yn aelod o'r Cynllun cyn 1 Ebrill 2007, a rhaid iddo fod â chyfnod o wasanaeth cyfrifadwy cymwys o 15 mlynedd o leiaf, fel y disgrifir ym mharagraffau 4 a 5 isod, ar 6 Mai 2016.

2              Rhaid i'r ganran leihau berthnasol a bennir yn y tablau a/neu mewn canllawiau a baratoir gan yr Actiwari gydymffurfio'n llwyr â'r gofynion o ran cadw, a rhaid ei mabwysiadu gan yr Ymddiriedolwyr, a hysbysu'r aelodau amdani, o leiaf unwaith bob tair blynedd.

3              Wrth baratoi'r tablau a/neu'r canllawiau rhaid i’r Actiwari geisio sicrhau niwtraledd o ran costau, hynny yw, bod cyfanswm y gost debygol i'r Cynllun, gydag amser, o dalu pensiynau yr un peth, ni waeth beth yw oedran yr unigolion pan fyddant yn dechrau cael pensiwn.

4              At ddiben yr Atodlen hon, caiff gwasanaeth person fel Aelod o Dŷ’r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig neu fel Aelod o Senedd y Cymunedau Ewropeaidd gyfrif tuag at ei gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy cymwys i’r graddau nad yw’n cydredeg â gwasanaeth fel Aelod Cynulliad.

5              At ddibenion yr Atodlen hon, dim ond y rhan honno o’u gwasanaeth sy’n gyfystyr â gwasanaeth cyfrifadwy gwirioneddol yn y Cynllun ar ôl 1 Rhagfyr 2006 y caiff aelodau presennol y Cynllun ar 1 Rhagfyr 2006, ei chyfrif fel “cyfnod cymwys” o wasanaeth cyfrifadwy. Rhag bod unrhyw amheuaeth, bydd yr holl wasanaeth cyfrifadwy cyn 1 Rhagfyr 2006 yn cyfrif fel cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy cymwys.

6              Ni fydd unigolyn newydd sy’n cofrestru yn y cynllun ar ôl 1 Ebrill 2007 neu aelod sy'n gadael cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy cyn y dyddiad cychwyn neu wedi hynny, ac yn ailymuno â'r Cynllun eto ar y dyddiad cychwyn neu wedi hynny, yn cael pensiwn ymddeoliad cynnar heb ei leihau, ni waeth a yw cyfanswm ei oedran, ynghyd â'i gyfnod o wasanaeth cymwys, yn 80 mlynedd neu ragor.

7              Lle nad yw’r oedran na'r cyfnod cymwys yn nifer union o flynyddoedd, gellir cyfrifo canran y lleihad drwy amcangyfrif gwerth y lleihad ar gyfer yr oedran gofynnol a’r cyfnod cymwys gofynnol yn ôl yr angen.

8              Cynhwysir y tabl isod at ddibenion cyfrifo hanesyddol yn unig, a'r ffactorau a ddangosir ynddo yw'r rhai a oedd yn ddilys ar 6 Mai 2016, ac mae'n bosibl y cânt eu disodli gan ffactorau diweddarach fel y rhai a gaiff eu paratoi gan yr Actiwari o bryd i'w gilydd.

Lleihad drwy ganran sengl o’r dyddiad y mae pensiwn yn daladwy





Oedran y dechreuwyd talu'r pensiwn

Cyfnod cymwys (blynyddoedd)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

20 neu ragor

19

18

17

16

15 neu lai

50

42.1

44.8

47.2

49.4

51.4

53.3

51

39.2

42.1

44.8

47.2

49.4

51.4

52

36.1

39.2

42.1

44.8

47.2

49.4

53

32.7

36.1

39.2

42.1

44.8

47.2

54

29.1

32.7

36.1

39.2

42.1

44.8

55

25.2

29.1

32.7

36.1

39.2

42.1

56

21

25.2

29.1

32.7

36.1

39.2

57

16.4

21

25.2

29.1

32.7

36.1

58

11.5

16.4

21

25.2

29.1

32.7

59

6

11.5

16.4

21

25.2

29.1

60

0

6

11.5

16.4

21

25.2

61

0

0

6

11.5

16.4

21

62

0

0

0

6

11.5

16.4

63

0

0

0

0

6

11.5

64

0

0

0

0

0

6

65

0

0

0

0

0

0

 

 


 

ATODLEN 3

Personau sy’n Gymwys i gael Pensiynau ar gyfer Plant

 

1              At ddibenion Rheol 56{pensiynau ar gyfer plant} caiff plentyn ei drin yn blentyn sydd o fewn cyfnod o addysg amser llawn tra bydd:

(a)           yn cael addysg amser llawn mewn unrhyw brifysgol, coleg, ysgol neu sefydliad addysgol arall; neu

(b)           yn cael hyfforddiant amser llawn neu’n amser llawn i raddau helaeth ar gyfer unrhyw grefft, proffesiwn neu alwedigaeth; a phenderfynir ar unrhyw ymholiad sy’n deillio o’r paragraff hwn gan yr Ymddiriedolwyr.

2              Ni chaniateir trin plentyn yn blentyn perthnasol at ddibenion Rheol 56 {pensiynau ar gyfer plant}

(a)           fel plentyn siawns neu’n blentyn mabwysiedig i’r aelod sydd wedi marw; os ganwyd neu os mabwysiadwyd y cyfryw blentyn, yn ôl y digwydd, ar ôl i briodas neu briodas ddiwethaf yr aelod sydd wedi marw gael ei therfynu; neu

(b)           fel plentyn priod yr aelod sydd wedi marw, os ganwyd y plentyn hwnnw neu os daeth y plentyn hwnnw yn blentyn y priod hwnnw ar ôl i briodas y priod â’r aelod sydd wedi marw gael ei therfynu;

oni bai bod yr Ymddiriedolwyr, yn achos plentyn mabwysiedig o dan is-baragraff (a) neu is-baragraff (b) o’r paragraff hwn, os ydynt yn fodlon bod yr aelod sydd wedi marw cyn y digwyddiad perthnasol y cyfeirir ato yn y Cynllun hwn (neu’r aelod sydd wedi marw neu ei briod neu ei phriod, yn ôl y digwydd) eisoes wedi bwriadu mabwysiadu’r plentyn a bod y plentyn wedyn yn llwyr ddibynnol neu’n bennaf dibynnol ar yr aelod sydd wedi marw, neu yn achos plentyn siawns o dan is-baragraff (a) uchod, os ydynt yn fodlon y byddai’r plentyn wedi bod yn llwyr ddibynnol neu’n bennaf ddibynnol ar yr aelod sydd wedi marw pe bai’r plentyn hwnnw wedi’i eni cyn marwolaeth yr aelod sydd wedi marw, yn cyfarwyddo bod y plentyn yn cael ei drin fel plentyn perthnasol.

3              Ni chaniateir trin plentyn yn blentyn perthnasol at ddibenion Rheol 56 {pensiynau ar gyfer plant}:

(a)           fel plentyn siawns yr aelod sydd wedi marw; neu

(b)           fel plentyn priod yr aelod sydd wedi marw,

onid oedd y plentyn yn llwyr ddibynnol ar yr aelod sydd wedi marw neu’n bennaf ddibynnol arno ar yr adeg y bu'r aelod farw.

4              Ni chaniateir trin plentyn yn blentyn perthnasol at ddibenion Rheol 56 {pensiynau ar gyfer plant}, os yw’r plentyn, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod sydd wedi marw, yn briod neu’n cyd-fyw â pherson arall; a bydd plentyn sy’n priodi neu’n cyd-fyw â pherson arall ar ôl hynny yn peidio â bod yn blentyn perthnasol oni bai a hyd nes y bydd yr Ymddiriedolwyr, os ydynt yn fodlon bod y briodas wedi’i therfynu neu fod y plentyn wedi peidio â chyd-fyw â pherson ac yn penderfynu, am resymau eithriadol, ei bod yn briodol gwneud hynny, yn cyfarwyddo bod y plentyn yn cael ei drin yn y cyfryw fodd.


ATODLEN 4

Prynu Blynyddoedd Ychwanegol

 

1              Prynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol

1.1          Yn ddarostyngedig i is-baragraff 1.3 isod, caniateir i Aelod Cynulliad cyfranogol wneud cais ysgrifenedig i’r Ymddiriedolwyr am brynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol sy’n daladwy hyd nes y bydd yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol, a bydd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn y cais os bodlonir pob un o’r amodau canlynol mewn perthynas â’r cais hwnnw:

(a)           na fydd yr Aelod Cynulliad cyfranogol wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol ar ei ben-blwydd nesaf ar ôl dyddiad y cais;

(b)           bod yr Aelod Cynulliad cyfranogol wedi bodloni’r Ymddiriedolwyr, ym mha fodd bynnag y gofynna’r Ymddiriedolwyr, fod ei iechyd yn dda;

(c)           nad yw nifer y blynyddoedd ychwanegol y mae’r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi gwneud cais i’w prynu yn fwy na’r uchafswm a ganiateir yn rhinwedd y cyfraniadau a ganiateir gan baragraff 5 o’r Atodlen hon; a

(d)           bod yr Aelod Cynulliad cyfranogol wedi darparu’r cyfryw wybodaeth a thystiolaeth i’r Ymddiriedolwyr ag y gofynnir amdani ac wedi nodi a yw'r cais wedi’i wneud o dan ddarpariaethau is-baragraff 1.1 neu o dan ddarpariaethau is-baragraff 1.2 isod.

1.2          Yn ddarostyngedig i is-baragraff 1.3 isod, caniateir i Aelod Cynulliad cyfranogol, o fewn cyfnod o ddeuddeg mis yn union ar ôl y dyddiad y dechreuodd ar gyfnod o wasanaeth fel Aelod Cynulliad, neu o fewn cyfnodau hwy ag a ganiateir gan yr Ymddiriedolwyr o dan amgylchiadau arbennig ac yn ôl eu disgresiwn, wneud cais ysgrifenedig i’r Ymddiriedolwyr am brynu blynyddoedd ychwanegol drwy dalu cyfraniadau cyfnodol am gyfnod o dair neu bedair blynedd, a bydd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn y cais os nad yw’r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol ar y dyddiad y daw’r cais i law'r Ymddiriedolwyr ac os bodlonir amodau is-baragraffau 1.1(b), 1.1(c) ac 1.1(d)uchod mewn perthynas â’r cais hwnnw.

1.3          Ni chaniateir gwneud ceisiadau newydd o dan yr Atodlen 4 hon ar y dyddiad cychwyn neu wedi hynny.

1.4          Bydd cais gan Aelod Cynulliad cyfranogol i brynu blynyddoedd ychwanegol yn ddi-droi'n-ôl ar y dyddiad y derbynnir y cais gan yr Ymddiriedolwyr ac o’r dyddiad hwnnw ymlaen.

1.5          Pan fo'r Ymddiriedolwyr wedi derbyn cais gan Aelod Cynulliad cyfranogol i brynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol:

(a)           bydd y cyfraniadau cyfnodol hynny, yn amodol ar ddarpariaethau paragraff 2 o’r Atodlen hon, yn daladwy:

(i)            yn achos cais o dan baragraff 1.1 o’r Atodlen hon, o ddyddiad pen-blwydd nesaf yr Aelod Cynulliad cyfranogol ar ôl i’r cais ddod i law'r Ymddiriedolwyr a hyd nes y bydd yr Aelod Cynulliad cyfranogol yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol; a

(ii)           yn achos cais o dan baragraff 1.2 o’r Atodlen hon, am ba gyfnod o dair neu bedair blynedd bynnag a ddewisir gan yr Aelod Cynulliad cyfranogol i dalu’r cyfraniadau cyfnodol, gan ddechrau ar ddyddiad - sydd heb fod yn hwyrach na deufis o’r dyddiad y derbyniwyd y cais - a bennir gan yr Ymddiriedolwyr drwy hysbysu’r Aelod Cynulliad cyfranogol yn ysgrifenedig;

(b)           o 1 Ebrill 2010 ymlaen, bydd cyfraniadau cyfnodol gan Aelod Cynulliad cyfranogol yn daladwy drwy eu didynnu o gyflog arferol yr Aelod, neu, yn achos Aelod Cynulliad cyfranogol sy’n dewis derbyn cyflog is, yn daladwy drwy ddidynnu o’i gyflog ostyngol ac yn seiliedig arno; ac yn achos ôl-ddyledion, yn y cyfryw fodd ag sy’n ofynnol gan yr Ymddiriedolwyr; a

(c)           cyfrifir y cyfraniadau cyfnodol sy’n daladwy gan Aelod Cynulliad cyfranogol ar gyfer y blynyddoedd ychwanegol yn unol â’r tablau a baratoir o dro i dro gan yr Actiwari.

2              Gwasanaeth Bylchog

2.1          Os yw Aelod Cynulliad cyfranogol yn marw neu’n peidio â bod yn Aelod Cynulliad oherwydd salwch o dan amgylchiadau y mae Rheol 46 {pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy’n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} neu Reol 47 {pensiwn haen 2 oherwydd salwch} yn gymwys iddynt, a

(a)           ei fod wedi gwneud cais i brynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol; a

(b)           bod yr Ymddiriedolwyr wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig eu bod wedi derbyn y cais;

ni fydd rhagor o gyfraniadau cyfnodol yn daladwy o’r diwrnod ar ôl dyddiad ei farwolaeth neu o’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n peidio â bod yn Aelod Cynulliad, yn ôl y digwydd, ac yn achos marwolaeth neu beidio â bod yn Aelod Cynulliad mewn amgylchiadau pan fo Rheol 46 {pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy’n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} yn gymwys bydd unrhyw flynyddoedd ychwanegol y gwnaeth gais i’w prynu drwy gyfraniadau cyfnodol yn cael eu credydu'n llawn fel gwasanaeth cyfrifadwy Aelod Cynulliad.

 

2.2          Os bydd Aelod Cynulliad cyfranogol sydd wedi gwneud cais i brynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol ac y derbyniwyd ei gais gan yr Ymddiriedolwyr yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad o dan amgylchiadau nad yw Rheol 46{pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy’n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} neu Reol 47 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch} yn gymwys iddynt, ni fydd y cyfryw gyfraniadau cyfnodol yn daladwy ganddo o’r diwrnod ar ôl y dyddiad pan fydd yn peidio â bod yn Aelod Cynulliad, ond cynyddir ei wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad mewn perthynas â phob cais gan (A x B) / C

lle-

A yw nifer y blynyddoedd ychwanegol y gwnaeth gais i’w prynu drwy gyfraniadau cyfnodol;

B yw’r cyfnod (a fynegir i’r diwrnod agosaf) lle talwyd cyfraniadau cyfnodol;

C yw cyfanswm y cyfnod pan fyddai cyfraniadau cyfnodol wedi bod yn daladwy yn unol â pharagraff 1.5(a)uchod.

2.3          Os yw aelod y bu is-baragraff 2.2 yn gymwys iddo wedyn yn dechrau cyfnod arall o wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol:

(a)           cyn ei fod yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol; a

(b)           cyn y dyddiad cychwyn,

mewn amgylchiadau lle mae’r cyfnodau gyda’i gilydd yn cyfateb i gyfanswm cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad, yna, yn ddarostyngedig i is-baragraffau 2.4 a 2.6, caiff hysbysu’r Ymddiriedolwyr yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad y cychwynnodd y cyfnod arall o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad ei fod yn bwriadu ailddechrau talu cyfraniadau cyfnodol mewn perthynas â’r blynyddoedd ychwanegol yr oedd yn gwneud cyfraniadau cyfnodol ar eu cyfer yn ei gyfnod union flaenorol o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad, a bydd y cyfryw gyfraniadau cyfnodol wedyn yn daladwy o’r dyddiad pan gychwynnodd y cyfnod arall o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad a byddant yn parhau hyd nes y bydd yr Aelod Cynulliad cyfranogol yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol ar gyfradd neu gyfraddau sy’n gymwys yn ystod y cyfnod union blaenorol hwnnw.

2.4          Pan fo aelod cyfranogol sydd wedi peidio â thalu cyfraniadau cyfnodol dim ond am ei fod wedi peidio â bod yn Aelod Cynulliad am gyfnod ond wedyn sydd wedi dod yn Aelod Cynulliad eto cyn y dyddiad cychwyn ac wedi ailddechrau prynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol yn unol ag is-baragraff 2.3, yn dod yn gymwys i bensiwn o dan Reol 32 wedi hynny, bydd ei wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad yn cynyddu yn unol ag is-baragraff 2.2 heblaw y darllenir C fel cyfanswm y cyfnod y byddai wedi talu cyfraniadau cyfnodol ar gyfer y blynyddoedd ychwanegol pe bai ei wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol wedi bod yn barhaus.

2.5          Os yw Aelod Cynulliad cyfranogol y bu is-baragraff 2.2 yn gymwys iddo wedyn yn dechrau cyfnod arall o wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol:

(a)           cyn ei fod yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol; a

(b)           cyn y dyddiad cychwyn,

mewn amgylchiadau lle mae’r cyfnodau gyda’i gilydd yn gwneud cyfanswm o gyfnod o wasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad, yna yn amodol ar is-baragraffau 2.4 a 2.6, caiff, os bu gostyngiad yn nifer y blynyddoedd ychwanegol y gall eu prynu yn llawn o ganlyniad i fwlch yn ei wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol, gyda chytundeb yr Ymddiriedolwyr ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraffau 1.1(b) a 5 o’r Atodlen hon, wneud cais i brynu rhai neu bob un o nifer y blynyddoedd ychwanegol a gynhwysir yn y gostyngiad hwnnw drwy gyfraniadau cyfnodol sy’n daladwy hyd nes y bydd yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol ar gyfradd sy’n gymwys i ben-blwydd nesaf yr Aelod Cynulliad cyfranogol, ar ôl i’w gais ddod i law'r Ymddiriedolwyr..

2.6          Ni fydd is-baragraffau 2.3, 2.4 a 2.5 yn gymwys os gwnaed y cais i brynu blynyddoedd ychwanegol cyn i’r Aelod Cynulliad cyfranogol beidio â bod yn Aelod Cynulliad o dan baragraff 1.2 uchod.

3              Prynu blynyddoedd ychwanegol drwy gyfandaliad

3.1          Yn amodol ar ddarpariaethau is-baragraff 3.2, caiff Aelod Cynulliad cyfranogol wneud cais ysgrifenedig i’r Ymddiriedolwyr cyn y dyddiad cychwyn am brynu blynyddoedd ychwanegol drwy dalu cyfandaliad.

3.2          Bydd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn cais i brynu blynyddoedd ychwanegol o dan y paragraff hwn 3 os bodlonir pob un o’r amodau canlynol mewn perthynas â’r cais hwnnw:

(a)           nad yw’r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi cyrraedd yr oedran ymddeol arferol;

(b)           bod yr Aelod Cynulliad cyfranogol yn gwneud cais i’r Ymddiriedolwyr o fewn y cyfryw gyfnod ag a ganiateir gan yr Ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn;

(c)           nad yw’r Aelod Cynulliad cyfranogol wedi gwneud cais i’r Ymddiriedolwyr o dan ddarpariaethau Rheol 46{pensiynau haen 1 oherwydd salwch sy’n seiliedig ar wasanaeth fel Aelod Cynulliad cyfranogol} neu Reol 47 {pensiynau haen 2 oherwydd salwch} am bensiwn cynnar oherwydd salwch;

(d)           nad yw nifer y blynyddoedd ychwanegol y mae’r aelod wedi gwneud cais i’w prynu yn fwy na’r uchafswm a ganiateir yn rhinwedd y cyfraniadau a ganiateir gan baragraff 5 o’r Atodlen hon; a

(e)           bod yr Aelod Cynulliad cyfranogol wedi darparu’r cyfryw wybodaeth a thystiolaeth i’r Ymddiriedolwyr ag y gofynnant amdani.

3.3          Caiff Aelod Cynulliad cyfranogol sydd wedi gwneud cais i brynu blynyddoedd ychwanegol o dan ddarpariaethau paragraff 1.2 ac y mae paragraff 2.2 yn gymwys iddo neu iddi, mewn perthynas â’r cyfryw gais:

(a)           os, o ganlyniad i beidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol, y bu gostyngiad yn nifer y blynyddoedd ychwanegol y gall eu prynu yn llawn;

(b)           os bodlonir amodau paragraffau 3.2(c), 3.2(d) a 3.2(e)mewn perthynas â’r cais a wnaed o dan yr is-baragraff hwn; a

(c)           os gwnaed y cais o dan yr is-baragraff hwn o fewn tri mis iddo beidio â bod yn Aelod Cynulliad cyfranogol, ac mewn unrhyw achos cyn y dyddiad cychwyn,

wneud cais ysgrifenedig i’r Ymddiriedolwyr am brynu rhai neu bob un o nifer y blynyddoedd ychwanegol a gynhwysir yn y gostyngiad hwnnw drwy dalu cyfandaliad ar y gyfradd sy’n gymwys ar ben-blwydd nesaf yr Aelod Cynulliad cyfranogol ar ôl i’r cais ddod i law'r Ymddiriedolwyr.

4              Talu cyfandaliadau

4.1          Bydd unrhyw Aelod Cynulliad cyfranogol sydd wedi gwneud cais i’r Ymddiriedolwyr am brynu blynyddoedd ychwanegol drwy dalu cyfandaliad, o fewn y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ar y dyddiad pan dderbyniodd yr Ymddiriedolwyr y cais, yn talu cyfandaliad a gyfrifir drwy gyfeirio at gyflog arferol Aelod Cynulliad ar yr adeg y derbyniodd yr Ymddiriedolwyr y cais ac yn unol â thablau a gaiff eu paratoi o dro i dro gan yr Actiwari, a chynyddir swm eu gwasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol yn unol â hynny yn weithredol o’r dyddiad y derbynia’r Ymddiriedolwyr y cyfandaliad.

4.2          Ar ôl i Aelod Cynulliad cyfranogol wneud cais i brynu blynyddoedd ychwanegol drwy dalu cyfandaliad ac ar ôl i’r Ymddiriedolwyr ei dderbyn, os na fydd y taliad yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ar y dyddiad pan dderbyniodd yr Ymddiriedolwyr y cais, bydd y cais i brynu yn peidio â bod yn ddilys.

5              Terfynau ar brynu blynyddoedd ychwanegol

5.1          Ni fydd cyfanswm cyfraniadau Aelod Cynulliad cyfranogol ar gyfer prynu blynyddoedd ychwanegol (pa un a wneir hynny fel cyfraniadau cyfnodol o dan baragraff 1 neu drwy gyfandaliad o dan baragraff 3), ar ôl eu cyfansymu â’i gyfraniadau ef o dan Reol 29 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} ac unrhyw gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol eraill yn fwy nag 20 y cant o gyflog arferol Aelod Cynulliad mewn unrhyw flwyddyn dreth.

6              Ceisiadau eraill i brynu blynyddoedd ychwanegol

6.1          Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon, caiff yr Ymddiriedolwyr dderbyn mwy nag un cais gan Aelod Cynulliad cyfranogol i brynu blynyddoedd ychwanegol drwy dalu cyfraniadau cyfnodol neu gyfandaliadau.

7              Cyfyngiadau ar brynu blynyddoedd ychwanegol a darpariaethau cyffredinol

7.1          Rhaid i’r Ymddiriedolwyr wrthod cais i brynu blynyddoedd ychwanegol ar 1 Ebrill 2011 neu wedi hynny os byddai’r cynnydd cyfatebol mewn gwasanaeth cyfrifadwy, o’i ystyried ar y cyd â “gwasanaeth cyfrifadwy a ragwelir” yr ymgeisydd, yn rhoi hawl i’r ymgeisydd gael pensiwn blynyddol o dan Reol 32  sy’n fwy na’r hyn sydd leiaf o’r canlynol:

(a)           y swm sy’n hafal i ddwy ran o dair o’r cyflog terfynol; neu

(b)           y swm sy’n hafal i ddwy ran o dair o’r uchafswm a ganiateir.

7.2          “Gwasanaeth cyfrifadwy a ragwelir” ymgeisydd yw’r gwasanaeth cyfrifadwy fel Aelod Cynulliad cyfranogol y byddai’r ymgeisydd yn ei gael pe bai wedi parhau fel y cyfryw ac wedi parhau i wneud cyfraniadau o dan Reol 29 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol} ar yr un gyfradd hyd nes:-

(a)           wrth wneud cais i brynu drwy gyfraniadau cyfnodol, ddiwedd y cyfnod y mae’r rhandaliadau yn daladwy ar ei gyfer, neu

(b)           wrth wneud cais i brynu drwy gyfandaliad, ddiwrnod yr etholiad cyffredinol nesaf.

7.3          Rhaid i’r Ymddiriedolwyr wrthod cais i brynu blynyddoedd ychwanegol os ydynt o’r farn y byddai hyn yn arwain at lwfans gydol oes neu lwfans taliad treth blynyddol mewn perthynas â’r ymgeisydd sy’n daladwy yn y drefn honno o dan adrannau 214 a 227 o’r Ddeddf Cyllid.

7.4          Nid yw darpariaethau’r Atodlen hon yn effeithio ar unrhyw uchafswm pensiwn a bennir mewn perthynas ag Aelod Cynulliad cyfranogol gan Reol 34.


 

ATODLEN 5

Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad

1              Bydd darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i bartner sifil fel y maent yn gymwys i briod a byddant yn gymwys i ddiddymiad partneriaeth sifil fel y maent yn gymwys i ysgariad ar ôl priodas. Caiff darpariaethau’r Atodlen hon eu dehongli yn y fath fodd fel na fydd unrhyw fudd-daliad ar ffurf cyfandaliad adeg marwolaeth yn daladwy ar farwolaeth cyfranogwr sy’n gyn-briod neu gynbartner sifil ar ôl 75 oed. Os bydd anghysondeb bydd y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon yn drech na holl ddarpariaethau eraill y Cynllun. Bydd i’r geiriau a ganlyn yr ystyron a ganlyn:-

Diffiniadau

Ystyr “cyfanswm y budd-daliad ymddeol” mewn perthynas â chyfranogwr yw cyfanswm:-

                   (a)        ei bensiwn o dan y Cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a

                   (b)        pensiwn sy’n cyfateb i gyfandaliad ei fudd-daliadau ymddeol ac yn achos cyfranogwr dosbarth A cyfrifir hyn fel un rhan o ddeuddeg o gyfanswm ei werth arian parod.

Ystyr “cynllun cysylltiedig”:

                   (a)        mewn perthynas â chyfranogwr dosbarth A, yw unrhyw gynllun perthnasol sy’n gynllun cysylltiol neu sy’n rhoi budd-daliadau mewn perthynas â gwasanaeth cyfrifadwy;

                   (b)        mewn perthynas â chyfranogwr dosbarth B, yw unrhyw gynllun perthnasol sy’n rhoi budd-daliadau mewn perthynas â gwasanaeth cyfrifadwy.

Ystyr “cyfranogwr dosbarth A” yw unrhyw gyfranogwr a ymunodd â’r Cynllun ar 1 Mehefin 1989, neu wedi hynny, neu unrhyw gyfranogwr arall sydd wedi dewis dod yn gyfranogwr dosbarth A (ni waeth sut y’i gelwir) o dan reolau’r Cynllun;

Ystyr “cyfranogwr dosbarth B” yw unrhyw gyfranogwr a ymunodd â’r Cynllun ar 17 Mawrth 1987 neu ar ôl hynny a chyn 1 Mehefin 1989 ac nad yw wedi dewis dod yn gyfranogwr dosbarth A;

Ystyr “cyfranogwr dosbarth C” yw unrhyw gyfranogwr a ymunodd â’r Cynllun cyn 17 Mawrth 1987 ac nad yw wedi dewis dod yn gyfranogwr dosbarth A;

Ystyr “cynllun cysylltiol” yw unrhyw gynllun perthnasol sy’n gysylltiedig â’r Cynllun mewn perthynas â chyfranogwr hynny yw:

                   (a)        os oes cyfnod lle bu’r cyfranogwr yn gyflogai i ddau gyflogwr cysylltiedig;

                   (b)        os yw’r cyfnod hwnnw yn cyfrif o dan y ddau gynllun fel cyfnod y mae budd-daliadau yn daladwy mewn perthynas ag ef;

                   (c)        os yw’r cyfnod yn cyfrif o dan un cynllun am wasanaeth gyda’r naill gyflogwr ac o dan gynllun arall am wasanaeth gyda’r llall.

At ddibenion y diffiniad hwn tybir bod cyflogwyr yn gysylltiedig os caiff y naill ei reoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y llall neu os caiff y ddau eu rheoli gan drydydd parti; ystyr rheoli yn y naill achos a’r llall yw’r ystyr a nodir yn Adran 840 o Ddeddf Trethi 1988 neu, yn achos cwmni caeedig, fel y nodir yn Adran 414 o Ddeddf Trethi 1988.

Ystyr “dibynnydd” yw person a fu’n ddibynnol yn ariannol ar yr aelod ac a ddylai yn briodol gael budd-daliad o dan y Cynllun ym marn yr Ymddiriedolwyr yn achos marwolaeth yr aelod pa un a yw’r aelod wedi hysbysu’r Ymddiriedolwyr ei fod yn dymuno i’r person hwnnw gael ei ystyried fel person sy’n cael y cyfryw fudd-daliadau ai peidio.

Ystyr “cyn-briod” yw unigolyn y dyrannwyd neu y dyrennir hawliau credyd pensiwn iddo yn dilyn gorchymyn rhannu pensiwn, cytundeb neu ddarpariaeth gyfatebol.

Ystyr “cyfranogwr sy’n gyn-briod” yw cyn-briod sy’n cyfranogi yn y Cynllun.

Ystyr “cyfandaliad budd-daliad ymddeol” yw gwerth cyfan yr holl fudd-daliadau ymddeol sy’n daladwy ar unrhyw ffurf ar wahân i bensiwn na ellir ei gymudo o dan y Cynllun hwn ac unrhyw gynllun gysylltiedig arall.

Ystyr “pensiwn gohiriedig negyddol” yw’r swm y gostyngir pensiwn neu bensiwn gohiriedig y cyfranogwr o dan y Cynllun a ddeilliodd/sy’n deillio o wasanaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar y dyddiad perthnasol o dan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 neu o dan ddeddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn gorchymyn rhannu pensiwn, cytundeb neu ddarpariaeth gyfatebol.  At y diben hwn, mae gwasanaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys pob cyfnod o wasanaeth gyda chyflogwyr eraill sy’n arwain at fudd-daliadau yn y Cynllun hwn lle gwnaed taliad trosglwyddo i’r Cynllun mewn perthynas â’r gwasanaeth arall hwnnw.

Diffinnir “cyfranogwr” yn Rheol 2.2 o’r Rheolau.

Ystyr “credyd pensiwn” yw credyd o dan adran 29(1)(b) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 neu o dan ddeddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon.

Ystyr “budd-daliad credyd pensiwn” mewn perthynas â chynllun yw’r budd-daliadau sy’n daladwy o dan y cynllun neu mewn perthynas â pherson oherwydd hawliau o dan y cynllun y gellir eu priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn.

Ystyr “hawliau credyd pensiwn” yw hawliau i fudd-daliadau o dan y cynllun yn y dyfodol y gellir eu priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn.

Ystyr “debyd pensiwn” yw debyd o dan adran 29(1)(a) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 neu o dan ddeddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon.

Ystyr “aelod â debyd pensiwn” yw cyfranogwr y mae ei fudd-daliadau wedi’u gostwng yn barhaol drwy ddebyd pensiwn. Bydd y cyfryw gyfranogwr:

                   (a)        yn gyfranogwr y mae ei enillion ar y dyddiad y diddymwyd neu y dirymwyd ei briodas yn fwy na ¼ yr uchafswm a ganiateir ar gyfer y flwyddyn asesu pan ddiddymwyd neu y dirymwyd y briodas. Cyflog arferol cyfranogwr at y dibenion hyn fydd cyfanswm y taliadau

(i)         a dalwyd i’r cyfranogwr o ganlyniad i wasanaeth pensiynadwy y mae’r Cynllun yn ymwneud ag ef yn ystod y flwyddyn asesu cyn y flwyddyn asesu pan ddiddymwyd neu y di-rymwyd y briodas, a

(ii)        y didynnwyd treth ohonynt yn unol â Rheoliadau Treth Incwm (Cyflogaethau) 1993.

Ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” yw unrhyw orchymyn neu ddarpariaeth y cyfeirir atynt yn adran 28(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 neu Erthygl 25(1) o Orchymyn Diwygio Lles a Phensiynau (Gogledd Iwerddon) 1999.

Ystyr “cynllun pensiwn personol” fydd yr ystyr a roddir iddo yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993.

Ystyr “gwasanaeth cyfrifadwy”:

                   (a)        mewn perthynas â chyfranogwr dosbarth A yw cyfanswm yr holl gyfnodau o wasanaeth a phob cyfnod arall sy’n cyfrif mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth gysylltiedig neu unrhyw gynllun cysylltiol;

                   (b)        mewn perthynas â chyfranogwr dosbarth B yw ei wasanaeth.

Ystyr “dyddiad perthnasol” mewn perthynas ag aelod yw’r dyddiad cynharaf o’r canlynol:-

                   (a)        y dyddiad y mae’n ymddeol;

                   (b)        y dyddiad y mae’n gadael ei swydd;

                   (c)        y dyddiad y mae’n marw;

                   (d)        y dyddiad y mae’n peidio â bod yn gyfranogwr; a

                   (e)        ei oedran ymddeol arferol.

Ystyr “cynllun perthnasol” yw unrhyw gynllun budd-daliadau ymddeol heblaw’r Cynllun sy’n gallu cael ei gofrestru at ddibenion treth neu sy’n ceisio cael ei gofrestru at ddibenion treth gyda Chyllid a Thollau EM.

Ystyr “gwasanaeth” yw cyfanswm y gwasanaeth cyfrifadwy fel y nodir Rheol 28{cyfanswm y cyfnod o wasanaeth cyfrifadwy};

2              Gellir aseinio holl fudd-daliadau ymddeol aelod neu ran ohonynt neu holl hawliau aelod i fudd-daliadau neu ran ohonynt o dan y Cynllun i’w gyn-briod i’r graddau y bo'r angen i gydymffurfio â gorchymyn rhannu pensiwn, cytundeb neu ddarpariaeth gyfatebol.

3              Caiff yr Ymddiriedolwyr wahodd cyn-briod i gyfranogi yn y Cynllun naill ai:-

(a)           ar gyfer darparu budd-daliad credyd pensiwn yn unig; neu

(b)           ar gyfer y ddarpariaeth gwbl wahanol ar gyfer budd-daliad credyd pensiwn lle mae budd-daliadau yn cronni neu wedi cronni i’r unigolyn hwnnw o dan y Cynllun am unrhyw reswm arall.

Bydd y gwahoddiad ar y cyfryw delerau ac amodau ag y penderfyna’r Ymddiriedolwyr arnynt. Bydd penderfyniad yr Ymddiriedolwyr ynghylch pa un a ddylid gwahodd cyn-briod i gyfranogi ai peidio yn un terfynol ac yn gyfrwymol ar bob parti.

4              Rhaid i’r Ymddiriedolwyr wneud darpariaeth i’r budd-daliad credyd pensiwn o dan y Cynllun gael ei drin yn un a ddarperir ar wahân i unrhyw fudd-daliadau a ddarperir o dan y Cynllun i’r un unigolyn fel cyfranogwr neu fel dibynnydd cyfranogwr.

5              Cynigir i’r cyn-briod gyfranogi yn y Cynllun naill ai pan fodlonir y gofyniad ym mharagraff 4, neu pan mae gan y cyn-briod fudd-daliadau credyd pensiwn yn unig o dan y Cynllun.

6              Bydd yr opsiynau canlynol ar gael i’r cyfranogwr sy’n gyn-briod mewn perthynas â’r budd-dal credyd pensiwn, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Nawdd Cymdeithasol.

(i)            Caniateir talu pensiwn ar gais cyfranogwr sy’n gyn-briod ar unrhyw adeg o'r oedran ymddeol arferol neu rhwng 60 a'r oedran ymddeol arferol ar sail a leiheir yn actiwaraidd. Ni chaniateir i'r cyfranogwr sy’n gyn-briod ohirio cychwyn y pensiwn y tu hwnt i’w ben-blwydd yn 75 mlwydd oed.  Os yw’n 75 mlwydd oed neu drosodd ar y dyddiad y gweithredir y gorchymyn rhannu pensiwn, rhaid dechrau talu’r pensiwn ar unwaith. Nid oes terfyn ar swm y pensiwn. Ni chaniateir cymudo, ildio nac aseinio’r cyfryw bensiwn, ac eithrio yn unol â Rheolau’r Cynllun. Rhaid i’r cyfryw bensiwn fod yn daladwy am oes oni chaiff ei gymudo’n llawn o dan baragraff 5(iv) a gellir ei warantu am hyd at uchafswm o bum mlynedd.

(ii)           Ni fydd gan y cyfranogwr sy’n gyn-briod yr opsiwn i dderbyn cyfandaliad wedi’i gymudo o ran o’r pensiwn pan ddaw’r pensiwn yn daladwy yn gyntaf.

(iii)          Pan mae cyfranogwr sy’n gyn-briod yn marw cyn daw budd-daliadau yn daladwy gellir gwneud budd-daliad ar adeg marwolaeth mewn cyfandaliad i unrhyw berson yn ôl disgresiwn yr Ymddiriedolwyr yn amodol ar uchafswm o bum gwaith y pensiwn sy’n daladwy ac yn ôl cyfryw derfynau’r Ddeddf Cyllid sydd mewn grym ar y pryd.

(iv)          Caniateir cymudo hawliau credyd pensiwn yn llawn ar sail bychander pan ddaw’r pensiwn yn daladwy yn gyntaf.  Pan mae gan y cyfranogwr sy’n gyn-briod hawl hefyd i fudd-daliadau o dan y Cynllun sy’n deillio o wasanaeth fel cyfranogwr at ddibenion penderfynu ar gyfanswm gwerth cyfanswm y budd-daliadau sy’n daladwy i’r cyfranogwr o dan y rheol bychander mae’n rhaid cynnwys budd-daliadau o'r hawliau credyd pensiwn. Pan mae gan y cyfranogwr sy’n gyn-briod hawl hefyd i fudd-daliadau o dan y Cynllun sy’n deillio o wasanaeth fel cyfranogwr, dim ond lle cymudir budd-daliadau sy’n deillio o wasanaeth fel cyfranogwr yn gyfamserol y caniateir cymudo hawliau credyd pensiwn yn llawn ar sail bychander.

(v)           Caniateir i gyfranogwr sy’n gyn-briod nad yw ei bensiwn wedi cychwyn eto ofyn i’r Ymddiriedolwyr drefnu i’w hawliau credyd pensiwn gael eu trosglwyddo i gynllun pensiwn cofrestredig arall yn unol ag adran 169 o’r Ddeddf Cyllid, os yw eisoes yn aelod o’r cynllun hwnnw neu yn gyfranogwr sy’n gyn-briod yn y cynllun hwnnw. Caniateir i'r cyfranogwr sy’n gyn-briod ofyn i’r Ymddiriedolwyr drefnu i’w hawliau credyd pensiwn gael eu trosglwyddo i unrhyw gynllun arall os bodlonir gofynion Cyllid a Thollau EM mewn perthynas â throsglwyddo i’r cynllun hwnnw. Rhaid i’r Ymddiriedolwyr gadarnhau gyda’r cynllun neu’r trefniant sy’n derbyn bod y gwerth trosglwyddo yn cynnwys yn gyfan gwbl neu’n rhannol hawliau credyd pensiwn er budd cyfranogwr sy’n gyn-briod.

(vi)          Ni fydd yr hawliau i fudd-daliad credyd pensiwn o dan y Cynllun yn absoliwt, ond gellir ei fforffedu os yw’r cyfranogwr sy’n gyn-briod yn mynd yn fethdalwr. Yna gellir talu’r cyfryw fudd-daliadau i unrhyw unigolion neu unigolyn a bennir gan yr Ymddiriedolwyr, yn ôl eu disgresiwn absoliwt.

7              Er gwaethaf unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Rheolau, mae budd-daliadau i aelod â debyd pensiwn hefyd yn amodol ar y terfynau canlynol, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth sy'n ymwneud â Nawdd Cymdeithasol:

(i)            Ni fydd y pensiwn yn fwy na chyfanswm y budd-daliad ymddeol namyn y pensiwn gohiriedig negyddol yn y Cynllun hwn a’r pensiwn gohiriedig negyddol mewn unrhyw gynllun cysylltiedig ac, at hynny, yn achos cyfranogwr dosbarth A, pensiwn gohiriedig negyddol mewn unrhyw gynllun cysylltiol.

(ii)           Ni fydd y cyfandaliad o’r Cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig;

(a)           i aelodau â debyd pensiwn neu gyfranogwr dosbarth A neu gyfranogwr dosbarth B yn fwy na swm a bennir yn ôl 2.25 x y pensiwn blynyddol cychwynnol sy’n daladwy.

(b)           i Aelodau â debyd pensiwn sy’n gyfranogwr dosbarth C yn fwy na’r swm mwyaf o’r canlynol:

(I)            2.25 x y pensiwn blynyddol cychwynnol sy’n daladwy neu
(II)           swm a bennir yn unol â'r Rheolau fel petai dim debyd pensiwn, namyn 2.25 x y pensiwn gohiriedig negyddol.

At ddibenion y paragraff hwn, dylid cyfrifo’r pensiwn blynyddol cychwynnol ar y sail ganlynol:

(aa)      os yw’r pensiwn sy'n daladwy ar gyfer flwyddyn yn newid, dylid defnyddio’r pensiwn cychwynnol sy’n daladwy;

(bb)     dylid cymryd yn ganiataol y bydd yr aelod â debyd pensiwn yn byw am flwyddyn;

(cc)       dylid anwybyddu effaith cymudo.

8              Os yw hynny'n briodol, rhaid i’r Ymddiriedolwyr roi manylion llawn y debyd pensiwn a thystysgrif cyfandaliad sy’n pennu’r uchafswm cyfandaliad a ganiateir i’r cynllun/trefniant sy’n derbyn lle trosglwyddir y gronfa sy’n sail i fudd-daliadau ar gyfer aelod â debyd pensiwn i gynllun pensiwn cofrestredig arall.

9              Os yw'r Ymddiriedolwyr yn derbyn taliad trosglwyddo ac os yw'r trosglwyddwr yn eu hysbysu o fanylion debyd pensiwn sy’n ymwneud â’r taliad trosglwyddo, rhaid i’r Ymddiriedolwyr roi sylw i'r debyd pensiwn, os yw hynny'n briodol, wrth gyfrifo unrhyw derfyn ar fudd-daliadau i’r cyfranogwr hwnnw.

10           Os yw’r cyn-briod yn marw ar ôl gwneud gorchymyn rhannu pensiwn, cytundeb neu ddarpariaeth gyfatebol ond cyn i’r Ymddiriedolwyr weithredu ar hynny, caniateir talu’r budd-daliadau canlynol. Caniateir gwneud budd-daliad mewn cyfandaliad ar adeg marwolaeth i unrhyw berson yn ôl disgresiwn yr Ymddiriedolwyr.  Cyfyngir ar y cyfandaliad i 25 y cant o’r hyn a fyddai wedi bod yn swm arian parod cyfatebol o’r gronfa a fyddai wedi darparu’r hawliau credyd pensiwn i’r cyn-briod.


Atodlen 6

Darpariaethau Trosiannol

Cymhwyso

1              Bydd y darpariaethau trosiannol yn yr Atodlen hon yn gymwys i gyfranogwr a oedd yn 55 oed neu drosodd ar 1 Ebrill 2012, ac a oedd mewn cyfnod parhaus o wasanaeth cyfrifadwy rhwng 1 Ebrill 2012 a'r dyddiad cychwyn.

Darpariaethau Trosiannol ar gyfer Cyfranogwyr

2              Os yw'r Atodlen hon yn gymwys i gyfranogwr, caiff ei bensiwn o dan Reol 41 neu Reol 42 ei gyfrifo gyda'r addasiadau a ganlyn:

(a)           bydd cyfeiriadau at y dyddiad cychwyn cael eu disodli gan 6 Mai 2021 yn y diffiniadau a'r Rheolau a ganlyn, ond os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn arfer ei bŵer o dan adran 4 o'r Ddeddf i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol nesaf y Cynulliad, mae'n golygu'r diwrnod ar ôl y bleidlais yn yr etholiad hwnnw:

(A)          Y diffiniad o "budd-daliadau CARE" a "budd-daliadau cyn system bensiynau CARE" a'r "ffactor cyfraniad" yn Rheol 2.2.

(B)          Rheol 29.2 {cyfraniadau gan Aelodau Cynulliad cyfranogol}

(C)          Rheol 30 {cyfraniadau gan ddeiliaid swyddi cyfranogol}

(D)          Rheol 32.2 {hawl Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr};

(E)          Rheol 33.3 {hawl deiliaid swyddi sy'n bensiynwyr};

(F)          Rheol 37.1{dyddiad y bydd yn weithredol a'r personau yr effeithir arnynt }; a

(G)          Rheol 38.1 {y swm sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr}

(H)          Rheol 39.1 {y swm sy'n daladwy i aelodau sy'n ddeiliaid swyddi}

(I)            Rheol 40.1{dyddiad y bydd yn weithredol a'r personau yr effeithir arnynt };

(J)           Rheol 41.1 {y swm sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad sy'n bensiynwyr};

(K)          Rheol 42 {y swm sy'n daladwy i aelodau sy'n ddeiliaid swyddi};

(L)           Rheol 55.2(b) {pensiynau ar gyfer dibynyddion sy'n oedolion sydd wedi goroesi}

(M)         Atodlen 1, paragraffau 9d. a 9e., 10b. ac 11d. ac 11e.

Darpariaethau Trosiannol ar gyfer Gweddwon a Phlant

3              Os yw'r Atodlen hon yn gymwys i gyfranogwr, caiff unrhyw bensiwn sy'n daladwy ar ei farwolaeth ei gyfrifo gyda'r addasiad a ganlyn:

(b)           yn Rheol 55.2 caiff cyfeiriadau at y dyddiad cychwyn eu disodli gan [1 Mai 2021]


 

ATODLEN 7

Prisiadau o'r Cap ar Gostau'r Cyflogwr

Prisiad

1.             Rhaid i Actiwari'r Llywodraeth gyfrifo'r cap ar gostau'r cyflogwr a chynnal prisiadau dilynol o'r cap ar gostau'r cyflogwr yn y Cynllun er mwyn cyfrifo cost y cap ar gostau yn y Cynllun, yn unol â'r Atodlen 7 hon a chyfarwyddiadau'r Trysorlys o dan adrannau 11 a 12 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dyddiad y daw'n weithredol

2.             Y cap dros dro ar gostau'r cyflogwr yw 14.4 y cant o enillion pensiynadwy aelodau'r Cynllun;

3.             y dyddiad y daw'r prisiad cyntaf o'r cap ar gostau yn weithredol fydd 1 Ebrill 2017;

4.             Rhaid i'r ail brisiad o'r cap ar gostau yn y Cynllun, a phob prisiad wedi hynny, fod â dyddiad gweithredol sydd dair blynedd yn hwyrach na dyddiad gweithredol y prisiad blaenorol.

Prisiadau o'r Cap ar Gostau

5.             Rhaid gwneud prisiadau actiwarïaid o'r Cynllun yn unol â chyfarwyddiadau'r Trysorlys o dan adran 11 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus.

6.             Rhaid i gost y cap ar gostau gael ei gyfrifo fel yr oedd ar bob dyddiad y prisiad o'r cap ar gostau yn unol â chyfarwyddiadau'r Trysorlys o dan adran 12 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cymharu â'r cap ar gostau'r cyflogwr

7.             Ar bob prisiad o'r cap ar gostau, rhaid i Actiwari'r Llywodraeth gymharu cost y cap ar gostau â'r cap ar gostau'r cyflogwr.

8.             Pan fo cost y cap ar gostau yn mynd y tu hwnt i'r ffin o boptu’r cap ar gostau'r cyflogwr, a bennir mewn rheoliadau o dan adran 12(5)(a) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus, rhaid i'r Bwrdd Taliadau ymgynghori â'r cyfryw berson y bydd unrhyw gamau a gymerir yn debygol o effeithio arno, er mwyn ceisio dod i gytundeb ynghylch y camau i'w cymryd i gyrraedd sefyllfa lle bo cost y cap ar gostau yn gyfartal â'r cap ar gostau'r cyflogwr.  Oni ellir dod i gytundeb ar ôl ymgynghori yn y cyfryw fodd ynghylch y camau i'w cymryd i gyrraedd y sefyllfa honno, rhaid i'r Bwrdd Taliadau fabwysiadu'r dull a ddisgrifir yn (a) neu (b) isod i gyfuno dulliau i sicrhau'r cyfryw sefyllfa:

(a)           y ffracsiwn priodol at ddibenion Rheol 38.2 o'r Cynllun fel swm y pensiwn a enillwyd am flwyddyn i'w addasu ar gyfer gwasanaeth cyfrifadwy ar ôl dyddiad yr addasiad yn ôl y cyfryw swm ac am y cyfryw gyfnod a argymhellir gan yr Actiwari; a/neu

(b)           y ganran briodol at ddibenion Rheolau 29 a 30 o gyfraniadau Aelodau Cynulliad cyfranogol a deiliaid swyddi cyfranogol am flwyddyn i'w haddasu ar gyfer gwasanaeth cyfrifadwy ar ôl dyddiad yr addasiad yn ôl y cyfryw swm ac am y cyfryw gyfnod a argymhellir gan yr Actiwari;

fel bod cost y cap ar gostau mewn unrhyw achos (neu gyfuniad) yn gyfartal â'r cap ar gostau'r cyflogwr.